| |
|
Nid perfformiad theatrig Barn Sian Lloyd Roberts o Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, Gwynedd, o gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Siwan
Ar 么l astudio'r ddrama fel rhan o fy nghwrs Uwch Gyfrannol roeddwn yn methu ag aros i'w gweld yn dod yn fyw o fy mlaen, felly, fel anrheg pen-blwydd fe es i gyda fy ffrindiau i Theatr Gwynedd, Bangor.
Roedd clywed pwy oedd yn chwarae rhannau'r cymeriadau yn dipyn o syndod ac ni allwn ddychmygu Lisa J锚n na Rhys ap Hywel yn chwarae cymeriadau difrifol fel Alis a Gwilym Brewys.
Roedd y theatr yn orlawn ac yn boeth iawn ond eisteddais yn y poethder yn gwylio'r stori'n datblygu o fy mlaen.
Credaf i Ffion Dafis bortreadu Siwan yn dda iawn ac roedd y pedwar prif actor yn dilyn y sgript yn fanwl.
Roedd ambell frawddeg wedi cael ei anghofio ond petawn i heb astudio'r ddrama ni fuaswn byth wedi sylwi.
Ar y cyfan roedd yn gynhyrchiad gwerth ei weld. Y llefaru'n glir ac yn fanwl - ond wedi meddwl, perfformiad theatrig oedd hwn i fod ac fe'm siomwyd ychydig nad oedd y cynhyrchydd wedi canolbwyntio digon ar yr actio.
Oherwydd hyn, roedd y drydedd act i mi'n bersonol, yn llusgo'n ofnadwy er, gall hynny fod oherwydd fy mod wedi ei hastudio ac wedi clywed araith Llywelyn sawl gwaith o'r blaen.
Felly, os nad ydych yn gyfarwydd a'r ddrama, credaf y cewch eich plesio'n arw.
Cyn gorffen rhaid gofyn pam mai llun Alis sydd ar du blaen y rhaglen a pham nad oes toriad?
Wedi'r cwbl, gyda thair act yn Siwan fe ddylai fod o leiaf un toriad. Sian Lloyd Roberts (6 (i))
|
|
|
|