Miss Potter (2007)
Y s锚r
Ren茅e Zellweger, Ewan McGregor, Emily Watson, Lloyd Owen, Barbara Flynn
Cyfarwyddo
Chris Noonan
Sgrifennu
Richard Maltby Jr
Hyd
93 munud
Sut ffilm
Telyneg serch feddal a hynod deimladwy ond heb fod yn llethol.
Y stori
Yn ferch gyda thipyn o gythrel ynddi hi mae Beatrix Potter (Ren茅e Zellweger) yn cael anhawster dygymod a gwerthoedd troad y bedwaredd ganrif ar bymtheg sy'n mynnu mai priodi a rhedeg cartref yw 'dyletswydd' ac ymgyrhaeddiad pob merch yn ei chylch cymdeithasol hi.
Ond mae hi'n gwrthod y cariadon 'cymeradwy' y mae ei mam, Helen (Barbara Flynn) yn eu dwyn ger ei bron ac yn osgoi i fyd straeon am anifeiliaid y mae'n eu creu mewn gair a llun.
Er mawr syndod mae ei llyfrau am gymeriadau fel Peter Rabbit, Mrs Tiggy-Winkle a Jemima Puddle-Duck mor llwyddiannus y mae'n dod yn ferch ariannog iawn, iawn.
Ar yr un pryd , yn gwbl groes i ddymuniadau ei mam, mae'n syrthio mewn cariad ac yn bwriadu priodi ei chyhoeddwr, Norman Warne (Ewan McGregor) ond y garwriaeth yn cael ei dryllio yn y modd tristaf posibl.
Y canlyniad
Lleiaf yn y byd ydych chi'n 'i wybod am y Beatrix Potter go iawn (1866-1943) mwyaf yn y byd yr ydych chi'n mynd i fwynhau y delyneg fach feddal a thra theimladwy hon.
Cyhuddwyd y ffilm o droi stori anghyffredin yn un gyffredin trwy anwybyddu gwahanol haenau ym mywyd Miss Potter ond nid fydd hynny yn mennu ond ar y rhai sy'n ymwybodol o'r haenau hynny.
Gallodd y gweddill ohonom fwynhau yr hyn arlwywyd ar eu cyfer. Ond gwelodd y rhai sy'n gwybod mwy am yr hanes yr ymdriniaeth hon yn arwynebol ac yn annigonol gan fod yma anwybyddu neu ei wthio o'r neilltu er mwyn canolbwyntio ar yr hyn a ddisgrifiwyd fel stori bocs siocled y berthynas 芒 Norman Warne.
Er y cydnabyddir yma lwyddiant anhygoel llyfrau Beatrix Potter sydd wedi gwerthu mwy nag unrhyw lyfrau plant eraill ar hyd a lled y byd, arwynebol yw'r gwerthfawrogiad o'i chelfyddyd a'r ffaith fod y straeon hyn mewn gwirionedd yn llawer iawn mwy nag hanesion bach neis am gwningod bach annwyl mewn gwasgod.
Nid yn unig yr oedd yn llenor dawnus ond hefyd yn arlunydd medrus a oedd wedi astudio'n fanwl nid yn unig yr anifeiliaid yr oedd yn eu cymeriadu ond hefyd fyd natur yn gyffredinol.
Yr oedd yn arbenigwraig ar ffwng ond er iddi gyflwyno papur gwyddonol ar y pwnc i'r Gymdeithas Linnaean yn 1897 amharod oedd y gymdeithas honno i'w chydnabod oherwydd mai merch oedd hi - er fe fu iddi - y Gymdeithas - edifarhau yn y diwedd.
Ond dim ond braidd gyffwrdd 芒'r elfennau hyn y mae'r ffilm hon a go brin y bydd neb yn sylweddoli fod y wraig hon yn naturiaethydd o bwys.
Yn hytrach bodlonir ar ganolbwyntio ar garwriaeth siwgwraidd rhyngddi hi a Norman Warne a'r cicio yn erbyn y symbylau cymdeithasol hunan ymwybodol o statws mewn cymdeithas a gynrychiolir gan ei mam.
Yn frysiog ar y diwedd y nodir cyfraniad arbennig Beatrix i gadwraeth, yn arbennig yn Ardal y Llynnoedd, ond dim ond mewn geiriau ar y sgrin wrth i'r ffilm ddirwyn i ben y nodir union faint y cyfraniad hwnnw a'r ffaith iddi drosglwyddo gwerth miloedd lawer o bunnau o dir i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae golygfa mewn ocsiwn pan yw hi'n brwydro i brynu fferm rhag mynd i ddwylo 'datblygwyr' yn un gyffrous.
Ond, ni fydd y diffygion hyn ond yn poeni y rhai hynny sy'n ymwybodol ohonynt - rhwydd hynt i'r gweddill ohonom ymgolli yn hanes trist dau sy'n glwyf o serch - ond mae'n bwysig nad ydym ninnau yn tybio mai'r stori ar y sgrin yw'r hanes i gyd a bod mwy i Beatrix Potter na Miss Potter.
Perfformiadau Ansicr yw rhywun o berfformiad Zellweger ei hun - weithiau'n argyhoeddi weithiau ddim. Dywedodd un sylwebydd i'w pherfformiad ei atgoffa ef o Miss Tiggy-Winkle y llyfrau - ac y mae rhywbeth nad yw cweit yn gweithio yn ei symudiadau a'i hedrychiad.
Llwydda Ewan Mcgregor yn i ymddangos yn glaf o serch heb ymddangos yn gadach llestri hefyd.
Mae Barbara Flynn yn cael hwyl fawr yn chwarae rhan Helen, mam Beatrix. Mae ganddi sawl llinell dda ac mae'r cyd-daro rhyngddi hi a'r tad mwy rhesymol (Bill Paterson) yn gweithio'n dda - ond y ddau ohonynt wedi eu dal ym magl hualau cymdeithasol eu cyfnod.
Rhai geiriau Allwn ni ddim aros adref gydol ein bywyd - rhaid inni gyflwyno ein hunain i'r byd ac edrych ar y peth fel anturiaeth.
Does gen ti ddim ffrindiau.
Oes, bob tro yr ydw i'n gwneud llun.
Fe fyddai dda gen i pe na bydde ti'n dod a phobl fusnes i'r t欧 - maen nhw'n cario llwch.
Mae'n merch ni yn enwog - ti ydi'r unig un sydd ddim yn gwybod hynny.
Mae fy Mam a minnau wedi dod i ddealltwriaeth - yr ydym wedi cytuno i beidio deall ein gilydd.
Ambell i farn
Daw'r ffilm dan lach y rhan fwyaf o'r adolygwyr seriws:
"Dychrynllyd o neis neis" yw barn y Guardian sy'n dweud fod gwylio'r ffilm yn teimlo fel rhywun yn gwthio'ch hwyneb i bowlen o pot-pourri mewn lle gwely a brecwast yn Cumbria am 90 munud! Mae hefyd yn cyhuddo Zellweger o wneud i Beatrix ymddangos yn "glinigol wallgof" ar adegau. "Mae'r perfformiadau yn gwneud i'ch bodiau gyrlio," meddir.
Cyhuddo'r ffilm o beidio 芒 chymryd yr hanes o ddifrif mae'r Observer ac o wneud i fywyd anghyffredin ymddangos yn un cyffredin iawn.
Cafodd colofnydd y Spectator fwy o flas ar y ffilm:
"Gallai fod wedi bod yn fwy herfeiddiol, yn fwy gwleidyddol ac fe allai fod wedi dadorchuddio mwy," meddai cyn ychwanegu ei bod yn rhamant sy'n cael ei dweud yn dda.
"A phan ddaw y tro trist fe fyddwch yn wylo," meddai.
Mae gwefan Saesneg y 成人论坛 yn s么n amdani fel stori swynol ac ysbrydoledig merch sy'n cicio yn erbyn safonau staeslyd ei chyfnod.
Darnau gorau Mae'r golygfeydd yn y cartref gyda Mrs Potter yn hyfryd a'i hymdriniaeth o'r llu morynion sydd ganddi.
Mewn un olygfa mae'n stwffio blows sydd wedi'i staenio i arffed un ohonyn nhw gan ddweyd: "Mae wedi'i difetha, rho hi i'r tlodion."
Mae lluniau gwych o Cumbria.
Ar y cychwyn mae'r modd y mae lluniau Beatrix yn neidio'n fyw o flaen ei llygaid yn drawiadol ond mae hyn yn cael ei wneud unwaith yn ormod gwaetha'r modd.
Gwerth ei gweld? Heb os - er gwaetha'r ffaith ei bod yn edrych fwy fel ffilm deledu na ffilm sinema. Ac mae'r Spectator yn gwbl gywir wrth ein rhybuddio y byddwn yn wylo. Bydd sawl un yn cael llawer iawn mwy o fwynhad nag a ddywed y beirniaid.
Cysylltiadau Perthnasol
Beatrix Potter yng Nghymru
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|