Mission Impossible III (2006) Cwsg ni ddaw . . .
Y s锚r
Tom Cruise, Philip Seymour Hoffman, Ving Rhames, Michelle Monaghan, Jonathan Rhys Meyers, Laurence Fishburne, Maggie Q, Simon Pegg, Keri Russell
Cyfarwyddo
JJ Abrams
Sgrifennu
JJ Abrams, Alex Kurtzman, Roberto Orci
Hyd
125 munud
Sut ffilm
Ffilm y mae ei stori mor ystrydebol a thebygol y mae'n gwneud ichi fod eisiau cysgu - ac y mae ei s诺n gymaint y mae'n eich deffro bob munud.
Y cefndir
N么l yn 1966 ffurfiwyd rhywbeth oedd yn cael ei alw yn IMF. I rai mae'r llythrennau'n golygu International Monetary Fund Ac, yn wir, y mae yna erbyn meddwl gysylltiad bregus rhwng y gronfa arian ryngwladol honno a chorff o anturwyr cudd rhyngwladol sy'n dwyn yr enw Impossible Mission Force sef ystyr 1966 y llythrennau.
Y cysylltiad rhwng y ddau yw fod angen pwll mor ddiwaelod o arian ag un yr IMF (Ariannol) i greu ffilmiau blocbystar am yr IMF (Amhosib).
Ond cyn y ffilmiau mawr; ar y teledu y dangoswyd anturiaethau yr IMF (Amhosibl) mewn 171 o benodau rhwng 1966 a 1973.
Ond wedi'r elwch hwnnw bu tawelwch nes i ffilm gyntaf gyda Tom Cruise yn chwarae'r arwr Ethan Hunt ffrwydro a ffrwydro a ffrwydro ar y sgrin fawr yn 1996.
Ac, yn wir, dilynwyd Mission Impossible gan Mission Impossible II (2000) ac yn awr MI III gyda Cruise yn parhau'n arwr mor gnotiog y gallai fod yn bwped.
Ond ni ddylai neb ragdybio, ar sail hynny, na fydd yna MI IV, V, VI ac ymlaen ac ymlaen. . .
Y stori
Un peth sy'n amlwg, ni wastraffwyd llawer o amser yn meddwl am hon.
Yn fras, mae Ethan Hunt (Tom Cruise), er yn briod erbyn hyn, yn cael ei orfodi'n 么l i'r maes oherwydd i un o'i hoff gydweithwyr, Lindsey (Keri Russell) fynd ar goll a chael ei lladd gan y pen dihiryn Owen Davian (Philip Seymour Hoffman) sy'n gwerthu arfau i bob llywodraeth a mudiad pwdr ar hyd a lled y byd.
Mae o hefyd yn cipio Julia, gwraig Ethan (Michelle Monaghan), sy'n gorfodi Ethan i'w hela a hefyd i ddod o hyd i ryw beth a adnabyddir fel y "Rabbit's Foot".
Mae'r tyndra'r ddirdynnol pan fo Ethan
1 Ynghlwm wrth gadair yn gwylio Davian yn poenydio Julia.
2 Yn gorfod cysylltu ei hun 芒 rhwydwaith drydan Shanghai cyn i fom sydd wedi'i blannu (trwy'i drwyn) yn ei ymennydd ffrwydro. Dyna be ydi snortio go iawn. Mindblowing yn wir.
Da o beth, felly, fod Julia yn digwydd bod yn feddyg.
Y canlyniad Yr orau o'r tair ffilm gyda Cruise i'r rhai sy'n hoff o gymanfa ddi-dor o ffrwydradau a thanau bob yn ail a lluniau o Tom yn rhedeg am ei fywyd o gwmpas y Vatican, dros bont yn yr Unol Daleithiau ac wedyn trwy strydoedd cefn Shanghai mewn ymdrech i gyrraedd ei wraig cyn i Davian ei diffodd am byth.
Ni welwyd y fath redeg er pan gafodd Guto Nyth Bran gyri drwg a'r t欧 bach agosaf i Lanwynno ym Mhontypridd.
Yn wyneb yr holl redeg, rasio, ffrwydro twrw a saethu mae'n ddirgelwch - ac yn wyrth - pam y teimlwn fod MI III syrffedu.
Go debyg bod yna rhyw fformiwla Ffiseg gudd yn nwylo gwyddonwyr ffilm sy'n egluro pam ac fe fyddai Ethan yr union un i'w anfon i'w darganfod ac yntau'n barotach na chi defaid i redeg. Na fyddech chi ddim eisiau bod yn draed Tom Cruise ar ddiwrnod poeth.
Perfformiadau Rai blynyddoedd yn 么l dywedwyd am actor oedd ar Coronation Street ar y pryd ei fod mor brennaidd ei fod yn rhoi enw drwg i goed. Mae rhywun yn amau i Tom Cruise fel Ethan Hunt gael ei naddu o'r un coedyn.
Mae Philip Seymore Hoffman yn llawer gwell dihiryn nag yw Cruise o arwr ac y mae Laurence Fishburne yn bennaeth trawiadol i'r IMF.
Rhai geiriauLlinell orau'r ffilm i gyd yw honno gan bennaeth yr IMF: "Peidiwch a thorri ar y nhraws i pan ydw i'n gofyn cwestiynau rhethregol - Please don't interrupt me when I'm asking rhetorical questions." Hyfryd.
Nodi'r ystrydebauG锚m ddifyr gyda ffilm fel hon ydi sbotio'r ystrydebau: Gorfodi'r arwr yn 么l i'r maes.Yr Arwr eisiau dial marwolaeth cydymaith. Dihiryn yn cipio gwraig yr arwr. Arwr yn ddiymadferth i helpu ei wraig. Mae yna dwrch yn gweithio i'r gelyn. G卯c cyfrifiadurol. Dyrnaid o ffrindiau sy'n 'dal i gredu ynddo chi'.
Ac mae yna fwy wrth gwrs ond mae'r rheinia'n gychwyn . . .
Gwerth ei gweld? Waeth heb na disgwyl am y DVD gan na fydd unig gryfder y ffilm, ei ffrwydradau, werth dim ar sgr卯n fach.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|