|
Cariad Mr Bustl Bustl blasus - 'Cynhyrchiad sy'n deilwng o Theatr Genedlaethol'
Adolygiad Lowri Rhys Davies o Cariad Mr Bustl, Molière - cyfieithiad Gareth Miles. Theatr Genedlaethol Cymru. Mai 2007.
Glywsoch chi'r jôc am gomedïau Cymraeg? Naddo, na finna chwaith.
Ond gan fod y dychanol a'r doniol yn greaduriaid mor brin yn ein traddodiad theatrig, a chynyrchiadau Cymreig o waith Molière yn brinnach fyth, mae'n rhaid cymeradwyo'r Theatr Genedlaethol am lwyfannu cyfieithiad o Le Misanthrope fel cynhyrchiad olaf 'Tymor y Clasuron'.
Roedd hi'n dipyn o job cael tocyn ar gyfer Cysgod y Cryman ddechrau'r flwyddyn gan fod y wlad a'i nain wedi darllen y nofel neu wylio'r gyfres deledu, ac felly'n fwy na pharod i fynychu llwyfaniad o epig Islwyn Ffowc Ellis.
Ac ar ôl llwyddo i gael sedd nos Sadwrn yn y Sherman, noson hynod siomedig ges i wrth wylio addasiad Sion Eirian.
Ond er gwaetha'r ffaith fod yr un theatr yn gymharol wag ar gyfer noson agoriadol Cariad Mr.Bustl, siom ar yr ochr orau ges i Mai 3.
Molière yn dychryn? Roedd hi'n noson etholiad, yn dywydd barbeciwaidd o braf, yn nos Iau a sawl rheswm arall pam mai tenau iawn oedd y gynulleidfa; ond efallai fod Molière ddieithr yn dueddol o ddychryn y gynulleidfa Gymreig yn yr un modd ac y mae Ffowc Elis yn ei hatynnu.
Ac mae hynny'n bechod gan fod hwn yn gynhyrchiad safonol.
Y Dyngasawr neu'r Bustlog Cariadus yw'r cyfieithiad llythrennol o Le Misanthrope - ond Cariad Mr Bustl yw teitl drama Gareth Miles ac mae symlrwydd bachog y teitl yn rhagflas o ystwythder ei addasiad.
Mae drama wreiddiol Molière wedi ei gosod yn llys Louis XIV, gyda chast o uchelwyr Ffrengig yr ail ganrif ar bymtheg "a gyfnewidiodd rym gwleidyddol yn eu cynefinoedd am segurdod moethus Llys Versailles a bywyd o hel clecs a chrafu am anrhydeddau a swyddi".
Fel Charlotte Church Yn y cynhyrchiad hwn, mae'r deunydd crai dramatig wedi ei drosglwyddo i gymdeithas bourgeois Tridegau'r ganrif ddiwethaf, lle mae hierarchaeth gymdeithasol yn parhau'n berthnasol.
Ni fu uchelwriaeth yn rhan o draddodiad Cymru ers y canol oesoedd wrth gwrs ond mae elfennau o ddrama Molliere, a'r trafodaethau ar natur ragrithiol yr hil ddynol yn arbennig, yn berthnasol i bob oes.
Yn wir, mae Gareth Miles wedi disgrifio cymeriad Selina fel Charlotte Church ei chyfnod - yn ifanc, deallus, ffraeth a chyfoethog - ac mae Mirain Haf yn llwyddo i gyfleu natur chwareus yr It Girl i'r dim drwy gyfuno'r elfen o fflyrt digywilydd sy'n cynddeiriogi cymaint ar Mr Bustl, gyda chryfder bolshi, benywaidd y gantores o Gaerdydd sy'n benderfynol o fwynhau hedonistiaeth ei hieuenctid.
Sebon a gwawd Cariad Mr. Bustl yw Selina, ond dim ond un o'r nifer o edmygwyr sy'n ymweld a'i salon yw Alex (Jonathan Nefydd).
Mae dynion yn galw'n gyson i gael eu diddanu gan Selina sy'n giamstar ar seboni ar y naill law, a gwawdio'n adloniadol ar y llaw arall.
Yn anffodus, mae'r fath weniaethu neu ffalsio yn atgas gan Alex sy'n teimlo rheidrwydd parhaol i fod yn greulon o onest gyda'i gyfeillion yn ogystal â'i elynion.
Mae'n gwrthod 'arbed neb rhag gonestrwydd', ac mae hynny'n ei arwain i dantro'n ddidrugaredd a chael ei hun mewn dyfroedd dyfnion drwy gydol y ddrama.
Nid ffars ydy Cariad Mr. Bustl ond comedi syniadol, sy'n rhoi lle canolog i ymresymu gwallgo, ond digon crafog, y prif gymeriad. v
Yr eironi mawr, wrth gwrs, yw fod Mr. Bustl yn syrthio mewn cariad â gwraig weddw ddeniadol sy'n ymgorfforiad o ragrith y gymdeithas mae'n ei dirmygu.
Carped a mainc Ac eto, nid yw Alex yn gallu gadael. Mae'r set syml, ond soffistigedig, yn cynnwys carped mawr a mainc wen wedi'u gosod dan glamp o siandelier ac mae nifer o ddrysau'n arwain y cymeriadau i salons personol y merched a'r byd tu allan.
Ond er gwaethaf bravado Mr.Bustl ynghylch ymwrthod â'r gymdeithas fas mae'n rhan ohoni, nid yw byth yn mynd trwy ddrws heb dychwelyd trwy'r llall, ac er ei fod yn mynd i'r corneli eithaf nid yw'n mentro camu dros ymyl y carped.
Cyfarwyddo cynnil Judith Roberts sy'n gyfrifol am hynny, ac mae'n gosod sglein ar gynhyrchiad sy'n deilwng o waith Theatr Genedlaethol.
Sgript a phrofiad Ond sgript Gareth Miles a chast profiadol yw prif gryfderau Cariad Mr. Bustl. Mae'r cyfieithiad Cymraeg yn gyforiog o ddywediadau bachog a hiwmor crafog sy'n llwyddo i gyfleu deallusrwydd a doniolwch y gwreiddiol.
Mae hefyd yn galluogi'r cymeriadau i sarhau ei gilydd gyda steil - oes gwell ffordd o ddychanu rhywun na'i alw'n 'arch-lembo'?! - a chadw'r cydbwysedd rhwng plannu cyllyll mewn cefnau a chynnal yr hiwmor angenrheidiol.
Mae Jonathon Nefydd yn serennu, a pherthynas Alex gyda Selina'n argyhoeddi o'r cychwyn cyntaf, ond mae'n rhaid canmol Rhian Morgan, Dyfrig Morris a Huw Garmon yn ogystal.
Wedi dweud hynny, roedd perfformiadau'r mân gymeriadau'n gwegian ar brydiau, ac roeddwn i'n hynod siomedig mai prin hanner dwsin o eiriau gafwyd gan actor mor brofiadol â Llion Williams sy'n chware rhan gwas Mr.Bustl tua diwedd y ddrama.
Ond mân wendidau yw'r rhain mewn gwirionedd.
Yn dilyn sawl siom dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Cariad Mr Bustlwedi dechrau adfer fy ffydd yn ein Theatr Genedlaethol.
Dim ond gobeithio mai parhau i ddatblygu a gwella wnaiff hi o hyn allan.
Y daith drwy Gymru Theatr Sherman, Caerdydd, nosweithiau Iau a Gwener, Mai 3-4 Mai, 2007
Canolfan Gelfyddydau Taliesin, Abertawe, nosweithiau Iau a Gwener, Mai 10-11, 2007.
Theatr Gwynedd, Bangor, nosweithiau Mercher, Iau, Gwener a Sadwrn, Mai 15-18, 2007.
Theatr Bloomsbury, Llundain, ar nos Fawrth, Mai 29, 2007.
• Canolfan Celfyddydau Aberystwyth nosweithiau Gwener a Sadwrn, Mehefin 1-2, 2007.
Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, nos Fawrth, Mehefin 5, 2007.
Theatr Mwldan, Aberteifi, nosweithiau Gwener a Sadwrn, Mehefin 8-9, 2007.
Bydd pob perfformiad yn dechrau am 7.30.
Bydd ymweliad â Llundain hefyd yn dilyn llwyddiant un tebyg gyda Cysgod y Cryman
|
Huw evans , Abertawe wedi joio y cynhyrchiad yn fawr iawn . set , cynllunio a cerddoriaeth da iawn . Jonathan Nefydd a Rhian Morgan yn wych !!
Catrin Alun, Abertawe Newydd ddod nol o'r Taliesin ar ol mwynhau bob eiliad o'r perfformiad. Yr actio'n wefreiddiol. Triwch gael tocynnau digon agos i weld wynebau'r actorion - bydd hynny'n ychwanegu at y mwynhad. Ac roedd campau corfforol Mr Bustl yn wych - a'r defnydd o'r rhosyn ... wel, ewch i'w weld!! Dwi'n ystyried mynd eto!!
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|