The Phantom of the Opera Syllu am oriau i ffenest siop?
Y s锚r Gerard Butler, Emmy Rossum, Patrick Wilson, Miranda Richardson, Minnie Driver, Michael Weston, Ciar谩n Hinds, Simon Callow
Cyfarwyddwr Joel Schumacher
Sgrifennu Joel Schumacher, Andrew Lloyd Webber yn dilyn nofel Gaston Leroux, Le Fant么me de l'opera (1910),
Hyd 142 munud
Sut ffilm Ffilm gerdd sy'n addasiad o sioe lwyfan oedd yn addasiad o nofel Ffrengig a gyhoeddwyd yn 1911.
Y stori Yn fwyaf sydyn caiff Christine (Emmy Rossum) sy'n canu yng nghorws yr opera ym Mharis ei dyrchafu i flaen y llwyfan.
Yr hyn nad yw hi'n ei sylweddoli yw mai i athrylith cerddorol (Gerard Butler) sy'n byw ynghudd yn siamberi tanddaearol y t欧 opera y mae'r diolch am ei llwyddiant annisgwyl.
Ef yw y Phantom sydd dros ei ben a'i glustiau mewn cariad 芒 hi.
A'i wyneb wedi'i anharddu mae'n gwisgo mwgwd pan yw'n cyflwyno'i hun iddi.
Mae ei genfigen yn cael ei fflamio pan fo hithau yn dechrau ymddiddori mewn llanc ifanc deniadol (Patrick Wilson).
Y darnau gorau Caneuon poblogaidd fel Music of the Night.
Y Phantom yn ymuno 芒 dawns y mygydau.
Perfformiadau Gwyliwch Minne Driver fel y diva, Carlotta. Mae'n deg tybio mai hi yw'r unig un o'r actorion sy'n cael hwyl yn y ffilm?
Gystal 芒'r trelar? Mae'n sioe mor gyfarwydd, gwyddai pawb beth i'w ddisgwyl.
Ambell i farn Claear fu'r ymateb cyffredinol ond i'r cyfryngau yn Lloegr fopio efo Jennifer Ellison, sy'n chwarae rhan dawnswraig bale.
Perthyn iddi hi y rhinweddau oll o fod yn fronnog ac wedi bod mewn opera sebon ar y teledu, Brookside
Crynhodd y Sunday Times natur synthetig a llesg y cynhyrchiad trwy ddweud yn ddeifiol fod gwylio'r ffilm yr un fath ag eistedd am oriau yn gwylio ffenest siop sydd wedi'i haddurno'n hardd.
"Does yma ddim un rhan o ddeg o'r dychymyg a'r asbri a welwyd yn Moulin Rouge," meddai.
Cwyno am y canu wnaeth Shan Cothi ar Showbusnesan 成人论坛 Radio Cymru. "Mae'r canu'n ofnadw," meddai gan ychwanegu fod dwyawr a hanner y ffilm yn rhai hirion!
Yn wir, ei hunig ganmoliaeth hi oedd i Minne Driver.
Dim cystal a fersiynau eraill o stori Leroux ar ffilm - yn arbennig yr un gyda Lon Chaney - meddai beirniad yr Observer sydd, fel nifer o feirniaid eraill, yn feirniadol o arafwch y ffilm.
Yn wir, mae'n A R A F mewn llythrennau mawr yn 么l y Mirror gyda'r gormedodd o g芒n a dawns yn gwneud dim i symud y stori yn ei blaen.
Ond mae o'n ddigon call i sylweddoli na fydd dim a ddywed unrhyw feirniad yn amharu ar y berfeidiau o arian mae'r Phantom yn mynd i'w hennill.
Y canlyniad Bu 52 miliwn o bobl yn gweld y sioe lwyfan ers iddi agor yn Llundain yn 1986 a byddai'r rhan fwyaf o'r ffyddloniaid yn ddigon hapus gyda'r trosglwyddiad i ffilm.
Ac wrth gwrs, mae Lloyd Webber yn un da am diwn!
Ond, mewn gwirionedd, does yna ddim byd ysgytwol yn cael ei gynnig sy'n gwneud y cyfieithiad i ffilm y rhywbeth syfrdanol hwnnw y dylai fod.
Ond o gofio'r tras, nid oes amheuaeth na fydd y ffilm yn gwneud pres ac yn talu amdano'i hun sawl gwaith drosodd.
Gwerth mynd i'w gweld?
Ond ichi beidio disgwyl gormod - neu os ydych yn ffan yn barod!
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|