Sahara Hel llwch
Y s锚r Matthew McConaughey, Pen茅lope Cruz, Steve Zahn, Lennie James, Lambert Wilson, William H Macy
Cyfarwyddwr Breck Eisner
Sgrifennu Thomas Dean Donnelly, Joshua Oppenheimer, John C Richards, James V Hart - yn dilyn nofel gan Clive Cussler.
Hyd 124 munud
Sut ffilm Ymgais - aflwyddiannus gan fwyaf - ar gyfuno ffilmiau James Bond ac Indiana Jones.
Antur wyllt a digon gwirion heb stori werth chweil gydag arwr cydnerth, ei gydymaith doniol a merch ddel yn nhir diffaith a thywodlyd y Sahara.
Ymhlith yr ystrydebau niferus mae yna fom yn ticio, ymladdfa ar ddibyn a dyn yn hongian gerfydd ei fysedd.Y stori Er gwaethaf ei enw chwerthinllyd mae Dirk Pitt (Matthew McConaughey) yn anturiwr o fri sydd, gyda'i gyfaill, Al Giordino (Steve Zahn), ar drywydd llong o ryfel cartref yr Unol Daleithiau sydd wedi ei dryllio yn y Sahara (peidiwch a gofyn neu fe fyddwn ni yma drwy'r dydd)
Yn ystod ei ymchwiliadau mae'n dod ar draws Eva Rojas (Penelope Cruz) sy'n feddyg gyda Mudiad Iechyd y Byd (WHO) ac ar drywydd rhyw afiechyd anesboniadwy sy'n llethu trigolion glannau afon Niger.
Yn fuan iawn maen nhw'n sylweddoli fod rhyw gynllwyn ar waith a all wenwyno moroedd y byd a difa dynoliaeth.
Y dihirod yn hyn o gynllwyn ydi teyrn lleol o'r enw Kazim (Lennie James) a diwydiannwr Ffrengig sy'n berchen canolfan ynni haul (Lambert Wilson).
Y cwestiwn mawr yw a fydd Pitt a Rojas yn llwyddo i achub y byd.
Peidiwch, da chwi, ag anfon eich atebion. Cadwch eich cerdyn post ar gyfer rhyw ddiben arall gwell.
Y canlyniad Rhuthr wyllt o un argyfwng-a-dihangfa i'r llall ond er gwaetha'r holl sefyllfaoedd argyfyngus mae'n ffilm amddifad o dyndra a chyda stori nad yw'n argyhoeddi nac yn gredadwy.
Hyd yn oed pan oedd Penelope Cruz ar waelod pydew a'i rhaff wedi mynd ni welai'r gynulleidfa achos i boeni!
Y darnau gorau Mae'r frwydr rhyfel cartref ar y cychwyn yn drawiadol ac mae cryn gyffro mewn ras cychod gwib.
Perfformiadau Dydi'r camelod yn haeddu dim ond canmoliaeth - trueni am yr actorion deudroed di-liw.
"Charmless, yw'r gair a ddefnyddiodd Philip French, yr Observer, i ddisgrifio McConaughey.
Gwnaeth Steve Zahn fel ei gydymaith well argraff gan ddod ag elfen o hiwmor i' ffilm digon di-gymeriad.
Mae Penelope Cruz mor ddi-liw ag erioed yn gwisgo sbectols er mwyn edrych yn beniog yn ystod yr hanner cyntaf ond yn gwneud hebddyn nhw'n iawn ar gyfer rhuthro a rasio'r ail hanner.
Geiriau da "Drycha di ar 么l y bom - mi gymra inna'r ferch."
Gystal 芒'r trelar? Dim digon o gnawd ar yr esgyrn.
Ambell i farn Bu'r beirniaid yn hynod o garedig o gofio fod hon yn ffilm mor ofnadwy o ddifeddwl ac mor amddifad o rinweddau ffilmiau James Bond ac Indiana Jones - gan gynnwys eu hiwmor - er bod Breck Eisner yn un o ddisgyblion Spielberg.
Yn y Sunday Times dywedodd Peter Whittle fod Sahara yn rhyfeddol o ddifyr er gwaetha'r holl sefyllfaoedd ystrydebol.
Gwerth mynd i'w gweld? Os nad yw'n ddigon braf i fynd am dro.
Ond nid dyna gyngor nifer o'r beirniaid sy'n gweld Sahara yn dipyn o hen hwyl iawn.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|