| |
|
Phylip Harries yn ymuno 芒 na n'脫g Rownd yr Horn gyda Halen yn y Gwaed
Mae'r actor Phylip Harries yn ymuno 芒 chwmni Theatr na n'脫g i gyfarwyddo. Mae hyn yn dilyn arian a gafodd y cwmni theatr i blant gan ymddiriedolaeth theatraidd.
na n'脫g ydi'r sefydliad cyntaf yng Nghymru i dderbyn rhodd gan Ymddiriedolaeth Gelfyddydau Fenton sydd 芒'i chanolfan yn Surrey.
"Bydd y grant yn galluogi i'r actor adnabyddus o Gymru, Phylip Harries, gael y cyfle i ddatblygu ei sgiliau cyfarwyddo gyda'r cwmni," meddai Ceri Puckett, Swyddog Marchnata na n'脫g.
"Y sioe y bydd Phyl yn ei chyfarwyddo gyntaf yw Halen yn y Gwaed, sydd yn benodol ar gyfer plant naw i 11 oed yn ysgolion cynradd Abertawe, Castell-nedd, Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr," meddai.
"Mae wedi bod yn wych cael y cyfle i gyfarwyddo ar gyfer cwmni mor uchel ei barch," meddai Phyl.
"Rwy'n credu y bydd y profiad hwn yn fy ngwneud yn well actor wedi i fi weld y broses o gynhyrchu o safbwynt arall."
Hyfforddwyd Phyl yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin a Choleg Cerdd a Drama Cymru.
Bu'n gweithio yn y theatr ac ar deledu, ffilm a radio.
Yn fwyaf diweddar, chwaraeodd Tudur y Dylluan ym Melangell gan Theatr na n'脫g a'r Nyrs Taffeta Trott yn Sleeping Beauty ar gyfer Clwyd Theatr Cymru.
Bu ar daith drwy wledydd Prydain gydag Under Milk Wood, Cwmni Theatr Cymru.
Mae hefyd wedi ymddangos mewn nifer o raglenni teledu gan gynnwys chwarae ysbeiliwr o Fecsico ar gyfer Teledu Israelaidd!
Hanes morwyr Mae Halen yn y Gwaed yn dilyn hanes morwyr a fu 'rownd yr Horn'.
Erbyn y Nadolig, bydd 6000 o blant wedi profi bywyd ar fwrdd llong yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
. Mae'n cynnwys perfformiadau gan Dion Davies, Huw Davies a Naomi Martell gyda set forwrol ysblennydd a chaneuon m么r bywiog!
Mae Theatr na n'脫g yn derbyn ceisiadau am docynnau rhad ac am ddim ar 01639 641771 ar gyfer perfformiad arbennig yn y Gymraeg ddydd Iau Tachwedd 10 am 7pm yn Theatr Dylan Thomas Abertawe.
|
Christian Abertawe O'n i yn sioe Halen yn y Gwaed 2006 yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|