W (2008) Munud i feddwl i Ioan Gruffudd!
a hanner.
Y S锚r
Josh Brolin, James Cromwell, Elizabeth Banks, Richard Dreyfuss, Thandie Newton, Jeffrey Wright, Scott Glenn, Toby Jones, Ioan Gruffudd.
Cyfarwyddo
Oliver Stone
Hyd 129 munud
Adolygiad Lowri Haf Cooke
Yn sgil holl gyffro ethol Barack Obama i'r T欧 Gwyn, hawdd anghofio'r g诺r sydd yn dal i hawlio Arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau tan Ionawr 20, 2009, George W Bush.
Mae'r ffilm hon, sy'n portreadu bywyd ac arlywyddiaeth y cowboi o dalaith Texas, yn ein hatgoffa pam bod cymaint o Americanwyr wedi pleidleisio dros y newid mawr.
Ar gae p锚l f芒s Mae'n cychwyn - ac yn gorffen- gyda golygfa o'r Arlywydd ar gae p锚l f芒s gwag; lleoliad llawn arwyddoc芒d wrth gwrs, gan awgrymu cae chwarae'r Freuddwyd Americanaidd.
Mae hefyd yn ein hatgoffa mai dyna lle y profodd Bush ei lwyddiant cyntaf mewn bywyd - nid fel chwaraewr ond fel perchennog t卯m y Texas Rangers.
Dychwelir at y ddelwedd hon gydol y ffilm ond gellid rhannu gweddill y cynhyrchiad yn ddwy brif stori:
Yn gyntaf, dilynwn flynyddoedd cynharaf yr Arlywydd wrth iddo ef a'i gynghorwyr baratoi ar gyfer y rhyfel yn Irac.
Ac yn ail, cawn gipolwg ar ei gefndir gydag awgrym clir o'r hyn ysgogodd ddyn mor annhebygol i ymgyrchu am yr allwedd i'r T欧 Gwyn.
Llythyren o wahaniaeth Mae'n arwyddocaol iawn mai W. ydy enw'r ffilm hon gan mai'r llythyren honno ydy'r unig wahaniaeth rhwng ei enw ef ac enw ei dad, George Bush Snr, Arlywydd yr Unol Daleithiau rhwng 1989-1993 a'r dyn roedd ei fab mor benderfynol o'i blesio.
Dyma, yn 么l y cyfarwyddwr, Oliver Stone, oedd wrth wraidd ei uchelgais wleidyddol, a phob penderfyniad o bwys a wnaethpwyd yn ystod ei flynyddoedd mewn grym.
Hoffus hyd yn oed O gofio cyfeillgarwch mynwesol Oliver Stone 芒'r gwleidyddion asgell chwith, Fidel Castro a Hugo Chavez, byddai rhywun yn disgwyl mai portread maleisus o dwpsyn llwyr fyddai yna yn W. ond y gwrthwyneb sy'n wir.
Serch elfennau cryf o ddychan ar draul 'rhen W, mae'r ffilm yn cynnig portread dynol (hoffus , hyd yn oed) o ddyn amherffaith.
Mae hyn yn arbennig o wir yn yr 么l fflachiadau i'w hanes cyn cyrraedd y T欧 Gwyn lle dilynwn ef o'i groeso meddw i Frat-House Delta-Kappa-Epsilon yng ngholeg Yale hyd at ei benderfyniad i droi at AA ac - efallai'n fwy penodol - at Dduw.
Yn sicr, mae'r hiwmor yn dipyn tywyllach yn ystod y golygfeydd hwyrach wrth i'r un cyffyrddiadau dychanol ddatguddio gwir erchylltra'r celwyddau a'r sbin a arweiniodd y dyn hwn i arwain yr Unol Daleithiau, a'r byd, at ddibyn mor drychinebus.
Canmol Brolin Rhaid canmol Josh Brolin am ei bortread ysgubol o George W. Dyma'r ail ddehongliad o "gowboi" o Texas iddo'i chwarae eleni, yn dilyn ei ymddangosiad fel Llewellyn Moss yn y Western cyfoes No Country For Old Men, ond mae'r ddau berfformiad yn gwbl wahanol, gyda'r naill bortread yn graff a'r llall yn gynnil.
Nid yn unig y mae'n llwyddo i edrych a swnio fel y "Dubya" rydym mor gyfarwydd ag ef ond mae'n llwyddo i'ch denu chi ac, ar adegau, i ennyn cydymdeimlad llwyr 芒'r tan gyflawnwr a aned i linach gadarn o or gyflawnwyr. Camp yn wir.
Cefnogaeth gadarn
Caiff Brolin gefnogaeth gref gan gast cadarn sydd yn llwyddo i osgoi dynwarediadau gan ddechrau 芒 pherfformiad gwych gan James Cromwell fel George Bush Snr (yn chwarae'r "Tad Siomedig" i'r dim ) ac Elizabeth Banks (fel Laura Bush chwareus a rhywiol).
Gwerth nodi hefyd berfformiadau'r is actorion sy'n chwarae "Merry Men" yr Arlywydd, gan gynnwys Richard Dreyfuss (fel Dick Cheney hynod sinistr), Thandie Newton (Lady Macbeth ecsentrig iawn o Condoleeza Rice) a Jeffrey Wright, sy'n yn chwarae Colin Powell fel dyn llawn amheuon, ond sydd mor awyddus i fod yn team-player nes profi'r wireb, "Power corrupts; absolute power corrupts absolutely" i'r eithaf.
Munud Ioan Gruffudd A beth am Ioan Gruffudd, fel Tony Blair?
Rhaid cyfaddef i mi edrych ymlaen at weld ai hwn fyddai'r cyfle mawr iddo greu argraff mewn cystal cwmni ynteu ai enghraifft berffaith o gam gastio fyddai yma.
Wel, mi heriwn i Michael Sheen ei hun - y gorau, o bell ffordd, o'r actorion sydd wedi portreadu Blair dros y blynyddoedd - i wneud cyfiawnder 芒'r cameo llai na munud hwn.
Gwell lwc tro nesa Ioan.
|
|