|
M么r Tawel Un dyn yn erbyn Ond gormod o sgrifennu a gormod o gynnwrf mewn drama am Ddafydd Ddu Feddyg
Bu Phil ap Iorwerth yn gweld M么r Tawel gan Ian Rowlands yn Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, Mawrth 10, 2001 Cyn troi at y ddrama ar erfformiad rhaid nodi un neu ddau o bethau. Cyn troi at y ddrama ar perfformiad rhaid nodi un neu ddau o bethau.
Cynulleidfaoedd bach O bryd iw gilydd Mae Theatr Clwyd wedi ei beirniadu am beidio a chynnwys digon o gynhyrchiadau Cymraeg.
A bod yn hollol onest fedra i moi beio. Er bod cynulleidfa go dda ar gyfer y cynhyrchiad o Damwain a Hap, rai misoedd yn 么l, roedd Theatr Stiwdio Emlyn Williams ymhell o fod yn llawn ar gyfer Cegin y Diafol, gan Si么n Eirian.
Maen ddrwg gen i ddweud mai dim ond rhyw 20 oedd yno i wylior perfformiad hwn o ddrama gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2000.
Mae hyn yn warth ar dref Daniel Owen.
Rhaglen dda Hoffwn hefyd nodi bod codi 拢2 am raglen, er yn ymddangos yn ddrud, yn dderbyniol iawn y tro hwn gan ei bod yn cynnwys holl destun y ddrama yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Drama un actor Drama ar gyfer un dyn yw M么r Tawel ac maen ymdrin 芒 hanes David Samwell, gwr o Ddinbych fun llawfeddyg ar long y Discovery ar daith olaf Capten Cook.
Fei hadnabuwyd hefyd fel Dafydd Ddu Feddyg ac roedd yn fardd ac yn aelod o Orsedd Iolo Morganwg.
Dyfan Roberts syn perfformio rhan David Samwell, ac fel pob drama ar gyfer un perfformiwr maen gamp aruthrol cofior testun i gyd - 15 tudalen o sgript - a rhaid edmygu a pharchu actor syn medru dygymod 芒r fath orchwyl.
Yr awdur ywr cyfarwyddwr.
Llong wedi dryllio Mae Sean Crowley iw ganmol am gynllunio set seml ond effeithiol. Ar ganol llwyfan gwag mae llong wedi ei dryllio gydar sgerbwd ar asennau yn amlwg yn cynnal y bwrdd gydag un mast unig a ffalig ar ei chanol.
Maer ddraman cychwyn mewn storm gyda Samwell wedi dringor mast ac yn gweiddi yn erbyn y gwynt ar taranau:
"Melltith ar y storm berffaith hon! Dwi wedi hen yml芒dd ar d么n gron y tonnaun fy siglo am sigo"
(Rhywsut dywr sgript Gymraeg ddim mor lliwgar 芒r un Saesneg sydd hefyd yn y rhaglen:
"Damn this perfect storm! I have had a surfeit of seas. I am battered to buggery!")
Erchyllterau Cook Gellid fod wedi creu drama ramantus am hwylior cefnfor yn chwilio am diroedd newydd ac am y North West Passage rhwng y M么r Tawel ar Iwerydd, ond nid dyna a gawn.
Yn lle hynny, cawn ddrama syn datgan yn ddi-flewyn ar dafod yr erchyllterau a gyflawnwyd gan Cook ai griw.
Cawn hefyd ymdeimlo 芒r gwrthdaro mewnol y bun rhaid i Samwell ymgynefino ag ef, rhwng bod yn Gymro ac yn fardd, a bod yn swyddog gydar Llynges Frenhinol.
Efallai bod y dramodydd yn euog o briodoli i David Samwell - Dafydd Ddu Feddyg - dybiaethau ein hoes ni wrth osod geiriau fel hyn yn ei geg:
"...gred gysegredig y Prydeiniwr, hynny yw, mai fo syn berchen ar ei eiddo ei hun ac yn berchen ar eiddo pawb arall hefyd!"
Prydeiniwr oedd Samwell hefyd.
Storm eu hunllefau Yn y sgript nodir bod David Samwell yn "hwylio storm ei freuddwydion" ond storm ei hunllefau a gawn mewn gwirionedd, ar rheiny wedi eu dwysau gan y laudanum y maen ei yfed o bryd iw gilydd.
Ac maer perfformiad yn un stormus hefyd, yn wyllt a swnllyd ar brydiau ac, ar adegau eraill, yn gostegu i dawelwch.
Maen berfformiad corfforol hefyd, gyda Dyfan Roberts yn defnyddio pob rhan or set gyfyng - weithiau ar ben y mast, dro arall yn y caban islawr pwp, weithiau ar flaen y llong ddrylliedig.
Atgofion yn gwallgofi Brygowthan gwr yn mynd oi go a gawn, gwr yn cael ei wallgofi gan atgofion o dreisio a rheibio:
"Torasom glwyfau dyfnion, archollion angheuol, ar draws cefnfor y Pasiffig,"meddai.
Atgofion o lofruddio di-hid, diangen: "Hyd yn oed cyn i droed wen adael ei h么l ar draeth Eden, tywalltwyd gwaed Hawaiiaidd. Collodd Williamson . . . ei bwyll wrth geisio glanio ymysg torf o frodorion lleol oedd wediu cynhyrfun l芒n gan y newydd-ddyfodiaid. Saethodd at ryfelwr ai daro yn ei fron - bu farw yn y fan ar lle, y tywod yn llyncur bai fel staen, ei waed yn llifo i ddyfnderau dwfn cefnfor o ddial. Aloha, ddyn gwyn; cymer fy ngwraig, fy mywyd, fy nhir, ond mae na bris iw dalu, nid dyled iw thalu 芒 hoelion yw hi, cedwch rheiny ar gyfer croes eich Crist. Am dywallt gwaed, y pris yw, gwaed. Salve, croeso..."
Tuedd i or-sgrifennu Ac maer dyfyniad hwnnw yn amlygu prif fai y ddrama hon - gor- ysgrifennu.
Mae hyn bob tro yn beryg wrth sgwennu drama ar gyfer un perfformiwr - rydych chin rhy ddibynnol ar eiriau i ddweud y stori ac maer demtasiwn yno i ddefnyddio mwy o eiriau nag sydd eu hangen.
Byddai pedant yn nodi hefyd, os nad oedd troed wen wedi gadael ei h么l ar draeth Eden na fyddair brodorion yn gwybod am Grist.
Ond yng nghynnwrf y perfformiad prin y byddai neb yn sylwi ar hynny.
Goremod o gyffro Ac yr oedd hwn yn berfformiad cynhyrfus.
Yn rhy gynhyrfus im chwaeth i syn credu y byddai perfformiad tawelach wedi bod yn well.
Gyda digon o liw yn y sgript nid oedd angen perfformiad mor liwgar.
Rwyn pwysleisio mai fymateb personol i yw hyn ac rwyn siwr y bydd llawer wedi mwynhau gwylio Dyfan Roberts yn arddangos ystod mor eang o sgiliau actio a goslefau lleisiol.
Ar 么l awr a mwy yng nghwmni David Samwell doeddwn i ddim yn siwr fy mod i wedi deall y cyfan or ddrama gymhleth a chyfoethog hon. Roeddwn i, fodd bynnag, yn llawn edmygedd or egni ar angerdd ym mherfformiad Dyfan, ac or gamp o gofio atgofion David Samwell, Dafydd Ddu Feddyg.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|