National Treasure Ar drywydd hen, hen, drysor y Mesyns
National Treasure
Y s锚r Nicolas Cage, Diane Kruger, Justin Bartha, Sean Bean, Jon Voight.
Cyfarwyddwr Jon Turteltaub
Sgrifennu Jim Kouf, Cormac Wibberley, Marianne Wibberley
Hyd 130 munud
Sut ffilm Helfa drysor gyffrous gyda'r arwr a dau gyfaill yn ceisio achub y blaen i ddatrys cliwiau a fydd yn ei arwain at drysor mwya'r byd o ddyddiau'r croesgadau ond sy'n awr wedi ei guddio yn yr Unol Daleithiau.
Y stori Mae Ben Gates (Nicolas Cage) yn aelod o deulu sydd wedi ymrwymo i ddod o hyd i drysor a gludwyd i'r Unol Daleithiau ar 么l cael ei ddarganfod gan farchogion y Croesgadau dan Deml Solomon yn Jerwsalem.
Dros y blynyddoedd cuddiwyd a diogelwyd hwn, "y trysor mwyaf yn y byd", gan y Seiri Rhyddion hynny arwyddodd Ddatganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau.
Ers clywed am y trysor pan yn blentyn, gan ei daid, bu Ben ar ei drywydd ac ar gychwyn y ffilm mae ar fin dod o hyd i'r cliw diweddaraf ar long sydd o'r golwg dan rew cylch yr Arctig.
Oddi yno mae'n cael ei arwain i gredu fod map sy'n dynodi lleoliad y trysor wedi ei gynnwys mewn inc anweledig ar gefn Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau a chyda'i gyfaill triw, Riley (Justin Bartha) mae'n mynd ati i 'ddwyn' y datganiad hwnnw o'r Archif Genedlaethol yn Washington yn bennaf er mwyn ei ddiogelu rhag dihiryn o gyn bartner, Ian Howe (Sean Bean) sydd a'i fryd ar feddiannu'r cyfoeth mawr hwn ei hun.
Ymhen dim mae Ben, Riley ac archifydd ddeniadol, Abigail Chase (Diane Kruger), sy'n cael ei hudo i'r helynt yn groes i'w hewyllys, yn cael eu herlid ar draws yr Unol Daleithiau o gliw i gliw nid yn unig gan Ian a'i giwed ond hefyd gan yr FBI.
Y darnau gorau Y digwyddiad digon diniwed pan yw Riley, am yr unig dro, yn drech na'r athrylith Ben yn datrys cliw
Dianc o'r Archif Genedlaethol ar hyd strydoedd Washington gydag Abigail yn hongian wrth ddrws fan.
Perfformiadau Mae Kruger yn ddel, Cage yn arwrol a Bartha yn ddigon doniol inni fod yn dymuno'i weld yn cael mwy o ran!
Dydi Bean fawr o ddihiryn.
Gystal 芒'r trelar? Fymryn yn well.
Y canlyniad Er nad oes llawer o wreiddioldeb mewn na stori na digwyddiadau llwydda National Treasure i gadw'n diddordeb o'r cychwyn i'r diwedd er bod peryg y bydd rhai yn syrffedu o gael eu hanfon gyhyd o un cliw i'r llall heb ddod fawr nes i'r trysor ei hun.
Mae'r stori'n adlais o'r criw brith hwnnw yn chwilio am aderyn wedi ei blastro 芒 gemau a achubwyd gan Farchogion y Croesgadau yng nghlasur John Huston, The Maltese Falcon. .
Mae dylanwad ffilmiau Indiana Jones yn drwm hefyd er nad oes i hon yr un steil 芒'r un o'r rheini o ran cyffro na hiwmor.
Ond wedi dweud hynny mae yma ddigon i gynnal diddordeb oedolion 芒 phlant gyda'r dehongliadau o'r cliwiau yn ddifyr ddigon.
Oce - dydi National Treasure ddim oddi ar yr un silff 芒 North By Northwest, Raiders of the Lost Ark a'u tebyg a dydi Cage ddim yn Harrison Ford mwy nag yw ei 'dad' (John Voight) yn Sean Connery ond mae yma gymysgedd digon boddhaol o erlid a dianc, o ruthro a rasio ac o sefyllfaoedd y mae'n ymddangos ei bod yn amhosib torri'n rhydd ohonyn nhw - a hynny'n gwneud iawn am stori sy'n eithriadol o fregus ac anhebygol ar adegau fel darganfod y llong dan y rhew.
Ambell i farn Mae eithaf cytundeb mai llwyddo fel ffilm ysgafn, rwydd a didrafferth y mae hon.
"Llawer o hwyl difeddwl," meddai'r Observer tra bo'r Guardian yn cyfeirio ati fel ffilm "tu hwnt o wirion" ond difyr ar adegau.
Gwerth mynd i'w gweld? Difai ar gyfer y teulu.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|