Stormbreaker (2006) 'William a Harry' fel un yn achub y byd
Y s锚r
Alex Pettyfer, Mickey Rourke, Bill Nighy, Sophie Okonedo, Ewan McGregor, Alicia Silverstone
Cyfarwyddo
Geoffrey Sax
Sgrifennu
Anthony Horowitz
Hyd
93 munud
Sut ffilm
Mae perygl cael eich hun mewn pob math o helyntion 'PC' o ddweud, "Iawn i blant," am y ffilm hon, mae'n debyg. Ond dyna'r gwir am rywbeth sy'n dynnu coes a pharod茂o anghynnil iawn ar gyfer yr ifanc o ffilmiau James Bond gyda rhyw thoffar pedair ar ddeg oed sy'n groesiad o'r tywysogion William a Harry o ran pryd a gwedd yn rhuthro o gwmpas yn achub y byd.
Y stori
Wedi i'w ewythr (Ewan McGregor) gael ei ladd gan Yassen Gregorovich (Damien Lewis) - un o weision y biliwnydd drwg, Darrius Sayle (Mickey Rourke), sydd 芒'i fryd ar reoli'r byd - mae Alex Rider (Alex Pettyfer) yn canfod mai swyddog cudd gyda'r Llywodraeth oedd yr ewythr hwnnw ac nid gweithiwr banc parchus fel y tybiai ef.
Cyn pen dim mae Alex yntau yn cael ei arwyddo'n ysb茂wr gydag MI6 i gymryd lle ei ewythr gan Alan Blunt (Bill Nighy) a'i gydweithwraig, Mrs Jones (Sophie Okenedo).
Cyn ichi fedru gweiddi "Cer", mae Alex yn sgrialu o un pen i Lundain i'r llall ar ei feic neu'n dianc ar quadbike fel rhan o'i ymgais i ddial ar Darrius a Gregorovich am farwolaeth ei ewythr hoff.
Wrth benelin Alex mae ei ofalwraig Americanaidd fenywaidd gyda'r enw gwrywaidd Jack Starbright (Alicia Silverstone) - y ddau wedi eu dewis i chwalu cynllwyn Darrius i amharu ar yr ifanc trwy roi cyfrifiaduron i holl ysgolion y wlad neu rywbeth.
Y canlyniad Parodi anaeddfed digon hawdd i'w gwylio ond un nad yw'n bodloni yn y pen draw - er efallai y bydd plant 14 oed ac iau yn cael rhywfaint mwy o fwynhad wrth uniaethu ag un o'u hil yn cyflawni nifer o gampau lled arwrol ar gefn beic ac ati.
Yn anffodus, does yma mo'r un graen na slicrwydd 芒 ffilmiau Spy Kids.
Er mwyn i ffilm fel hon lwyddo rhaid i'r arwr apelio atoch - ond mae bron bopeth yngl欧n 芒 chymeriad Alex Rider fel mae'n cael ei chwarae gan Alex Pettyfer yn ei wneud yn berson bron a bod yn amhosibl cymryd ato.
Bu llyfrau Anthony Horwowitz mor boblogaidd ymhlith darllenwyr Saesneg - gyda phob un wedi gwerthu mwy na'r un o'i flaen - y penderfynwyd eu trosi i'r Gymraeg ac yr oedd mynd mawr ar Tarandon gan Grey Evans yn ystod Eisteddfod yr Urdd.
Tra bo darllenwyr yn gallu creu eu Alex eu hunain yn y meddwl - rhaid i fynychwyr sinema dderbyn yr Alex sydd o'u blaenau. Go brin fod llawer yn meddwl amdanynt eu hunain fel rhywun fel hwn.
Ambell i farn I feddwl fod hon i fod yn un o flocbystars mawr yr haf claear fu'r ymateb - caredig ar y gorau fu adolygwyr gydag un yr Observer yn holi tybed na fyddai yna fwy o groeso ymhlith y 'kids' i James Bond go iawn y Chwedegau yn hytrach nag i'r barodi hon.
Johnny English wedi'i groesi ag Agent Cody Banks 2 meddai gwefan ffilmiau'r 成人论坛 gan ychwanegu fod y ffilm yn syrthio'n fyr iawn o Spy Kids a'r ffilmiau James Bond go iawn. Dyma'r beirniad sydd hefyd fwyaf llawdrwm ei feirniadaeth o'r arwr ei hun gan ddweud y dylid ystyried cael gwared 芒 Pettyfer ar gyfer y ffilmiau sydd i ddilyn. "Posh blond pretty-boy" yw'r Alex hwn meddir, gyda wyneb na fyddai rhywun byth yn blino ei ddyrnu! Oni fyddai hi'n braf, d'wedwch, gweld y beirniaid yma'n mentro dweud beth maen nhw'n i feddwl gyda llai o amwysedd?!
Ond yn wir, does gan hyd yn oed y Wales on Sunday ddim gair da iawn am y ffilm hon gyda'r pennawd Bland Storm. Rhoddir y bai am fethiant y ffilm ar y ffaith nad oes unrhyw amheuaeth ar unrhyw adeg fod yr arwr mewn unrhyw wir beryg ac yn sicr o ddianc o bob cornel yn ddianaf.Ar dystiolaeth y ffilm hon dywed adolygydd y Mirror nad yw ef yn edrych ymlaen o gwbl at eistedd drwy'r ffilmiau sydd i ddod yn y gyfres. "Less than breathless with excitement," meddai gan ofidio nad yw Alex ei hun y math o gymeriad y bydd yr ifanc yn uniaethu ag ef.
Perfformiadau Stephen Fry fel Smithers - y cymeriad Q sy'n arfogi'r asiaint gyda phob math o ddyfeisiadau anhygoel ym myd Bond - fyddai rhywun wedi hoffi gweld mwy ohono. Mae'n tra rhagori ar John Cleese a etifeddodd ran y Cymro Desmond Llewellyn yn y ffilmiau Bond.
Anodd gwybod beth i'w wneud o berfformiad Bill Nighy - un o hoff actorion y wefan hon - fel Alan Blunt, cyfarwyddwr gweithrediadau MI6. Does yna mo'r min arferol i'w berfformiad sy'n tueddu i fod yn bantomeimaidd.
Mae'r Americanes Missi Pyle yn dda fel Nadia Vole - rhyw fath o Rosa Klebb gyda joch o fenyweidd-dra .
Darnau gorauY r芒s feics trwy draffig Llundain.
Gwasgu'r car.
Rhai geiriauNid yn y ffilm y dywedwyd hyn ond gan Alex Pettyfer mewn cyfweliad: "Pan ydych chi'n dychwelyd i'r ysgol ar 么l cael y profiad o fynd allan a gweithio yn y byd go iawn yr ydych yn ei weld fel lle i chwarae yn unig - a dydych chi ddim eisiau bod yno mwyach." Ydi, mae'r byd go iawn yn gwneud ichi ddweud pethau fel'na.
Gwerth ei gweld?Siomedig yw'r hyn oedd i fod yn un o flocbystars mawr yr haf - ond mae Stormbreaker yn fyr ac ymhell o fod yn llusgo.
Mae'n syml - arwynebol yn wir - a hawdd ei deall o ran stori ac yn gyfle iawn i ddianc rhag y gwres neu i 'mochel rhag y glaw pan ddaw hwnnw wythnos y Steddfod!
Ac os gwelwch chi Grey Evans yn y gynulleidfa gallwch ei holi am yr actio yn ogystal 芒'r addasu - a phrynu hufen i芒 iddo fo am droi Alex yn Gymro ar bapur.
Cysylltiadau Perthnasol
Tarandon - holi Horowitz
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|