Harry Potter and the Order of the Phoenix Premier cyntaf gohebydd Ffeil!
A hithau'n un o ffans mawr Harry Potter mae Catrin Heledd o'r rhaglen deledu Ffeil wedi canmol ffilm ddiweddaraf yr arwr hudolus am ei haeddfedrwydd.
Yr oedd Catrin Heledd yn bresennol yn nangosiad cyntaf Harry Potter and the Order of the Phoenix yn Llundain Gorffennaf 3, 2007, lle cyferfu rai o'r prif actorion.
Y fwyaf aeddfed "Rwy'n ffan mawr o'r ffilmiau i gyd ond mae rhai ohonyn nhw wedi bod yn siomedig - y gyntaf yn benodol - ond y ffilm hon yn bendant yw'r fwyaf aeddfed o'r pum ffilm," meddai ar Post Pnawn Gorffennaf 4 2007, yn cael ei holi gan Gareth Glyn.
"Mae'n eithaf tywyll ac o'r dechrau mae'n eithaf brawychus ac mae'r tystysgrif 12 yn bendant yn addas achos mae cymeriadau tywyll iawn a drwg iawn," meddai.
Ychwanegodd nad oes amheuaeth fod y cyfarwyddwr newydd, David Yates, wedi gosod ei stamp ar y ffilm.
"Mae'n wahanol iawn i'r pedair arall rydym ni wedi'u gweld ," meddai.
Dywedodd fod yr actio hefyd yn "fwy aeddfed".
"Mae'r rhai ifanc, yn amlwg, wedi tyfu lan ac mae'r actorion h欧n hefyd mor brofiadol maen nhw'n ychwanegu cymaint at y ffilm. Pobl fel Alan Rickman, Imelda Staunton a Maggie Smith - maen nhw i gyd yn brofiadol ac yn ychwanegu lot at y dweud," meddai.
'Yn eu helfen' Hwn oedd premier cyntaf Catrin meddai a dywedodd ei bod wrth ei bodd.
"Mae ffaith mod i wedi cael ei gweld hi [y ffilm] rhyw wythnos a hanner cyn fy ffrindiau wedi ngneud i yn eithaf poblogaidd!" meddai.
"O ran y premier ei hun, wel, llwythi o gamer芒u, gyda llwythi o ffans yno hefyd. Roedden nhw wedi bod wrthi am oriau yn ciwio er mwyn cael cipolwg ar rai o s锚r y ffilm. Ac roedden nhw'n mynd yn wallgof.
"Ond roedd y cast ifanc yn eu helfen yn mwynhau'r holl sylw gan y wasg a'r cyhoedd. Roedden nhw'n aros i gael eu lluniau wedi eu tynnu, arwyddo posteri ac ati felly roedden nhw'n amlwg wrth eu bodd gyda'r cyfan.
"Ond roedd yna lwyth o selebs eraill hefyd - pobl fel Joe Wiley, Graham Norton, Lilly Allen, felly roeddwn i'n cael cipolwg ar lwythi o selebs yn cerdded ar y carped coch," meddai.
A chafodd gyfle i holi ambell un.
"Yr oedd yn brofiad od iawn achos roeddwn wedi gwylio'r ffilm ychydig o oriau ynghynt ac felly i gael pobl fel Daniel Radcliffe yn dod i sefyll o mlaen i roeddwn i'n eithaf star struck ond roedden nhw i gyd yn barod iawn i siarad ac yn barod iawn i ateb unrhyw gwestiyna.
Wrth ei fodd "Fe wnes i ofyn i Rupert Grint sy'n chwarae rhan Ron Weasley shwd oedd e wedi mwynhau'r profiad ac roedd e'n dweud ei fod wrth ei fodd a'i fod ef yn teimlo fod y ffilmiau wedi aeddfedu erbyn hyn a'i fod ef fel cymeriad wedi cael datblygu," meddai.
"O ran Harry Potter ei hun [Daniel Radcliffe] wnes i fynd a'r [llyfr] Harry Potter Cymraeg gyda fi a wnes i ofyn iddo a oedd e'n gwybod bod yna Harry Potter Cymraeg ac yr oedd e'n ymwybodol bod Harry yn yr iaith Gymraeg a bod yna sillafiad Cymraeg hefyd," meddai.
Ac roedd ganddo fe ambell i air yn Gymraeg i ddweud wrthyf i. 'Nos Da', dwi'n meddwl, oedd y mwyaf gefais i allan ohono fe. Ond roedd e'n bendant yn ymwybodol bod yna iaith Gymraeg a bod yna Harry Potter Cymraeg yn bodoli."
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|