| |
|
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn Hunaniaeth mewn tair iaith
Adolygiad Lowri Johnston o Bwrw Hen Wragedd a Ffyn gan Adam Strickson, Gwyneth Glyn ac M. Y. Alam. Cyd-gynhyrchiad rhwng Llwyfan Gogledd Cymru a Theatre in the Mill, Bradford.
Tair iaith ar un llwyfan a'r perfformiad yn cael ei lwyfannu mewn dwy wlad gyda chast o Gymry ac Asiad Prydeinig.
Chwilfrydedd pur a'm denodd at gynhyrchiad diweddaraf Llwyfan Gogledd Cymru - sut yn y byd oedd hyn am weithio?
Tawelwch Cyn mynd i s么n am gefndir y ddrama rhaid cyfaddef mai'r ddrama hon sydd wedi creu y benbleth a'r gwewyr meddwl mwyaf imi ers tro.
Dwi o hyd yn dweud bod cynulleidfa dawel ar 么l i ddrama ddod i ben yn arwydd o ddrama dda - drama gref ta beth - a dyma'n union ddigwyddodd gyda hon.
Mae'r ddrama wedi ei seilio yng Nghymru 2026 pryd mae Prydain yng nghanol rhyfel ddiddiwedd gyda thaleithiau'r Dwyrain Canol.
Rhoddodd y rhaglen lawer o wybodaeth am gefndir y ddrama na chafodd ei chynnwys yn glir yn y ddrama ei hunan felly byddai'n werth darllen hon cyn gweld y ddrama.
Pum cymeriad oedd ynddi, tri o Gymru a dau Asiad Prydeinig yn siarad Mirpuri yn ogystal 芒'r Gymraeg a Saesneg.
Dydw i ddim yn sicr sut byddwn i wedi ymdopi 芒'r ddrama pe na bawn yn siarad Cymraeg.
Mae'n debyg y byddwn wedi deall i raddau yr hyn oedd yn digwydd ond anodd gwybod a fuaswn wedi deall y cyfan.
Wedi'r cwbl, roeddwn i'n teimlo ar goll braidd a minnau yn deall Cymraeg!
Ond roedd y sgript yn llifo'n naturiol rhwng y tair iaith - er bod llawer llai o Mirpuri yn y ddrama nag a ddisgwyliwn.
Goleuo medrus Roedd y llwyfan syml yn cael ei ddefnyddio i'r eithaf gyda goleuo medrus, bwyd, cerddoriaeth a thaflunwyr fideo.
Cydweithiai'r pum actor yn dda, a chafwyd perfformiad grymus gan Wyn Bowen Harries yn actio cymeriad cymhleth Geraint 'Bwbach'.
Byddai'r ddrama wedi bod yn llawer rhy ddwfn heb gymeriadau'r ddwy ferch ifanc, (Catrin Roberts a Lleuwen Steffan).
Daeth llais Gwyneth Glyn i'r amlwg trwy gyfrwng y ddwy ferch - yn enwedig pan cawsom ein cyflwyno iddynt am y tro cyntaf - ac roedd yr elfennau o hiwmor yn chwa o awyr iach mewn sefyllfa mor sensitif.
Rhy ddwys Dyma ddrama rymus, drom, yn archwilio hunaniaeth hiliol a ieithyddol, ond drama a oedd ar adegau braidd yn rhy ddwys yn fy marn i.
Er mai dim ond ychydig dros awr barodd y perfformiad roedd hynny'n amseriad perffaith a digon posib y byddai'r gynulleidfa wedi diflasu ar 么l hynny.
Llwyddodd i gadw fy sylw am yr awr gyfan a phrin imi dynnu fy llygaid oddi ar y llwyfan a llwyddodd yr actorion i ddal y tensiwn ynghlwm tan yr eiliad olaf.
Roeddwn i'n teimlo'n reit flinedig yn gadael y theatr wedi'r holl ganolbwyntio!
Doedd hi ddim yn ddrama hawdd dod i farn yngl欧n 芒 hi ac ni allaf ddweud imi ei mwynhau hi - doedd y profiad o'i gwylio ddim yn un pleserus - ond ai dyma oedd bwriad y ddrama beth bynnag?
Ond yr oedd yn ddrama a fydd yn gwneud i chi feddwl ac ystyried ein hunaniaeth yn y byd ehangach.
Hiliaeth a rhyfel Dyw hiliaeth, rhyfel a gwleidyddiaeth ddim yn bynciau ysgafn fel y cyfryw ac o ran hynny ni allaf ddweud imi gael mwynhad.
Ar y llaw arall gallaf werthfawrogi'r ffaith iddi gael ei llunio yn fedrus ac yr oedd y sgript yn llifo'n rhwydd gyda chriw o actorion dawnus.
Llwyddo i bigo'r cydwybod oedd ei phrif rinwedd a gwneud i'r gynulleidfa feddwl.
Yn ansicr Ond rwy'n dal yn ansicr a gafodd problemau hiliaeth a hunaniaeth eu trin a'u harddangos yn y ffordd gywir a theimlwn ar adegau fod yma ymdrech i geisio bod yn rhy glyfar a mynd yn rhy ddwfn.
Gair o rybudd gyda llaw: doedd y rhaglen ddim yn s么n bod y perfformiad yn anaddas i blant ond rhaid dweud mai dyna fy nheimlad i, yn enwedig gyda'i them芒u dwys, gwaed, iaith grefa gynnau'n cael eu tanio. Meddyliwch ddwywaith cyn mynd 芒 phlant ifanc i'w gweld!
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|