Rwyf eisiau bod yn gowboi!
Ioan%20Gruffudd yn siarad efo Glyn Evans
Dydd Mawrth, Mawrth 22, 2000Rwyf eisiau bod yn gowboi.
Dyna uchelgais fawr un o actorion newydd mwyaf llwyddiannus Cymru y mae y ffilm Solomon a Gaenor y cymerodd ran ynddo wedi ei enwebu am wobr Oscar yn Hollywood ddydd Sadwrn nesaf.
Pan yn cael ei holi gan Cymru'r Byd datgelodd Ioan%20Gruffudd sydd wedi dod i fri fel y llongwr arwrol, Hornblower, ac sy'n awr yn ffilmio 102 Dalmations mai ei un freuddwyd fawr yw cael gwneud ffilm gowboi.
"Yr hyn hoffwn I wneud yw ffilm Western, fawr. Rhywbeth fel y Magnificent Seven neu Butch Cassidy and the Sundance Kid. Mae hon yn freuddwyd fu gen i erioed," meddai.
Ac wrth gael ei atgoffa am Steve McQueen yn hebrwng yr hers yna i'r fynwent ar gychwyn The Magnificent Seven ychwanegodd.
"O i-e. Mae delweddau fel yna yn rhan o fy magwraeth i. Mi fyddwn i wrth fy modd," meddai.
Ar gefn ceffyl a gwn wrth ei ochr"Fe fyddwn i'n hoffi bod ar gefn ceffyl a gwn wrth fy ochr i a marchogaeth ar draws y paith," ychwanegodd gan daro'r gwn dychmygol ar ei glun gyda chledr ei law.
Yr oedd Ioan ar ymweliad arbennig a Chaerdydd ar gyfer lansio y gyfres deledu uchelgeisiol Canrif o Brifwyl sy'n awr yn cael ei dangos ar S4C.
Ac yr oedd yr actor sydd wedi dod i gymaint o enwogrwydd y gall ddewis a gwrthod sgriptiau fel y mynn yn uchel iawn ei glod i'r gyfres gan Alan Llwyd sydd yn edrych ar hanes cythryblus yr ugeinfed ganrif mewn perthynas 芒'r Eisteddfod Genedlaethol.
Dywedodd Ioan i'r sgript wneud cymaint o argraff arno ei bod yn ei theimlo yn anrhydedd cael cymryd rhan.
"Mae y sgript o safon anghredadwy," meddai . "Ac yr oeddwn i'n synnu eu bod nhw wedi gofyn i mi. Rwy ond yn gobeithio fy mod wedi medru codi fy safon i safon y sgript,"
Er ond yn 26 oed ac yn y sefyllfa ryfeddol o fedru dewis a gwrthod sgriptiau y mae Ioan wedi llwyddo i beidio a gwirioni ar lwyddiant ond yn cyfaddef fod rhamant showbiz yn wefr iddo.
"Ond dydio ddim wedi newid o'r bachgen o'dd e yn yr ysgol," meddai un a oedd yn yr ysgol gydag ef. "Er ei fod o, erbyn hyn, yn fwy hyderus," ychwanegodd.
Ychwanegodd na fyddai neb wedi breuddwydio yr adeg honno fod y fath ddyfodol i Ioan. "Yr oedd o yn swil ac yn ddistaw ac yn gwneud ei waith ysgol. Fyddai neb wedi meddwl amdano yn arwr fel Hornblower. Ond yr oedd o'n neis iawn, iawn a dydi hynny ddim wedi newid."
Yn ffodus mod i'n Gymro
Y mae Ioan ei hun mor ymwybodol a neb o beryglon llwyddiant ond nid yw'n ymddangos iddo gael llawer o drafferth dygymod ag ef.
"Dwi'n ffodus mod i'n Gymro Cymraeg sy'n dod o deulu cefnogol iawn, iawn, a llawer o gariad a dwi'n gobeithio nad yw'r hyn sydd wedi digwydd imi wedi fy newid i o gwbl a newid pwy ydw i," meddai.
Yr ofn a ddaeth gyda llwyddiant
Ond y mae ganddo ei bryderon fod llwyddiant wedi dod mor gynnar yn ei yrfa.
"Un peth rwy'n ei ofni yw fod y pethe ma wedi digwydd mor glou ac a fydda i yn gallu cynnal gyrfa ar y lefel yma am ddeugain mlynedd arall," meddai.
Gwadodd yr argraff y mae'r wasg yn ei roi ei fod yn ennill cymaint o arian fod ei ddyfodol yn sicr beth bynnag.
"Dwi'n bersonol ddim yn ennill arian mor fawr ag mae pobl yn ei feddwl. Dyna'r argraff sy'n cael ei rhoi gan y wasg a'r ddelwedd sydd gennych chi fel actor. Eich bod chi'n filiwnydd," meddai.
Mae na demtasiyne
Ynglyn 芒 bywyd hudolus y s锚r sydd wedi arwain sawl un i drafferthion dywedodd: "Mae na demtasiyne. Mae na demtasiynau i unrhyw un sy'n byw yn Llundain ond dyw'r byd yna ddim yn real iawn. Allwch chi ddim cyffwrdd y peth a gafael ynddo fe. Picio mewn a mas i'r byd yna fydda i a chwarae'r system a chwarae'r g锚m ac wedyn dod allan ohono fe a bod yn fi fy hun..
"Os wy'n gweithio rwy'n codi yn fore tua chwech ac yna yn y gwaith ac wedyn fe fydda i yn 么l yn y ty tua wyth y nos. Felly o safbwynt bywyd cymdeithasol ar 么l gwaith fyddai ond yn cysgu neu fwyta.
" Yr amserau dwy ddim yn gweithio mae amser i ymlacio a mynd i'r theatr a'r sinema a chyfarfod ffrindiau yn y dafarn.
"Delwedd sy'n cael ei chyfleu gan y cyfrynge a'r wasg sy'n gwneud i bobl feddwl ei fod yn rhyw fywyd glamorous."
Ond dywedodd fod cyffro mewn cael cymysgu efo'r s锚r a'u cyfarfod.
"Mae'n beth cymharol newydd i mi ac mae o yn ecseiting imi gwrdd a'r bobl yma ond pobl ydyn nhw yn y pen draw a dwi'n trin pawb ar yr un lefel ac fel y byddwn i eisai cael fy nhrin gan eraill. Dyna sut y ces i fy magu."