| |
Slither (2006) Mwy o iych nac o ddychryn
Y s锚r
Nathan Fillion
Elizabeth Banks
Michael Rooker
Gregg Henry.
Cyfarwyddo
James Gunn
Sgrifennu
James Gunn.
Hyd
95 munud
Sut ffilm
Y Blob law yn llaw a Tremors, Invasion of the Body Snatchers, Alien, The Hidden, Night of the Living Dead a sawl ffilm arall debyg. Ond does yna ddim tebygrwydd o gwbl 芒 ffilm arall o'r enw Slither a wnaed yn 1973 gyda Peter Boyle a James Caan.
Y stori
Reit ar y cychwyn cyntaf mae rhywbeth sy'n edrych fel darn o graig yn cyflymu o bellafoedd y gofod tua'r ddaear gan syrthio o'r diwedd mewn coedwig y tu allan i dref fechan Wheelsy yn South Carolina yr Unol Daleithiau.
Dyma'r garreg y mae rhywbeth o'i mewn yn meddiannu Grant Grant (Michael Rooker) sydd yn ei droi maes o law yn anghenfil nid annhebyg i Jabba the Hut wedi ei drochi mewn gwaed a llysnafedd a chanddo fwy o freichiau ac 'agwedd' nag octopws.
Ond cyn hynny mae'n meddiannu un o ferched y dref a honno yn ei thro yn chwyddo i gymaint o faint y byddai hi'n dychryn cynhadledd flynyddol Weightwatchers cyn esgor ar filoedd o angenfilod pedair neu bum modfedd o hyd sy'n edrych fel croesiad rhwng cynrhon a gwlithod sydd a'u bryd ar feddiannu corff pob creadur meidrol drwy neidio i mewn drwy eu cegau.
Ymhlith y rhai a lwyddodd i gadw eu cegau ynghau y mae'r Sheriff Bill Pardy (Nathan Fillion), gwraig brydweddol Grant (Elizabeth Banks) a merch ddel arall (Tania Sauliner) ac y mae hi i fyny iddyn nhw achub y byd - neu o leiaf Wheelsy a'r cyffiniau.
Y canlyniad Ffilm a ddisgrifiwyd gan un adolygydd fel casgliad o syniadau o ffilmiau eraill wedi eu pwytho wrth ei gilydd.
Fel ffilm ddoniol mae'n cael ei hyrwyddo ond ar barodi mae'r pwyslais mewn gwirionedd er bod yna ambell i linell go fachog.
Mae'r pwyslais pennaf ar gnawd a gwaed gyda sawl golygfa ddigon a chodi pwys arno chi wrth i'r meddiannedig fwyta cig amrwd ac wrth i gyrff a phennau gael eu saethu'n ddarnau m芒n. Ond mae hyn yn fwy o iych nac o hwyl mewn gwirionedd. Yn fwy o iych nac o ddychryn hefyd.
Ond y mae sawl munud o dyndra a disgwyl mawr i weld sut y bydd yr anghenfil/Grant yn cael ei drechu.
PerfformiadauMae Nathan Dillon (Serenity) yn llwyddo yn ei ddull arferol fel y Sheriff digyffro yng nghanol yr holl lanast a stomp waedlyd. Sawl llinell dda.
Perfformiad cofiadwy arall yw un Gregg Henry fel Maer cwrs a rheglyd y dref gyda phob math o fudreddi yn dod allan o'i geg - hyd yn oed cyn i un o'r gwlithod llysnafog gael mynediad!
Ar wah芒n i olygfa afaelgar yn y bath ac un arall wedi ei chloi mewn car mae Tania Sauliner fel Kylie Strutemyer yn cael ei gwastraffu braidd.
Gwerth ei gweld Nid os ydych ar eich ffordd i siop gig i brynu pwys o iau - ac yn sicr nid cyn ei fwyta! Ond i rai sy'n mwynhau llygadu olion ffilmiau eraill mae yma dipyn o hwyl.
|
|
|