Assault on Precinct 13 Hen olyniaeth anrhydeddus o fod dan warchae!
Y s锚r Ethan Hawke, Laurence Fishburne, Maria Bello, Drea de Matteo, Gabriel Byrne, Brian Dennehy.
Cyfarwyddwr Jean-Fran莽ois Richet
Sgrifennu James DeMonaco
Hyd 108 munud
Sut ffilm Ail-bobiad o ffilm o'r un enw gan John Carpenter yn 1976 a honno wedi ei sbardunogan ffiulm gowboi Howard Hawks yn y pumdegau, Rio Bravo efo John Wayne, Dean Martin, Ricky Nelson a Walter Brennan.
Er i Carpenter fwriadu ei Precinct 13 ef yn deyrnged i Rio Bravo ac er i Precinct fod yn ffilm ddigon derbyniol doedd hi ddim gystal a champwaith Hawks.
Yn yr un modd dydi Assault on Precinct 13 2005 ddim cystal ag un 1976 - yn bennaf oherwydd newidiadau yn y stori sy'n ei gwneud yn llai credadwy.
Serch hynny, mae'n well na sawl ffilm sy'n cyrraedd y sinema y dyddiau hyn ac wedi dygymod yn eithaf 芒'r daith o Texas yn yr 1880au a thrwy Los Angeles 1976 cyn cyrraedd Detroit 2005!
Y stori Mae hi'n noson olaf gorsaf heddlu Precinct 13 yn Detroit gyda fawr o neb ar 么l yno i dwtio a chau'r drws am y tro olaf.
Yn annisgwyl mae llond bws o droseddwyr yn gorfod aros yno wedi eu rhwystro ar eu taith gan storm enbyd o eira.
Y pen troseddwr yw Marion Bishop (Laurence Fishburne), pen bandit y mae nifer o heddlu'r ddinas yn ei boced ers blynyddoedd lawer.
A'r heddlu llwgr hynny dan arweiniad uchel swyddog, Marcus Duvall (Gabriel Byrne) sy'n rhoi'r orsaf dan warchae er mwyn lladd Bishop cyn iddo fedru tystillaethu yn eu herbyn mewn llys.
Drwg hyn yw, fod plismyn yr orsaf dan fygythiad hefyd a'u bywydau hwythau mewn cymaint o berygl 芒 Bishop.
Dan gawodydd o ffrwydron a bwledi Sgt. Roenick (Ethan Hawke) sy'n gorfod cydgordio pethau o fewn yr orsaf gyda chymorth Iris (Drea de Matteo) ei ysgrifenyddes hirgoes a rhywiol, Jasper (Brian Dennehy) yr hen blismon profiadol, hoffus, sy'n rhaid ei gael ym mhob ffilm heddlu a'r Dr Alex Sabian (Maria Bello), seiciatrydd Roenick - achos fyddai hi ddim yn ffilm onibai fod yr 'arwr' dan rhyw wendid ac yn gorfod wynebu hunllefau personol.
Mor ffyrnig yw'r ymosodiad ar yr adeilad gorfodir Roenick i arfogi troseddwyr y bws a hynny'n creu tyndra ac ansicrwydd ychwanegol o fewn yr orsaf.
Ar ben hynny, pan ddychwel plismon arall i'r orsaf mae amheuaeth yn codi a oes bradwr yn eu plith!
Y cyfan yn sicrhau cawl - eildwym mae'n wir - ond digon blasus o drais, tyndra, gwrthdaro ac ansicrwydd.
Y canlyniad Ffilm gyffrous gyda digon o dyndra ond gyda phlot bregus iawn gyda mwy nag un twll ynddo - ond hawdd iawn peidio sylwi ar hynny.
Mae'r cychwyn braidd yn fl锚r a chymysglyd ond unwaith mae'r adeilad dan warchae mae pethau'n symud yn sydyn a chyffrous.
Mae'r ansicrwydd yngl欧n 芒 phwy gellir ei drystio yn cael ei gynnal yn dda - er nad yw datgelu'r bradwr ddim mor ofnadwy o annisgwyl ag y gellid disgwyl.
Y darnau gorau Yr uchafbwynt yn nhywyllwch y goedwig - gwneir defnydd da o s诺n traed yn yr eira.
Mae saethu oeraidd un o'r cymeriadau a geisiodd ddianc yn ysgytwol ac annisgwyl.
Dianc yn y car.
Perfformiadau Heb os, Fishburne, fel y dihiryn bygythiol, sy'n cario'r ffilm. O ean llais ac ymarweddiad mae'n wych.
Dydi Ethan Hawke ddim yn argyhoeddi gymaint fel y plismon sy'n ceisio dod i dermau 芒 chamwri yn y gorffennol ond Gabriel Byrne yn dda fel y plismon drwg sydd mewn twll.
Er yn fwy o addurniadau na dim arall mae'r ddwy ferch, de Matteo a Bello, yn gwneud eu gorau gyda'u rhannau hwy.
Gystal 芒'r trelar? Ydi..
Ambell i farn Bu'r beirniaid yn ddigon caredig ond mwy nag un heb ei argyhoeddi gan y stori ac ambell un yn holi faint o wir angen oedd yna i ail-wneud ffilm 1976 Carpenter gan nad yw hon yn cynnig unrhyw welliant nac unrhyw weledigaeth newydd.
Awgrymwyd y gallai'r ail wneud fod yn sarhad ar Carpenter sy'n dal yn fyw.
Geiriau i'w cofio "Mi wnaethom ni adael iddo fyw unwaith a bu bron iddo fo'n cael ni - os gwanwn i adael iddo fo fyw yr eildro mi fyddwn ni'n haeddu cael ein lladd."
"Rydw i'n gwybod 'chydig am farw. Mi allwch chi wneud hynny gyda hunan dosturi neu wneud hynny hebddo."
Ond mae'r ffilm yn haeddu gwell na'r hen gaseg, "Mae hi'n ddistaw iawn allan yna nawr - a dyna sy'n fy mhoeni i."
Gwerth mynd i'w gweld? Ydi.
Mae'n arbennig o ddifyr ei chymharu a'i rhagflaenydd ac yn enwedig y clasur Rio Bravo sydd gystal ffilm heddiw ag oedd hi pan wnaed hi gyntaf gan Howard Hawks yn 1959 gan beri iddo ei dynwared gydag El Dorado yn 1967 a Rio Lobo, dipyn salach, yn 1970.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|