Mela Mwys melys Mela
Y s锚r Stewart Jones, Ceri Lewis, Lisabeth Miles, Gwyn Vaughan Jones, Sharon Roberts.
Cyfarwyddwr Emlyn Williams
Sgrifennu Dwynwen Berry
Hyd 54 munud
Adolygiad gan Glyn Evans Sut ffilm Er y byddai'n annheg dweud mai ei theitl yw'r peth gorau am y ffilm hon gellid deall pam y byddai ambell un yn meddwl hynny.
Ffilm yw hi am berthynas sy'n datblygu rhwng merch anhapus oddeutu 11 oed, sy'n byw dan gysgod perthynas fregus ei rhieni a bwlio yn yr ysgol, a henwr unig sy'n cadw gwenyn.
Bydd rhai yn gweld arwyddoc芒d yn y ffaith fod unig ffilm Gymraeg Gwyl Sgr卯n Caerdydd 2004 yn ffilm ferraf yr 诺yl honno hefyd.
Y stori Pan yw Siriol (Ceri Lewis) yn symud gyda'i thad a'i mam (Gwyn Vaughan Jones a Sharon Roberts) i fyw dros dro yn nh欧 ei nain (Lisabeth Miles) yng Nghricieth mae hi'n dawedog ac yn drist yn barod.
Gwaethyga pethau wrth iddi gael ei bwlio yn yr ysgol ac wrth i briodas ei mam a'i thad gael cnoc arall.
Fodd bynnag, mae'n cael rhywfaint o gysur o sefydlu cyfeillgarwch 芒 Thomos (Stewart Jones), hen 诺r unig sydd hefyd yn cael ei hambygio gan blant yr ardal sy'n gweiddi enwau arno.
Drwyddo ef siriola Siriol ac ymddiddori yng nghyfrinion cadw gwenyn a mela - ond dyw ei rhieni na'i nain ddim yn fodlon gyda'i chyfeillgarwch 芒 Thomos a chr毛ir sefyllfa fregus iawn pan fo amheuon ei fod yn baedoffil a'r heddlu'n cael eu galw i mewn. Mwyaf sydyn, mae dau ystyr gwahanol iawn i'w gilydd i'r gair mela.
Perfformiadau Mae Ceri Lewis a Stewart Jones yn closio'n wych at ei gilydd o'u gwahanol unigrwydd gan godi amheuon ar yr un pryd beth all ddigwydd.
Yr un modd mae Sharon Roberts a Gwyn Vaughan Jones yn chwarae'r tyndra sydd rhyngddynt yn dderbyniol ddigon gyda Lisabeth Miles y fath waethaf o nain awdurdodol.
Y canlyniad Mae nifer o them芒u difyr yn cael eu harchwilio ond yn anffodus nid oes amser i wneud hynny gydag unrhyw wir lewyrch nac mewn dyfnder teilwng o fewn cwmpas 54 munud yn unig.
Yn waeth na hynny, er cyn fyrred y ffilm yr ydym yn dal i gael yr argraff y byddai'n elwa o gael ei bywiogi o ran tempo.
Pan gyrraedd benllanw gyda dyfodiad yr heddlu, fodd bynnag, mae iasau oerion gyda'r gwyliwr mewn gwir amheuaeth beth fydd y canlyniad.
Fodd bynnag, mae'r golygfeydd o'r heddlu'n holi - Siriol ar y naill law a Thomos ar y llall - yn ddifywyd a phrin o dyndra gyda'r blismones Piper (Bethan Marlow) yn amlygu'r un awdurdod a phresenoldeb ag athrawes ar drywydd y sawl osododd y gwm cnoi ar ei chadair.
O ganlyniad chwalu fel niwl y bore mae'r rhan hon o'r stori.
Y peth gorau ddywedwyd "Tria wenu Siriol . . ." meddai ei mam.
Pethau i'w mwynhau Golygfeydd braf yn yr haf ac yn enwedig y lluniau hyfryd o flodau gwyllt.
Gwerth mynd i'w gweld Mae'n debyg mai'r cyfle nesaf fydd ar y teledu, rywdro'r flwyddyn nesaf. Yn sicr, manteisiwch ar y cyfle, yn enwedig gan fod ffilmiau Cymraeg yn bethau cyn brinned a phupur.
|
becky ma mela yn cwl :]
Bethan o Bethesda dylai fod ymlaen eto (:
lora anharad mi wnes i fwynhau llawer gwell na llawer o sothach sydd ymlaen .edrych mlaen i wylio eto
ceri lewis (siriol) Mae llawer o deulu a ffrindiau wedi gwylio y ffilm ac wedi ei mwynhau. Mae'n llawer gwell na'r sothach sydd ar S4C o bryd iw gilydd, e.e Tipit.
Helen, Caerdydd Annodd iawn yw canfod unrhywbeth da i'w ddweud am y ffilm Mela, er roedd perfformiad Stewart Jones i'w ganmol, gan ei fod yn gymeriad hoffus ac yn ennyn cydymdeimlad. Aneglur oedd y berthynas rhwng Edna a Thomos - ai ef oedd Taid Siriol? Roedd yr awgrym yno, ond dim tystiolaeth pendant. Gobeithio wir na fydd S4C yn gwastraffu amser teledu Cymraeg prin yn darlledu'r fath ffilm eto. Nid yw'n adlewyrchiad o'r actorion, ond ar y sgriptiwr a'r cyfarwyddwr! Siom llwyr oedd Mela!
Ffion Stevenson O Bwllheli Dwi'n adnabod Ceri.Mae hi'n ffrind da imi.Mi wnes i fwynhau
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|