|
Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar 么l yr Alban' Beirniaid yn condemnio 'bod yn saff'
Yr un wythnos ag y gadawodd rheolwr cyffredinol Theatr Genedlaethol Cymru ei swydd wedi dim ond chwe mis yn y gwaith daeth y cwmni dan ymosodiad pellach gan adolygydd blaenllaw a chyfarwyddwr theatr.
Ar y rhaglen radio, Wythnos Gwilym Owen, cyhuddwyd y cwmni:
O fod ymhell ar 么l cwmni cenedlaethol yr Alban sydd wedi bod mewn bodolaeth am lawer llai o amser.
O fethu ag arloesi gyda chynyrchiadau gan ddewis yn hytrach fynd am bethau "saff".
Am fethu 芒 denu actorion Cymraeg amlwg i berfformio yng Nghymru.
O fod wedi ei ffurfio yn dilyn trafodaethau "cul" a "phreifat".
'Yr Alban ymhell ar y blaen' Ers ei sefydlu dros dair blynedd yn 么l bu anfodlonrwydd yngl欧n a rhai o gynyrchiadau Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru ac mae'r feirniadaeth ddiweddaraf yn codi o erthygl gan Paul Griffiths a ymddangosodd yn Y Cymro.
Dywedodd yno fod Cwmni Theatr Genedlaethol yr Alban ymhell ar y blaen i'r cwmni Cymraeg er na fu mewn bodolaeth ond er Chwefror 2006.
Gwrthododd y cwmni wahoddiad i gymryd rhan yn Wythnos Gwilym Owen ond fe ddywedodd sylwebydd annibynnol, Carys Wyn Edwards sy'n flaenllaw ym myd y ddrama ac yn bennaeth Adran Ddrama Ysgol Maes yr Yrfa, Llanelli, iddi hi gael ei "digoni" gan lawer o'r hyn a wnaed gan y cwmni.
Ond meddai Paul Griffiths, adolygydd theatr rheolaidd Y Cymro:
"Dwi'n teimlo, fel yr ydw i wedi dweud sawl gwaith yn Y Cymro, fod diffyg gweledigaeth a dwi jyst yn cenfigennu'n gyfangwbl wrth Theatr Genedlaethol yr Alban sydd ar 么l blwyddyn yn ei hanes ymhell ar y blaen.
"Ryda ni dair blynedd r诺an gyda'n theatr genedlaethol ni ac mae'r cynyrchiadau rydym ni wedi gael i gyd wedi bod yn saff neu wedi bod yn gawl eildwym o rywbeth sydd wedi bod o'r blaen. Does yna ddim byd ffres, newydd; does yna ddim sgwennu newydd, syfrdanol.
"Mae gennym ni ddramodwyr fel Aled Jones Williams a Meic Povey, pobl arbennig iawn, iawn, a does yna ddim cyfle iddyn nhw gael llwyfannu gwaith newydd, gwaith arbrofol fel sy'n digwydd yn yr Alban."
'Wedi colli cyfle' Cefnogwyd Paul Griffiths i'r carn gan Jeremy Turner, cynhyrchydd a chyfarwyddwr profiadol a Chyfarwyddwr Artistig cwmni theatr mewn addysg Arad Goch:
"Mae'n drueni ein bod wedi colli cyfle," meddai gan gyhuddo'r cwmni o fodloni ar ail greu yr hen Gwmni Theatr Cymru a oedd yn llwyddiannus iawn yn y Chwedegau a'r Saithdegau.
"Ond wrth gwrs erbyn hyn mae mwy na chwarter canrif wedi mynd heibio a does dim pwynt ail greu . . . mae'r holl waith arbrofol a ddigwyddodd yng Nghymru yn yr Wythdegau a'r Nawdegau, does dim adlewyrchiad o gwbl o hynny yng ngwaith y cwmni cenedlaethol," meddai.
Ychwanegodd mai'r gwahaniaeth mawr rhwng y yr Alban a Chymru yw y ffordd y cafodd y cwmniau cenedlaethol eu sefydlu yn y ddwy wlad.
"Yr oedd trafodaeth hir, agored ac eang yn yr Alban ymhlith pobl byd y theatr cyn creu templad ar gyfer y cwmni newydd.
"Beth ddigwyddodd fan hyn oedd trafodaeth fewnol, gul, breifat iawn, a dim cyfle i bobl brofiadol yn y maes roi eu mewnbwn a'u syniadau ac rydym ni wedi colli cyfle," meddai.
'Nifer o gynyrchiadau wedi digoni' Ond er yn barod i gydnabod gwendidau dywedodd Carys Edwards, sydd yn cynhyrchu un o brif sioeau Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerfyrddin eleni, i'r cwmni Cymraeg ei digoni hi ar sawl cyfrif.
"Dwi'n credu fy mod i wedi cael fy nigoni mewn nifer o gynyrchiadau. Dwi wedi mwynhau cynyrchiadau fel T欧 ar y Tywod ac Ester a Diweddgan a'r gwaith Wrth Aros Beckett yn yr Eisteddfod Genedlaethol [yn Abertawe]," meddai.
"Dyda ni ddim yn mynd i blesio pawb drwy'r amser," ychwanegodd.
"Dwi'n gwybod mai'r briff maen nhw wedi'i gael gan Gyngor y Celfyddydau ydi eu bod nhw yn mynd o amgylch y prif theatrau ac yn llenwi seddau a phan ydych chi'n meddwl am Gysgod y Cryman; pan oeddwn i yn y theatr yn gwylio hwnnw - ac fe allai ddweud nad oedd o yn un o fy hoff gynyrchiadau - ond yr oedd yna bobl yn y theatr, yn bennau gwynion efallai, nad oeddwn i wedi'u gweld yn y theatr ers rhai blynyddoedd.
"Felly, gyda Cysgod y Cryman yr oedden nhw wedi gwneud yr hyn a ofynnwyd iddyn nhw.
"Ac yna, gyda rhywbeth fel T欧 ar y Tywod efallai nad oedd y bobol oedd yn Cysgod y Cryman ddim yn mynd i weld y cynhyrchiad hwnnw ond mae'n rhaid ichi geisio plesio a rhoi arlwy gwahanol a dwi'n meddwl ein bod ni yn cael hynny."
'Nid llenwi theatrau yn unig'
Ond dywedodd Jeremy Turner y gallai arlwy'r cwmni "fod wedi bodoli ddeg, ugain, trideg mlynedd yn 么l a'r arddull sy'n cael ei defnyddio i gyflwyno'r arlwy yna."
Ond anghytunodd Carys Edwards gan ddweud i rai cynyrchiadau fod yn arbennig o dda.
Dadleuodd Paul Griffiths nad llenwi theatrau ddylai fod yr unig fesur o lwyddiant cwmni cenedlaethol:
"Os dyna ydi r么l theatr genedlaethol, llenwi theatrau, rhowch gynhyrchiad o O Law i Law, rhowch gynhyrchiad o William Jones ac Enoc Huws ac mi wnewch chi lenwi.
"Ond nid dyna ydi r么l theatr genedlaethol," meddai gan ychwanegu nad yw'r cwmni presennol "wedi'n symud ni ymlaen o gwbl".
Ac meddai Paul Turner:
"Fe allwch chi lenwi theatrau mewn sawl ffordd un ai trwy fod yn gwbl saff neu gwbl gonfensiynol neu drwy fentro ac mae'r theatr yn yr Alban wedi mentro ac yn llenwi eu theatrau . . .yn anad dim gyda mentergarwch a gwreiddioldeb a dyna ydym ni ddim yn ei gael."
'Prinder gwaith newydd' Ac meddai Paul Griffiths:
"Dydw i'n sicr ddim wedi teimlo, Dyma gychwyn newydd, dyma rywbeth ffantastig gwych yng Nghymru. Prin iawn ydi gwaith awduron newydd - dim ond Dominos [gan nifer o awduron newydd ar y cyd] a Plas Drycin gan Gwyneth Glyn.
"Mi soniodd Cefin [Roberts, Cyfarwyddwr Artistig y cwmni] wrtha i flwyddyn yn 么l am ddrama newydd o'r enw Iesu gan Aled Jones Williams oeddwn i wedi cael ar ddeall y byddai'n cael ei pherfformio yn Eisteddfod Sir Y Fflint ond yn sydyn reit na - felly lle mae'r gwaith newydd yma?" meddai.
"Maen nhw'n dweud eu bod wedi comisiynu awduron felly pam nad ydym ni'n cael eu gweld nhw."
Canmol gweithdai Ond dywedodd Carys Edwards, ei bod hi, fel pennaeth drama mewn ysgol, wrth ei bodd gyda chynhyrchiad fel T欧 ar y Twod ac yn arbennig y gweithdai a drefnwyd gyda'r cynhyrchiad a fu'n "gaffaeliad mawr i ddisgyblion".
"Felly, o'n safbwynt i rydw i wedi cael fy modloni yn hynny o beth."
Gwahodd actorion Holodd Paul Griffiths hefyd pam nad yw actorion Cymraeg blaenllaw fel Rhys Ifans a Daniel Evans yn cael cyfle i actio gyda'r cwmni.
"Mae Rhys Ifans wedi bod yn gwneud Don Juan yn Soho pam nad ydi o yn gwneud drama yn y Gymraeg? Pam nad ydym ni'n gweld yr actorion mawr yma , pam nad ydym ni yn medru'u denu nhw ac os allwn ni ddim eu denu i'n theatr genedlaethol dydy ni ddim yn mynd i fedru'u denu nhw o gwbl," meddai.
Gwadodd Jeremy Turner awgrym fod criw o bobl yng Nghymru na fyddai'n fodlon ag unrhyw beth a gynhyrchai Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru gan ychwanegu iddo ef ei hun fod yn gefnogol iawn ond ychwanegodd:
"Mi wnes i fwynhau Ester ac mae'r atalnod llawn yn dod yn syth ar 么l hynny dwi'n credu!
"Gyda chymaint o adnoddau, cymaint o weithwyr , cymaint o arian, cymaint o botensial fe ddylem ni erbyn hyn fod wedi cael rhywbeth llawer, llawer, gwell na'r hyn sy'n cael ei roi," meddai.
Cliciwch i ddarllen am ymadawiad Rheolwr Cyffredinol Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru.
Beirniaid y gorffennol:
Beirniadaeth Ceri Sherlock
Paul Griffiths ar Cysgod y Cryman
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|