|
Llyfr Mawr y Plant ar daith Awdur yn s么n am ei ofn wrth ddarllen y straeon!
Maen nhw ymhlith cymeriadau mwyaf adnabyddus a mwyaf poblogaidd llenyddiaeth Gymraeg.
Ac mae Wil Cwac Cwac, Sion Blewyn Coch, Ifan Twrci Tenau, Martha Plu Chwithig a thrigolion eraill Llyn y Felin ar fin cychwyn ar daith o amgylch Cymru yn gynnar fis Hydref.
Tywyll a doniol Heb os y mae taith Llyfr Mawr y Plant. Yn un y bu disgwyl mawr amdani nid lleiaf ymhlith oedolion sy'n cofio darllen llyfr plant enwocaf y Gymraeg.
Ac mae awdur y sgript a'r caneuon, Gareth F Williams, wedi addo y bydd y cyflwyniad yn cyfleu ochr dywyll yn ogystal ag ochr ddoniol y llyfr.
"Mae'r cymeriadau'n rhai byw iawn, ac mae 'na straeon digri dros ben. Ond hefyd mae 'na ryw haen o dywyllwch pendant ynddyn nhw, a dwi wedi ceisio adlewyrchu hynny," meddai.
"Dwi'n cofio pan oeddwn i'n fach, un o'r pethau mwya' cripi wnes i ddarllen oedd y bennod am Si么n Blewyn Coch a'i deulu yn y ffau, a hwythau'n clywed y 'Tap, tap, tap' 'na'n dod yn nes. Ond roeddwn i wrth fy modd yn cael fy nychryn gan fy nychymyg fy hun.
"Oedolion sy'n mynd i gofio'r llyfr wrth gwrs, ond dwi'n gobeithio gwneith o hefyd apelio at genhedlaeth newydd sbon, a'u hybu nhw i ddarllen y straeon fel gwnes i," ychwanegodd.
Wedi ei gyhoeddi yn y Tridegau mae llyfr Jenny Thomas a JO Williams wedi hudo cenedlaethau o blant gyda'i Gymraeg rhywiog, ei luniau trawiadol a'i f么r o ddigrifwch.
Mae tri chwmni wedi dod at ei gilydd ar gyfer y cynhyrchiad; Theatr Bara Caws, ar y cyd 芒 Theatr Gwynedd a Galeri.
Yr actorion Ac maen nhw newydd gyhoeddi pwy fydd yn chwarae'r gwahanol rannau:
I'r actor ifanc o Ddyffryn Clwyd, Iwan Charles, yr aiff yr her o chwarae Wil Cwac Cwac.
"Mae'n gyffrous, ond dwi hefyd ychydig bach yn nerfus. Mae Wil Cwac Cwac yn ddipyn o eicon cenedlaethol yn dydi? Felly jest gobeithio y gallaf wneud cyfiawnhad 芒 fo, neu fydd pawb yr fy 么l i!" meddai.
Eilir Jones - Ffarmwr Ffowc ac un o selogion Bara Caws - fydd yn chwarae rhan Twm Larwm, hen ddyn y coed.
"Rwy' wir yn edrych ymlaen at fod yn rhan o'r cynhyrchiad hwn. Roedd Llyfr Mawr y Plant yn rhan o'm mhlentyndod i, fel y mae wedi bod i ran fwyaf o blant Cymru ers iddo gael ei gyhoeddi n么l yn 1931, felly dwi'n edrych ymlaen at fynd yn 么l mewn amser gyda'r cynhyrchiad hwn!" meddai.
Cantorion Bydd actorion sydd hefyd yn adnabyddus fel cantorion - Sian James, Siwan Llynor a Neil 'Maffia' Williams - yn dod ag elfen gerddorol gref i'r cynhyrchiad.
Aelodau eraill y cast yw Delyth Eirwyn, Catrin Jane Evans, Carys Gwilym, Merfyn Pierce Jones, Arwel Wyn Roberts a Darren Stokes.
Meddai Tony Llewelyn, y cyfarwyddwr,
"Mae Catrin Edwards wedi cyfansoddi cerddoriaeth fendigedig ar gyfer y sioe i gyd-fynd 芒 geiriau Gareth F Williams, ac felly wrth i ni gastio roedd yn bwysig chwilio am leisiau canu cry' yn ogystal 芒 thalent actio. Dwi'n hapus iawn gyda'r cast . Mae na wahanol bersonoliaethau, yn union fel cymeriadau'r llyfr."
Bydd y sioe, sydd wedi derbyn nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru i hybu theatr y tu allan i Gaerdydd, yn cychwyn ar ei thaith fel cynhyrchiad proffesiynol olaf Theatr Gwynedd ar Hydref 4 ac yna'n teithio i ganolfannau ledled Cymru gan gynnwys Y Pafiliwn yn Y Rhyl, Theatr Mwldan yn Aberteifi, Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd a Chanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Y Daith Theatr Gwynedd, Bangor
Sadwrn 4 Hydref 2008 7.30pm
Llun 6 Hydref 2008 7.30pm
Mawrth 7 Hydref 2008 7.30pm
Mercher 8 Hydref 2008 10.30am & 7.30pm
Iau 9 Hydref 2008 10.30am & 7.30pm
Gwener 10 Hydref 2008 7.30pm
Sadwrn 11 Hydref 2008 7.30pm
Swyddfa docynnau: 01248 351 708
Theatr y Pafiliwn, Rhyl
Mercher 15 Hydref 2008 7.00pm
Iau 16 Hydref 2008 10.00am & 1.15pm
Gwener 17 Hydref 2008 10.00am & 1.15pm
Sadwrn 18 Hydref 2008 2.00pm & 7.00pm
Swyddfa docynnau: 01745 330 000
Theatr Mwldan, Aberteifi
Mercher 22 Hydref 2008 10.00am & 1.15pm
Iau 23 Hydref 2008 10.00am
Gwener 24 Hydref 2008 1.00pm & 7.00pm
Sadwrn 25 Hydref 2008 2.00pm
Swyddfa docynnau: 01239 621 200
Canolfan y Mileniwm, Caerdydd
Mawrth 4 Tachwedd 2008 (1.30pm & 7.30pm)
Swyddfa docynnau: 08700 402000 Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
Iau 6 Tachwedd 2008 1.00pm & 7.30pm
Gwener 7 Tachwedd 2008 10.00am & 1.30pm
Sadwrn 8 Tachwedd 20008 10.00am & 7.00pm
Swyddfa docynnau: 01970 623232
Cysylltiadau Perthnasol
Llyfr Mawr y Plant yn 75 oed!
Ffeithiau bach a Lyfr Mawr y Plant
|
|
|