The Golden Compass (2007) Rhywbeth i bob oed
Y S锚r:
Nicole Kidman, Daniel Craig, Dakota Blue Richards, Eva Green, Ian McKellen
Cyfarwyddo:
Chris Weitz
Sgrifennu:
Chris Weitz
Hyd:
113 munud
Adolygiad Shaun Ablett
Ers i'r cyfarwyddwr Peter Jackson gael y syniad o droi'r gyfres o lyfrau enwocaf yn y byd yn ffilmiau, mae holl fyd ffilmiau wedi newid, a nawr mae pawb eisiau creu ffilmiau allan o lyfrau ffantasi.
Y diweddaraf yw Chris Weitz gyda'i ffilm newydd, The Golden Compass, sy'n addasiad o lyfr cyntaf Philip Pullman, The Northern Lights yn y gyfres His Dark Materials.
Peidiwch gofyn pam y newidiodd Weiz y teitl - ond dyna'r Americanwyr i chi!
Mae'r ffilm yn s么n sut mae nifer o gyfanfydoedd cyfochrog i'w cael ac ar ddechrau'r ffilm, mae'r cymeriad Lord Asriel (Daniel Craig) wedi darganfod math o lwch sy'n cysylltu'r cyfanfydoedd hyn.
Yr unig berson all brofi hyn yw merch o'r enw Lyra Belacqua (Dakota Blue Richards) gan mai hi yn unig all ddarllen y 'Golden Compass' sy'n profi darganfyddiad Asriel .
Mae'r byd y mae Asriel yn byw ynddo yn cael ei reoli gan gr诺p o bobl a elwir y Magisterium sy'n fodlon gwneud unrhyw beth i rwystro Lyra.
Gyda help arth gwyn mae Lyra yn mynd ar daith ei bywyd i stopio Mrs Coulter (Nicole Kidman) a gweddill y Magisterium cael eu dwylo ar y cwmpawd hud.
Edrychais ymlaen at wylio'r ffilm gan fod ffilmiau o'r fath yn cynnwys straeon gwych, ac effeithiau technegol arbennig.
Rwy'n addoli'r ffilmiau Lord of the Rings a Harry Potter ac yr oedd y ffilm hon hefyd yn un gwerth ei gwylio.
Mae'r stori y tu 么l iddi yn rhagorol ac yn agor eich dychymyg.
Y rhan orau oedd y ddau arth gwyn yn ymladd gyda thechnoleg CGI yn cael ei ddefnyddio ar ei orau.
Cawn berfformiad da iawn gan Daniel Craig fel Asriel, ac mae Dakota Richards yn ardderchog fel Lyra, yn enwedig o gymharu ei hoedran ag oed a phrofiad yr actorion eraill.
Hoffais hefyd y syniad o roi llais Syr Ian Mckellen i'r Arth.
Er nad wyf yn ffan o Nicole Kidman o gwbl mae ei pherfformiad yn y ffilm hon yn un bythgofiadwy fel cymeriad afreal sy'n gwir godi ofn.
Mae h么n yn ffilm fydd yn rhoi mwynhad i bob oed.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 成人论坛 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad arall
|
|