Powerless O Faenclochog i Hollywood!
Mae ffilm a wnaed yng Nghymru am ddim ond 拢5,000 yn gobeithio y bydd yn profi'r un llwyddiant 芒 'ffilmiau rhad' eraill fel The Blair Witch Project
Dangoswyd Powerless gyntaf yng Ng诺yl Ffilm Ryngwladol Caerdydd ddechrau 2005.
Erbyn mis Hydref yr un flwyddyn mae'n cael ei dangos yn Hollywood - yn yr hyn sy'n cael ei galw yn sinema enwocaf y byd, Theatr Chineaidd Grauman ar Hollywood Boulevard!
Y tu allan i'r sinema hon y mae rhai o s锚r mwyaf y byd wedi gadael 么l eu llaw.
Ers ei dangos yng Nghaerdydd mae Powerless a waned gan gyn fyfyriwr o Brifysgol Abertawe, Matt Daniels sy'n awr yn byw yn Swydd Amwythig gyda'i wraig, Esther, wedi ennill dilyniant cwlt yn sgil cael ei dangos mewn gwyliau ffilm eraill.
Mae'r ffilm yn ymwneud 芒 digwyddiadau yn ystod toriad yn y cyflenwad y trydan ar adeg pan fo llofrudd yn dianc o Lundain i ardal Maenclochog ym Mhenfro.
Perthyn y rhan fwyaf o'r actorion a'r bobl a weithiodd ar y ffilm - gan gynnwys y sgriptiwr - i un teulu o actorion dibrofiad.
"Mae gynnon ni ddyrnaid o dystysgrifau TGAU Drama," meddai Matt Daniels pan ddangoswyd y ffilm gyntaf yng Nghaerdydd.
Dywedodd i'r ffaith fod y cast yn aelodau o un teulu wedi ychwanegu at dyndra'r ffilm sydd yn cael ei dangos yn Hollywood fel rhan o 诺yl gan sedydliad sy'n hyrwyddo ffilmiau annibynnol.
Cliciwch i ddarllen adolygiad.
Manion Daw'r prif actorion o'r un teulu yn Sir Benfro : Matt Wilkins (Peter), 22. o Bethany Wilkins (Sarah), 20. o Martha Wilkins (Ruth), 18. o Hannah Wilkins (Rachel), 16 o Samuel Wilkins (David), 14 o Matt Daniels (Tom), 29 - awdur a chyfarwyddwr ac yn perthyn i'r teulu drwy briodas. Saethwyd 90% o Powerless yn Sir Benfro. Cafwyd nawdd gan Sony Playstation, Radford MINI (BMW), Sidewalk Magazine, Weetabix, Tesco, Cadbury, Heinz, Gillette, The Western Telegraph a Diamond Zone am ddangos eu cynnyrch.Dim ond 拢5,000 oedd ar gael i wneud y ffilm. Codwyd y pumed ran o'r gost trwy werthu 'credits' ar eBay.Dim ond un camera a ddefnyddiwyd - camera fideo gyffredin. Er iddi gymryd dwy flynedd i gwblhau'r ffilm dim ond cyfanswm o bedair wythnos a dreuliwyd yn gweithio arni yn ystod y cyfnod hwnnw.Torrwyd a golygwyd y ffilm ar PC mewn llofft.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|