John Roberts Williams - y dyn ffilmiau Gwenno Ffrancon son am ffilm Gymraeg arloesol a gwerthfawr
Y mae Gwenno Ffrancon yn ddarlithydd ar Ffilm ym Mhrifysgol Cymru Bangor. Hi yw awdur Cyfaredd y Cysgodion un o'r llyfrau sydd yn ras Llyfr y Flwyddyn, 2005.
Hi wahoddwyd i drafod cyfraniad John Roberts Williams i fyd ffilm yng Nghymru mewn cyfarfod teyrnged ym Mhencaenewydd, Efionydd, Mai 7, 2005. Dyma oedd ganddi i'w ddweud:
P'nawn da. Mae'n dda iawn gen i gael bod yma y prynhawn yma i gofio am a thalu teyrnged i un o gymwynaswyr mawr y genedl. Fe hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i Mer锚d am drefnu'r cyfarfod coffa haeddiannol hwn i John Roberts Williams ac am y gwahoddiad i ddod yma i fwrw golwg dros gyfraniad gwerthfawr John i ddatblygiad y cyfrwng ffilm yng Nghymru.
Rhyw saith mlynedd yn 么l, fe ges i'r fraint o dreulio amser yng nghwmni John yn hel atgofion am y cyfnod a dreuliodd ar ddiwedd y 1940au yn llunio ffilmiau.
Fe gynhyrchodd rhyw ddyrnaid o ffilmiau am Gymru ac Iwerddon gyda chymorth y ffotograffydd amryddawn Geoff Charles.
Y ffilm a dderbyniodd ein sylw pennaf y bore hwnnw ym 1998 oedd Yr Etifeddiaeth - a'r trysor hwn, felly, yw canolbwynt fy sgwrs i heddiw.
Gelyn perygl! Fel mae nifer ohonoch chi'n gwybod dwi'n si诺r, chafodd y ffilm a'r sinema ddim llawer o groeso gan ddeallusion Ymneilltuol Cymreig yn ystod yr ugeinfed ganrif. Fe fydd rhai ohonoch chi'n gyfarwydd am wn i ag un o'r prif wrthwynebwyr, sef yr Henadur William George, brawd Lloyd George.
Roedd e'n gadarn o'r farn fod y cyfrwng yn un o elynion perycla'r iaith, tra bod Saunders Lewis yn ystyried y ffilm yn "hupnosis breuddwydiol rhywiol sy'n lladd yr enaid".
Ond er bod cewri diwylliannol fel y rhain yn pryderu'n fawr am ddylanwad y cyfrwng ar iaith a diwylliant Cymru, roedd y werin bobl yn dotio ar waith s锚r fel Charlie Chaplin, Judy Garland, Fred Astaire a Ginger Rogers. Roedd y ffilmiau hyn yn ddihangfa, yn ddiddanwch ac yn hwyl.
Y gyntaf Un a sylweddolodd fod y cyfrwng ffilm yn debygol o fod yn un o brif ddylanwadau'r ugeinfed ganrif oedd Syr Ifan ab Owen Edwards. Dyma'r gŵr a luniodd y 'talkie' - y ffilm lafar Gymraeg gyntaf ym 1935, sef Y Chwarelwr.
Ffilm oedd hon oedd yn dyrchafu'r chwarelwr Cymraeg gan ganolbwyntio ar ei fywyd teuluol, ei ymlyniad wrth y capel, ei bwyslais ar addysg er mwyn dod ymlaen yn y byd a'i grefft wrth ei waith yn y chwarel.
Fe dderbyniodd y ffilm groeso cynnes gan y Cymry oherwydd ei bod yn ddarlun twymgalon o fywyd fel yr oedd mewn degau o gymunedau.
Ond fe aeth rhyw ddeuddeng mlynedd heibio cyn i'r ffilm Gymraeg ei hiaith nesaf ymddangos ar sgriniau mawr Cymru, a ffrwyth gweledigaeth unigolyn arall oedd yr ail ffilm lafar Gymraeg hon, gweledigaeth John Roberts Williams.
Newyddiadurwr craff Roedd John yn ymwybodol iawn o gyfraniad Syr Ifan a'i ffilm Y Chwarelwr, ond erbyn diwedd y 1940au, doedd y ffilm ddim yn cael ei harddangos yn gyhoeddus a'r Cymry unwaith eto yn troi at Hollywood a stiwdios Lloegr am eu hadloniant.
A fynte'n newyddiadurwr craff ac yn olygydd Y Cymro daeth John i'r casgliad y byddai'n syniad da iddo lunio ffilm Gymraeg arall.
Rhywbeth arall a oedd wedi ei ysgogi i lunio'r gwaith hwn oedd ei awydd i annog ei gyd Gymry i werthfawrogi eu hetifeddiaeth, eu gwlad, eu diwylliant a'u hiaith drwy roi ar gof a chadw nifer o draddodiadau ac arferion a oedd yn prysur farw o'r tir.
Yr Etifeddiaeth, felly, oedd y teitl naturiol i'w roi i'r ffilm.
Y nod oedd dangos i'r Cymry, yng ngeiriau John, "Y cyfoeth a all lithro o'u dwylo mor hawdd." Ac mewn sgwrs radio ym 1949, esboniodd eto, "Sylweddolais mai ffilm yn unig a allai wneud y gwaith hwn. Yr oedd yn rhaid i'r llygad weld cyn y gallasai'r galon ddeall."
Y cynllun gorau Penderfynodd John o'r cychwyn cyntaf mai creu ffilm ddogfen heb gynnwys unrhyw actorion na deialog, ac yn bendant dim melodrama, oedd y cynllun gorau.
Gwyddai, yn nodweddiadol graff, y byddai creu ffilm yn ymwneud 芒 Chymru gyfan yn faes rhy eang ac yn fenter rhy gostus. Felly dyma benderfynu canolbwyntio ar ddarlunio ei filltir sgw芒r, ei fro enedigol, sef Ll欧n ac Eifionydd - y fro 'rhwng m么r a mynydd'.
Daeth Ll欧n ac Eifionydd, felly, i gynrychioli bywyd Cymru ar ei orau yn Yr Etifeddiaeth. Llafur cariad dros Gymru oedd y gwaith a wnaeth John a Geoff Charles ar yr ffilm hon. Roedd y ddau, wrth gwrs, yn dal swyddi llawn amser ac felly bu'n rhaid iddyn nhw dreulio eu penwythnosau yn llunio'r ffilm a hynny dros gyfnod o bymtheg mis yn ystod 1947 a 1948.
Wedi misoedd o waith caled, ynghanol tywydd anwadal Cymru, fe gwblhawyd y ffilmio, fe olygwyd y deunydd i lenwi hanner can munud ac fe ychwanegwyd traethiad gan Cynan - traethiad, fe ddylwn i nodi, a recordiwyd mewn un 'take' yn unig - dyna i chi fesur dawn Cynan fel traethydd!
Y pensaer John oedd pensaer y ffilm yn ddi-os. Ef oedd yr un a ddewisodd yr elfennau i'w cynnwys a'u hepgor yn y gwaith, ef a arweiniodd Geoff o gwmpas yr ardal yn canfod beddau, cofebau a chymeriadau i'w dogfennu, ac ef luniodd y traethiad a lefarwyd mor ddidrafferth gan Cynan.
Ef hefyd ddewisodd y tywysydd mud sy'n clymu at ei gilydd olygfeydd y ffilm o rinweddau amlwg Ll欧n ac Eifionydd, sef Freddie Grant.
Roedd Freddie yn ifaciw卯 ifanc croenddu o Lerpwl a oedd wedi ymgartrefu yn nh欧; Eliseus Williams, cyn brifathro ysgol Llangybi a chyfaill i John.
trysorau Ll欧n acEifionydd Lluniodd John wers hanes a'i chyflwyno ar ffilm i'w gyd Gymry. Mae'n ein tywys yn Yr Etifeddiaeth o gwmpas trysorau Ll欧n ac Eifionydd, er enghraifft cromlech Rhos-lan, Tre'r Ceiri ar fynydd yr Eifl, Castell Cricieth, Eglwys Aberdaron, a bedd un o arwyr pennaf yr ardal, David Lloyd George, yn Llanystumdwy.
Mae'n rhoi sylw i ddiwylliant gwerin y fro, gan dalu gwrogaeth i grefftwyr ac amaethwyr yr ardal sydd hefyd yn feirdd, yn llenorion ac yn bregethwyr - dynion fel Robert ap Gwilym Ddu, Eben Fardd, Eifion Wyn a Myrddin Fardd.
terfyn oes aur Ond Cybi, sef Robert Evans, postman wrth ei alwedigaeth, sydd yn eu cynrychioli yn y cnawd ac ef sy'n dynodi terfyn oes aur beirdd a llenorion Ll欧n ac Eifionydd.
Ry'n ni'n gweld Cybi yn y ffilm yn eistedd yn nrws ei fwthyn, yn edrych yn anghysurus iawn wrth ddangos ei gasgliad o lyfrau i Freddie Grant.
Pan fues i'n cyfweld John, gan drin a thrafod ei brofiadau yn ffilmio roedd e'n cael tipyn o hwyl wrth gofio sut y bu ffilmio'r hen fardd yn dipyn o her!
Mae'n debyg, a fynte'n byw mewn bwthyn digon llwm heb drydan, y bu raid llusgo Cybi at garreg ei ddrws i'w ffilmio yng ngolau 'lamp y plwyf', chwedl John.
Mae wyneb Cybi yn y ffilm yn dangos ei fod yn cas谩u pob munud o'r profiad!
Wrth eu gwaith Ond o safbwynt yr hanesydd cymdeithasol ac efallai, y gwyliwr cyffredin heddiw, un o rannau mwyaf gwerthfawr y ffilm yw'r lluniau o drigolion Ll欧n ac Eifionydd wrth eu gwaith bob dydd.
Amaethyddiaeth, sef prif gynhaliaeth yr ardal, sy'n cael y sylw pennaf ac mae pwysigrwydd crefft gyntaf dynolryw yn cael ei bwysleisio'n aml gan John, y mab fferm. Mae yna olygfeydd o Laethdy Rhydygwystl, ger Chwilog, oedd yn dosbarthu llaeth cyn belled 芒 Lerpwl; peiriant sychu a chreu cesig gwair yn awyrendy Penrhos; a Melin Goed Rhos-fawr oedd yn cerfio offer amaethu megis pladuriau a chribiniau.
Mae'r ffilm yn tynnu sylw hefyd at gyfraniad y ffeiriau amaethyddol i fywyd y fro drwy ddarlunio ffermwyr yn ffair Cricieth yn archwilio pladuriau oedd wedi eu llunio yn Rhos-fawr ac yn bwrw golwg feirniadol dros geffyl oedd ar werth.
Disodli hen ddulliau Fe welwn ni hefyd sut roedd technoleg newydd wedi dechrau disodli'r hen ddulliau o ffermio, gyda'r ceffyl yn ildio'i le i beiriannau - ac ymysg y golygfeydd trawiadol hyn mae lluniau o dad a brawd John ei hun yn hel gwair.
Fflach arall o hanes yn cael ei greu yw'r golygfeydd o Tomi, gwas fferm Bodfael a'r olaf o'i fath yn Ll欧n, yn mynd i'r ffair bentymor ym Mhwllheli, i chwilio am waith. Mae'r darluniau'n swynol iawn, a dwi'n siwr y byddai John gyda'r cyntaf i gytuno 芒 mi, mai i Geoff Charles mae'r diolch am hynny.
Gadawodd John a Geoff i fywyd lifo yn ei flaen heb unrhyw ymyrraeth ac, o ganlyniad, mae nhw wedi llwyddo i gipio golygfeydd unigryw a naturiol iawn.
I'r genedl gyfan Mae'r ffilm hefyd yn ddogfen bwysig i'r genedl gyfan gan ei bod yn anfarwoli wynebau cymeriadau enwog y cyfnod megis aelodau'r Orsedd, gan gynnwys Archdderwyddon fel Elfed a Chynan ei hun.
Fe gawn ni gip ar eisteddfodwyr selog fel Bob Owen Croesor, D. J. Williams Abergwaun, Gwenallt a T. H. Parry-Williams a'i wraig Amy, ac mae yna luniau hefyd o Tom Nefyn yn pregethu ar y stryd yn ffair Pwllheli.
Ond feddyliodd John na Geoff am eiliad y bydden nhw yn llunio cofnod o gymaint a fyddai'n diflannu yn y blynyddoedd i ddod.
Fel y dywedodd John ei hun wrtha i ym 1998 am y dasg o benderfynu beth i'w ffilmio, "Tydi rhywun ddim yn credu yng ngwaelod ei galon fod yna rywbeth mawr yn mynd i newid."
Doedden nhw ddim yn gwybod tan yn ddiweddarach, er enghraifft, iddyn nhw ffilmio'r ceffyl olaf i gael ei werthu yn ffair Cricieth.
Darluniau gonest Cymwynas fawr arall y ffilm yw'r darluniau o hen arferion amaethyddol sydd ar gof a chadw ar seliwloid, megis yr hen ddull o gneifio a medi'r cynhaeaf, a hen ddulliau gwaith y chwarel wenithfaen yn Nhrefor.
O ganlyniad, mae lle i ddadlau mai prif rinwedd y ffilm yw'r darluniau gonest hyn o etifeddiaeth a oedd ar fin dirwyn i ben yn sgil moderneiddio Cymru wedi'r Ail Ryfel Byd.
Neges anodd ei llyncu Ond i mi, yr hyn sydd gwneud Yr Etifeddiaeth yn drysor o ffilm, yw parodrwydd John i ddefnyddio'r cyfrwng i gyflwyno neges anodd ei llyncu i'r Cymry; i brocio'r cydwybod ac ysgogi gweithredu.
Roedd yn gwybod yn iawn mai dyma'r cyfrwng a gyrhaeddai'r mwyafrif o bobl yng Nghymru - llawer mwy na'r radio neu'r papur newydd.
O ganlyniad, fe fuodd e'n graff iawn wrth ddefnyddio'r cyfrwng hwn i'w ddibenion ei hun a dewis y sinema fel ei bulpud.
Y neges roedd e am ei chyflwyno oedd y modd roedd etifeddiaeth y Cymry yn cael ei llesteirio gan fygythiadau estron.
Meddyliwch am yr holl fygythiadau hyn oedd yn dod i mewn a John yn tynnu sylw atyn nhw trwy gyfrwng y ffilm - dylanwad Seisnig y radio, y wasg a'r sinema ar ddiwylliant a iaith Cymru, er enghraifft!
A mae'n clustnodi'n bennaf wersyll gwyliau Butlin's ym Mrynbachau a oedd yn ei farn ef yn fygythiad uniongyrchol i barhad traddodiadau Ll欧n ac Eifionydd.
Ffilmiau eraill Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf i'r cyhoedd yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau ym mis Awst 1949. Roedd yna d欧 llawn ar gyfer yr holl ddangosiadau a gynhaliwyd bob noson o'r wythnos.
Ond gan nad oedd Yr Etifeddiaeth ar ei phen ei hun yn ffilm digon hir i wneud noson ohoni, fe ddangoswyd hefyd sawl ffilm fechan arall a luniwyd gan John a Geoff ar ran Y Cymro.
Dangoswyd ffilm am bapur newydd Y Cymro yn mynd i'r wasg; ffilm o g么r Coed-poeth ym Madrid - mae hon yn cynnwys darluniau o ymladd teirw; a ffilm o d卯m p锚l-droed Cymru yn curo Gwlad Belg 5-1 yng Nghaerdydd.
Ond y ffilm fwyaf gwerthfawr yn y casgliad hwn a ddangoswyd ym 1949, ar wah芒n i'r Etifeddiaeth hynny yw, yw Tir Na'n Og.
Mae hon yn ffilm y gellir ei hystyried yn chwaer i'r Etifeddiaeth gan ei bod, trwy gyfrwng nifer o ddarluniau hanesyddol gwerthfawr, yn darlunio ffordd o fyw mewn rhanbarth cwbl Wyddelig o Iwerddon, sef Connemara.
Ei gamp fawr Camp fawr John Roberts Williams a Geoff Charles, felly, trwy gyfrwng Yr Etifeddiaeth oedd darlunio, cofnodi a dathlu bywyd beunyddiol mewn un cornel fechan o Gymru, sef Ll欧n ac Eifionydd.
Ac fe wnaeth y ddau hynny ar adeg pan oedd y bywyd hwnnw'n cael ei sathru dan draed rhuthr amser.
Teyrnged ddiedifar ac anfeirniadol yw Yr Etifeddiaeth i'r werin bobl oedd yn cynnal yr iaith a'r diwylliant Cymreig.
Mae edmygedd a chariad John at ei ardal enedigol i'w weld yn amlwg yn y ffilm hon, ond yr hyn sy'n amlycach fyth yw cariad John at ei genedl, ei iaith a'i ddiwylliant.
Mae'n dda gen i ddweud bod ei gyfraniad pennaf i ffilm, Yr Etifeddiaeth, wedi ei hadfer a'i gosod ar d芒p fideo er budd y genedl gyfan gan Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.
Fy ngobaith personol i yw y bydd pob Cymro a Chymraes yn ei gwylio, yn myfyrio ar y neges sydd ynddi ac yn rhyfeddu at flaengarwch John a ddangosodd, unwaith yn rhagor, ei fod yn gallu troi ei law at bob un o'r cyfryngau.
Dr Gwenno Ffrancon, Prifysgol Cymru Bangor. 7 Mai, 2005
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|