Eastern Promises (2007) Gwaed, lleisiau bloesg ac acenion trwm
Y s锚r
Viggo Mortensen, Naomi Watts, Vincent Cassel, Armin Mueller-Stahl, Sinead Cusack
Cyfarwyddo
David Cronenberg
Sgrifennu
Steven Knight.
Hyd
100 munud
Sut ffilm
Gwaedlyd, tywyll, treisgar, brwnt a ffiaidd gyda'i golwg ar ran o isfyd Rwsiaidd Llundain nad yw'r rhan fwyaf ohonom yn gwybod dim amdano.
Byddwch yn barod am leisiau bloesg ac acenion clapiog.
Y stori
Er bod y ffilm yn agor gyda dyn yn hollti'n drwsgl wddf un arall gydag ellyn mewn cadair barbwr gwir ddechrau'r hanes yw merch Rwsiaidd 14 oed, Tatiana, yn marw mewn pwll o waed wrth esgor ar blentyn.
Gyda Tatiana yn gadael dim ond dyddiadur Rwsieg ar ei h么l mae'r fydwraig, Anna (Naomi Watts), oedd yn gofalu amdani yn cymryd arni ei hun i ddarganfod mwy amdani a chael rhywun i gyfieithu'r dyddiadur iddi.
Buan iawn y daw hyn a hi i gysylltiad 芒 rhan o'r 'Maffia' Rwsiaidd yn Llundain a adwaenir fel y Vory V Zakone ac yn fwyaf arbennig y bos, Semyon (Armin Mueller-Stahl), ei fab ffiaidd, Kirill (Vincent Cassel) a'u gyrrwr a disbyddwr cyrff, Nikolai (Viggo Mortensen) a all ddychryn unrhyw un gydag un edrychiad esgyrnog.
Y canlyniad Anhawster un adolygydd oedd penderfynu ai ffilm wirioneddol dda gyda rhai diffygion ynteu ffilm gwirioneddol ddiffygiol gyda rhai darnau da oedd hon.
Gyda chymaint o drais cwbl amrwd - dau wddf yn cael eu torri ac ymladdfa rhwng dyn noeth a dau thyg yn gwaedu fel moch yn dilyn ymosodiad gyda dau dwca mileinig - mae'n anodd iawn cyfiawnhau disgrifio Eastern Promises fel 'adloniant' - ond y mae hi'n ffilm sy'n gafael, yn cynnal ofn a thyndra ac yn gwneud ichi droi eich llygad oddi wrth y sgrin.
Mae'n ffilm hefyd sy'n ddarlun brawychus o isfyd brawdoliaeth y 'Maffia' Rwsiaidd, Vory V Zakone, yn Llundain gyda'r holl waed sy'n cael ei golli yn wrthgyferbyniad llwyr i'r gwaed sy'n uno'r 'teulu' brawychus hwn o gangstars dychrynllyd sy'n brwydro i ddiogelu ei hunaniaeth a'i arferion 'anrhydeddus' mewn gwlad ddieithr.
Oes, mae mwy i Eastern Promises na thrais yn unig. Y peryg yw mai'r trais fydd yn cael ei gofio.
Hynny a'r actio cwbl ragorol a'r awyrgylch o ofn parhaol sy'n cael ei chreu.
Steven Knight (Dirty Pretty Things am y fasnach anghyfreithlon mewn rhannau corfforol - ac un o'r meddyliau y tu 么l i Who Want's to be a Millionaire!) ydi awdur y sgript ac mae'r cydweithio rhyngddo a Cronenberg (Crash; History of Violence; The Fly) yr hyn fyddai rhywun wedi ei ddisgwyl mae'n debyg.
Perfformiadau Ni ellir dadlau 芒 barn gwefan ffilm Saesneg y 成人论坛 mai dyma berfformiad gorau eto Viggo Mortensen. Mae yn arswydus ond o dan yr arswyd mae gronyn o deimladrwydd yn egino dan ddylanwad ei gysylltiad a'r fydwraig, Anna.
Rhan ar gyfer bwrw'r stori yn ei blaen yw un Naomi Watts ond mae hithau hefyd yn argyhoeddi fel y ferch sydd hefyd o dras Rwsiaidd yn cael ei rhwydo gan y fath ffieiddiwch.
Y gwir amdani yw fod pob un o'r actorion yn argyhoeddi yn eu gwahanol rannau er bod peryg i'r holl leisiau bloesg ac acenion trymion ymddangos yn ystrydebol os nad yn chwerthinllyd weithiau.
Golygfeydd cofiadwyYr 'olygfa fawr' yw'r un o Nikolai noeth yn ymladd gyda'r ddau fwystfil mewn cotiau lledr ym maddonau st锚m Finsbury Public Baths. Nid yn unig mae'r ymladdfa ei hun yn ffiaidd o drawiadol ond hefyd ymateb y baddonwyr eraill iddi.
Golygfa ysgytwol arall yw'r ymosodiad ar ddyn yn gwneud d诺r dros garreg fedd mewn mynwent ger maes p锚l-droed Chelsea.
Gwerth ei gweld Yn werth ei gweld, ydi - er nad yn bleser i'w gwylio.
|
|