Charlie Wilson's War (2008)
³§Ãª°ù: Tom Hanks, Julia Roberts, Philip Seymour Hoffman, Amy Adams
Cyfarwyddo: Mike Nichols
Sgrifennu: Aaron Sorkin
102 Munud
Bu sawl ffilm am fyd gwleidyddol America yn 2007, ond neges hon sy'n mynd i adleisio dros y byd yn 2008 yn sicr.
Yn enwedig gan fod un o actorion gorau y byd, Tom Hanks, yn chwarae'r prif gymeriad.
Y 1980au yw'r cyfnod gyda digwyddiadau go iawn, yn destun.
Gweriniaethwr o Texas a ddaeth yn aelod o'r Gyngres yn America yw Charlie Wilson (Hanks) ac yn enwog am ei chwant am fenywod, cwrw a chyffuriau.
Mae'r ffilm yn dilyn bywyd Wilson a'r bobl oedd yn agos ato pan oedd yn cynllunio y weithred fwyaf cyfrinachol erioed yn hanes America, helpu'r Mujahideen yn Afghanistan i ymladd yn erbyn byddin Rwsia.
Gyda help ei ffrind, Herring (Julia Roberts), ac aelod o'r CIA, Gust Avrakotos (Philip Seymour Hoffman), mae Wilson yn sicrhau trwy hala bomiau ac awyrennau i Afghanistan.
Bu sawl ymateb gwahanol i'r digwyddiad hwn gyda rhai o'r farn mai hyn gafodd wared â'r Undeb Sofietaidd ond eraill yn dadlau mai dyma'r digwyddiad arweiniodd at greu grwpiau fel Al'Qaeda.
Hoffais y ffilm mas draw a chcefais lawer o wybodaeth am weithredoedd gwleidyddol Americanaidd.
Mae perfformiad Julia Roberts fel ffrind a sboner Wilson yn dda iawn gan lwyddodd i bwysleisio cryfder y cymeriad.
Ond Tom Hanks a roddodd, fel arfer, y perfformiad gorau.
Mae hôn yn ffilm i unrhyw un sy'n hoffi stori ardderchog a chymeriadau diddorol.
•
• Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng ³ÉÈËÂÛ̳ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad arall
|