Jindabyne (2007) Ffilm hir sy'n tyfu'n araf
Y sêr
Gabriel Byrne; Laura Linney.
Cyfarwyddo
Ray Lawrence
Ysgrifennu
Raymond Carver; Beatrix Christian
Hyd
123 munud
Adolygiad Gwion ap Rhisiart
Sut ffilm?
Drama sydd wedi ei seilio ar un o straeon byrion yr Americanwr Raymond CarverSo Much Water So Close To Home.
Dyma'r ail dro iddi gael ei throsi gan i'r cyfarwyddwr Robert Altman ei chynnwys yn Short Cuts 1993.
Y tro hwn, mae wedi ei symud dref fechan yng nghefn gwlad Awstralia a'i hymestyn i greu ffilm nodwedd.
Y stori
Pan aeth Stewart Kane (Byrne), sy'n Wyddel yn byw yn Awstralia, am benwythnos o bysgota mewn lle diarffordd gyda thri o'i ffrindiau maent yn darganfod corff merch ifanc yn yr afon.
Yn hytrach na dychwelyd i'r dref a dweud wrth yr heddlu am y digwyddiad penderfynant glymu coes y corff i goeden a pharhau â'u pysgota am weddill y penwythnos.
Ar ôl i Claire (Linney), gwraig Kane, gael gwybod am yr hyn a ddigwyddodd mae ei pharch tuag at ei gwr yn cael ei dolcio'n aruthrol.
Er bod eu perthynas yn chwalu dan y straen, mae Claire yn canolbwyntio ar geisio ymddiheuro i deulu'r ferch am ei gadael yn y dŵr am ddyddiau.
Y canlyniad
Stori sy'n datblygu'n araf ond un sydd â chanol emosiynol dwfn dros ben iddi.
Mae'n cyffwrdd â nifer o themâu dwys a phwerus gan gynnwys gwewyr rhiant yn colli plentyn, lle dynion a merched mewn cymdeithas a hefyd y berthynas rhwng y gwynion â'r brodorion yn Awstralia.
Cyflwynir y cyferbyniad rhwng y byd modern a'r byd naturiol hynafol mewn delweddau cryfion sy'n cyfleu naws debyg i ffilm Nicholas Roeg, Walkabout.
Mae'r ffilm yn adlewyrchu hefyd pa mor fregus y gall bywyd fod mewn diffeithdir diarffordd heb gyfraith.
Yn hynny o beth mae tebygrwydd amlwg hefyd i ffilmiau fel Picnic At Hanging Rock a'r ffilm arswyd Wolf Creek.
Ambell i farn
• "Dyma ffilm i'w g wylio a'i thrafod yn helaeth ac yn ddiddiwedd dros swper. Mae'n faeth sinematig," meddai The Guardian.
• Meddai'r cylchgrawn ffilm Empire, "Syniad gwych sydd yn cael ei fennu gan sgript wedi ei gor ysgrifennu ond mae'r lleoliad a'r cast yn cael y gorau allan ohoni."
Perfformiadau
• Mae gan Byrne bresenoldeb enfawr yn ei ffilmiau i gyd. Yma fe'i gwelir fel dyn tawel.
• Er i Laura Linney fod mewn nifer o ffilmiau adnabyddus, dyw hi erioed wedi derbyn y clod y mae'n ei haeddu. Yma, unwaith yn rhagor, mae ei pherfformiad llawn cydymdeimlad yn gryf hefyd.
Darnau gorau
• Gwnaeth yr olygfa agoriadol argraff fawr arnaf. Er na ddangoswyd unrhyw drais llwyddodd i greu delweddau arswydus o'r hyn a ddigwyddodd i'r ferch ifanc.
Gwerth ei gweld?
Rhaid bod yn y stad feddyliol gywir i'w gwylio gan fod Jindabyneyn ffilm hir iawn sy'n tyfu'n araf.
Ar ôl dweud hynny, bydd unrhyw un yn cael ei wobrwyo ar ei ganfed o wylio ffilm sy'n trafod cymaint o faterion o bwys mewn ffordd mor emosiynol bwerus.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|