'Rush Hour 3' (2007) Ffrindiau gwahanol yn swyno
Y S锚r:
Jackie Chan, Chris Tucker, Max Von Sydow, Noemi Lenoir, Hiroyuki Sanada
Cyfarwyddo:
Brett Ratner
Sgrifennu:
Jeff Nathanson
Hyd:
91 munud
Adolygiad Shaun Ablett
Mae Jackie Chan a Chris Tucker n么l eto fel dau gymeriad na fyddech chi byth yn eu dychmygu fel dau ffrind agos, a dyna pam mae'r ffilmiau hyn mor boblogaidd.
Dair blynedd wedi eu ffilm ddiwethaf mae Lee (Jackie Chan) nawr yn amddiffynnydd i'w ffrind, y Llysgennad Han (Tzi Ma), ac nid yw Carter (Chris Tucker) yn dditectif mwyach ond yn blismon sy'n edrych ar 么l yr heolydd mewn rhan o Los Angeles.
Dydy nhw ddim yn ffrindiau agos erbyn hyn oherwydd i Lee saethu sboner Carter a'i hanafu mewn camgymeriad.
Mae'r stori yn y ffilm newydd yn debyg iawn i'r hyn gafwyd yn y ddwy ffilm arall gan ddechrau gyda Han yn cael ei saethu oherwydd iddo ddarganfod pwy yw'r dyn sy'n rhedeg 'Maffia' China.
Pan yw Lee yn dala'r llofrudd gwelwn taw Kenji (Hiroyuuki Sanada) brawd Lee yw'r llofrudd.
Ond mae Lee yn ei adael yn rhydd pan yw'n methu a'i saethu.
O'r fan hon ymlaen, mae'r daith yn dechrau i Lee a Carter, a chyn bo hir dychwelwn i Baris lle maen nhw'n cwrdd 芒 Genevieve (Noemi Lenoir), sy'n gwybod enwau aelodau'r Maffia i gyd.
Ar ddiwedd y ffilm, mae Lee a Kenji yn ymladd uwchben T诺r Eiffel, a Kenji yn cael ei ladd wrth arbed ei frawd.
Cawn berfformiad rhagorol arall gan Jackie Chan a Chris Tucker gan brofi nad oes ddau ffrind doniolach i'w cael yn y byd!
Ac mae'r ffaith fod y ddau mor wahanol o ran personoliaeth a diwylliant yn dod ag elfennau doniol iawn i'r ffilmiau. Dim rhyfedd eu bod mor boblogaidd.
Ond, I fod yn onest, hoffais yr ail ffilm yn fwy na'r drydedd gan imi deimlo fod y cyfarwyddwr yn hysb o syniadau.
Ond wedi dweud hynny, os rydych wedi hoffi'r ddwy ffilm gyntaf mae digon yn hon hefyd i blesio pawb.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 成人论坛 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|
|