The Libertine Colli ei enaid, ei galon a'i gorff
Y s锚r
Johnny Depp, Samantha Morton, John Malkovich, Rosamund Pike, Tom Hollander, Johnny Vegas
Cyfarwyddwr
Laurence Dunmore
Sgrifennu
Stephen Jeffreys - ar sail ei ddrama lwyfan ei hun.
Hyd
115 munud
Sut ffilm
Un o berfformiadau gorau erioed Johnny Depp meddai rhai - ac y mae hynny'n ddweud go fawr am seren Neverland, Charlie and the Chocolate Factory ac yn y blaen.
Yn sicr ei ddehongliad trawiadol a grymus ef o'r brawychus John Wilmot, Ail Iarll Rochester, yw angor The Libertine.
Y stori
Byddai'n fuddiol gwybod dipyn am gefndir Libertine y teitl cyn mynd i'r sinema.
Mae John Wilmot, Ail Iarll Rochester, yn un o gymeriadau mwyaf lliwgar a dadleuol llenyddiaeth Saesneg. Yn cael ei adnabod fel Yr Iarll Drwg - "The Wicked Earl" - oherwydd ei fercheta a'i fywyd afradlon, ei farddoniaeth a'i ddram芒u anllad a'i anffyddiaeth ronc nid oedd ond yn 32 oed pan fu farw o effeithiau haint rhywiol ac llymeitian yn 1680.
Dim ond ar ei wely angau y ceisiodd edifeirwch.
Ei ddarn enwocaf o farddoniaeth oedd A Satyr [satire] Against Mankind , ymosodiad crafog ar ddynol ryw.
Yr oedd yn gymeradwy ac yn wrthun bob yn ail yng ngolwg y Brenin Charles yr ail ac wedi ei alltudio fwy nag unwaith ganddo o'i lys.
Dywedodd Horace Wapole amdano ei fod yn ddyn yr oedd yr awen yn ei chwennych ar y naill law ond yn cywilyddio rhagddo ar y llaw arall.
Am ei waith, dywedodd hefyd bod yna fwy o anlladrwydd nag o ffraethineb yn ei gerddi.
Mwy o ffraethineb nag o farddoniaeth - a mwy o farddoniaeth nag o foneddigeiddrwydd.
Er yn noddwr beirdd a dramodwyr yr oedd yn cas谩u y bardd Dryden ac y mae hanes iddo dalu i dri dyn ymosod ar hwnnw liw nos yn Covent Garden.
Pan fo'r ffilm yn cychwyn mae Rochester (Johnny Depp) newydd gwblhau tri mis o alltudiaeth blwyddyn a Charles ( John Malkovich) yn maddau iddo a'i wahodd eto i'w lys.
Bwriad Charles, sydd ym merw pob math o drafferthion cyfansoddiadol, yw perswadio Rochester i siarad ar ei ran yn Nh欧'r Arglwyddi - "You could make great speeches that influence events." - a chreu perfformiad llwyfan i greu argraff ar Lysgennad newydd Ffrainc yn Llundain.
Ei ymateb yw llwyfannu cynhyrchiad gyda'r mwyaf beiddgar ac anllad.
Blynyddoedd olaf Rochester .sydd dan sylw yma a chyflwynir darlun brawychus o eithafrwydd ffiaidd ei ddarostyngiad moesol a chorfforol wrth i'w gorff hagru a dadfeilio y tu draw i adnabyddiaeth dan chwip y ddiod a'r frech fawr, siffilis.
Mae pedair merch allweddol yn ei fywyd. Ei wraig Elizabeth (Rosamund Pike) a gipiwyd oddi ar ei rhieni yn ferch ifanc ac a erys yn ffyddlon iddo, er gwaethaf ei fercheta. Hi sy'n ei ymgeleddu ar ei wrely angau. Perthynas elyniaethus yw'r un 芒'i fam, oeraidd, hunangyfiawn (Francesca Annis) "Yr ydym ni sydd yn y bendefigaeth yn codi uwchlaw gwendidau'r cnawd," meddai.Ei hoff butain (Kelly Reilly)Yr actores Lizze Barry (Samantha Moreton) y mae'n hyrwyddo ei ffordd i fod yn un o actoresau mwyaf blaenllaw y dydd ar adeg pan oedd gwrthwynebiad hyglyw i ymddangosiad merched ar lwyfan.
Y canlyniad
Perfformiad theatraidd ar ffilm yn darlunio dyn sydd, meddir, yn colli yn eu tro, ei enaid, ei galon ac wedyn ei gorff.
O ran strwythur ac o ran deialog dewiswyd cadw at naws theatraidd drama wreiddiol Jeffreys gyda deialogi llenyddol a llu o frawddegu a dywediadau ffraeth a bachog.
Peryg y bydd rhai yn cael hon yn ormod o bwdin i'w dreulio'n hawdd o'i chymharu 芒 natur arferol ffilmiau y dyddiau hyn.
Ond mae'n werth aros gyda hi pe na byddai ond er mwyn edmygu mawredd perfformiad Depp.
Y darnau gorau
Mae sawl rhan ysgytwol gan gynnwys:Dirywiad corfforol Rochester ac yn enwedig ei anerchiad yn Nh欧'r Arglwyddi.Y ddrama lwyfan lle mae Charles yn cael ei ddarlunio fel cala coeg enfawr.Ymateb huawdl y gynulleidfa i berfformiad s芒l mewn theatr.
Perfformiadau
Er mai ffilm Depp yw hon mae'n bwysig dweud nad oes yna yr un perfformiad s芒l.
Mae John Malkovich - a chwaraeodd ran Rochester ar y llwyfan yn yr Unol Daleithiau - yn benigamp fel y brenin a'r cyd chwarae rhyngddo a Depp am wledd.
Gwyliwch hefyd am Johnny Vegas fel Sackville, cyfaill seimllyd Rochester.
Ond mae'r cyfan yn troi o amgylch Depp.
Gystal 芒'r trelar?
Heb weld un.
Ambell i farn
Does dim pall ar y ganmoliaeth i Depp.Dyma un o berfformiadau gorau ei yrfa yn 么l gwefan y 成人论坛."Perfformiad grymus" oedd dyfarniad yr Observer sydd hefyd yn canmol perfformiad teimladwy Samantha Morton fel yr actores Lizzie Barry.Ond gwelwyd perfformiad Depp yn cael ei ddisgrifio hefyd fel un trymaidd ac undonog. Pawb a'i farn!Wrth gydnabod nad yw hon yn ffilm 'hawdd' gyda'i phwyslais ar y llenyddol a'r theatraidd dywedodd beirniad arall: "Mae'r wobr yn un sylweddol i'r sawl a all ddal ati i wylio." .
Rhai geiriau Geiriau agoriadol Rochester gyda'r mwyaf trawiadol, yn syth at y gynulleidfa: "Wnewch chi mo'n hoffi i," meddai.Dos i dreulio'r nos gyda hwren - un fawr a seimllyd.Wnes ti fy ngholli i? Mi wnes i golli'r arian. "Dai awn - does gen id dim i'w ddweud wrth butain sentimental."Byddai pob dyn yn llwfr pe byddai'n ddigon dewr.Yr wyf yn dy gondemnio i fod yn ti dy hun am weddill dy ddyddiau!.
Gwerth mynd i'w gweld?
Ydi'n wir - os yn chwilio am gig yn hytrach na bwyd llwy!
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|