'Tad' y Phantom Cyn ddifyrred 芒'r ffilm yw hanes awdur y nofel wreiddiol am y Phantom - Ffrancwr o'r enw Gaston Leroux.
Yn gymeriad digon lliwgar i fod yn destun ffilm ei hun ganwyd Gaston ym Mharis ar Fai 6, 1868, pan gafodd ei rieni eu dal mewn tagfa draffig geffylog ar eu ffordd o Le Mans i'w cartref yn Normandi.
Bu'n rhaid cyrchu'r fam mewn gwewyr esgor i d欧 gerllaw ond pan ymwelodd Gaston a man ei eni flynyddoedd wedyn darganfu mai gwneuthurwr eirch oedd yn byw yno erbyn hynny.
"Mi ddois i yma i chwilio am grud a dod o hyd i arch," meddai wedyn.
Mab afradus Dyn busnes cefnog oedd ei dad ond er i Gaston etifeddu miliwn ffranc pan fu ei dad farw wnaeth yr arian ddim parhau'n hir gan i'r mab eu hafradu ar gamblo, bwyta'n dda a mwynhau ei hun yn gyffredinol.
Ymhen misoedd yr oedd heb geiniog i'w enw a throdd at sgrifennu i gael dau ben llinyn ynghyd.
Ers dyddiau ysgol yr oedd yn fachgen hynod alluog yn mwynhau sgrifennu a chyfansoddi a phan oedd ar drothwy dod yn fargyfreithiwr, ar 么l pasio'i arholiadau cyfraith, trodd ei olygon yn hytrach tuag at newyddiadura gan ddod yn feirniad theatr a gohebydd llysoedd gyda'r L'Echo de Paris.
Yn sgil ei lwyddiant yno symudodd at Le Matin a gwneud enw iddo'i hun trwy holi carcharor yn ei gell ar 么l smalio mai ef oedd anthropolegydd y carchar i gael mynediad ato.
Crwydro'r byd Wedi cael llond bol ar orfod mynychu dienyddiadau gyda'r guillotine trodd yn ohebydd crwydrol gan ymweld 芒 Rwsia, Asia ac Affrica gan ddefnyddio, fwy nag unwaith, enwau ffug i gael mynediad i leoedd na fyddai croeso ynddynt i newyddiadurwr.
Ar gyfer un stori aeth yn gogydd i lys y Tsar yn Rwsia.
Gyda'i feiddgarwch anhygoel a'i ddawn sgrifennu neilltuol enillodd ddarllenwyr wrth y miloedd.
Ond yn ddyn o natur anystywallt rhoddodd y gorau i'w newyddiadura yn 1907 er mwyn canolbwyntio ar sgrifennu nofelau yn dilyn llwyddiant llyfrau y bu'n eu cyhoeddi er 1903.
Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Yr Ymchwil am Drysorau'r Bore bob yn bennod yn Le Matin.
A hithau'n stori am leidr yn cuddio ei ysbail mewn gwahanol leoedd ar hyd a lled Paris trefnodd Le Matin i guddio saith mil o ffrancs mewn saith lle ym Mharis gan annog darllenwyr i ddod o hyd iddyn nhw trwy gyfrwng cliwiau yn ei nofel!
Straeon ditectif Disgleiriodd fel awdur straeon dirgelwch yn nhraddodiad Conan Doyle gyda Dirgelwch yr Ystafell Felenyn enghraifft wych o stori ddirgelwch ystafell tan glo.
Creodd dditectif o'r enw Joseph Rouletabille a ymddangosodd mewn saith o nofelau eraill hefyd.
Ond er mor llwyddiannus oedd o fel awdur byddai bob amser yn brin o arian gan fod gamblo yn gymaint o wendid.
Ond yr oedd hynny hefyd yn sbardun iddo sgrifennu a dywedir y byddai'n tanio rifolfar o falconi ei d欧 i nodi ei fod wedi cwblhau nofel.
Yr oedd Brenhines y Sabbath 300,000 o eiriau y nofel hiraf a gyhoeddwyd erioed gyda - pum gwaith hirach na'i nofelau arferol.
Ef, mewn llyfr, a fathodd yr ymadrodd, 'pumed colofn' - term a ddaeth yn boblogaidd ym myd ysbio.
Mentrodd i fyd ffilmiau hefyd ond aeth yn ffradach rhyngddo 芒 gweddill aelodau cwmni a sefydlwyd ganddynt.
Y Phantom Yn 1911 y cyhoeddodd o Le Fant么me de l'opera yn dilyn ymweliad 芒 selerydd a hen gelloedd carcharorion oddi tan d欧 opera Paris.
Cyflwynodd y stori fel un wir ac mewn arddull newyddiadurol a fachodd ddychymyg ei ddarllenwyr.
Yn 1924 ffilmiwyd y stori gan Universal yn Hollywood gyda Lon Chaney yn chwarae rhan y Phantom dair blynedd cyn marw Gaston Leroux yn 59 oed ar Ebrill 15, 1927.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|