| |
|
Deep Cut Gwobrau i gynhyrchiad Sherman
Adolygiad Gwyn Griffiths o gynhyrchiad Sherman Cymru o Deep Cut gan Philip Ralph.
Enillodd cynhyrchiad Sherman Cymru o'r ddrama Deep Cut gan Philip Ralph goflaid dda o wobrwyon a chanmoliaeth yng Ng诺yl Caeredin 2008.
Ac ar sail y perfformiad a welais yn y Sherman yr wythnos diwethaf haeddai bob anrhydedd.
Drama yn null y Theatr Verbatim yw hon lle mae pob gair wedi ei godi o adroddiadau a ffynonellau swyddogol a thystiolaeth pobl allweddol.
Saethu Mae'n ymwneud 芒 marwolaeth Cheryl James, 18 oed, fywiog a llawen o Langollen, a saethwyd yn farw yng ngwersyll y fyddin Deep Cut ym 1995, a brwydr ei rhieni, Des a Doreen, i ganfod y gwir am yr hyn a ddigwyddodd.
Yr oedd hi yn un o bedwar o filwyr ifanc - a'r unig ferch - a fu farw o anafiadau gwn yn y gwersyll yn y cyfnod rhwng 1995 a 2002.
Myn y fyddin a'r llywodraeth mai hunanladdiad oedd pob un.
Hynny er bod un o'r bechgyn wedi llwyddo i saethu ei hun bum gwaith - bedair gwaith o gwmpas ei galon ac unwaith yn ei galon ac un arall wedi llwyddo i saethu ei hun ddwywaith yn ei dalcen!
Mae'r ddrama yn olrhain ymgyrch ddigalon a rhwystredig y rhieni i ddod o hyd 'i'r gwir'.
Ar y llwyfan mae'n stori o fwnglera gan yr heddlu o sarhad a difaterwch gan awdurdodau trahaus y fyddin a'r llywodraeth dros ddeng mlynedd o amser.
Crynhoi Camp fawr Philip Ralph yw trylwyredd ei ymchwil a'i lwyddiant yn crynhoi tunelli o adroddiadau a deunydd papur ac oriau o sgwrsio a chyfweliadau i awr a hanner - 90 munud sy'n hedfan mewn chwinciad.
Brwydr pobl gyffredin yw hon yn erbyn holl rym awdurdodau sy'n ymddangos yn benderfynol o guddio'r gwir.
Cafwyd cyfaddefiadau gan newyddiadurwyr, hwythau, iddynt fethu yn eu gwaith yn yr achos hwn gyda Mark Lawson yn y Guardian y diweddaraf i wneud hynny wedi iddo weld y ddrama yng Nghaeredin.
Nid 'mod i'n gweld cymaint 芒 hynny o fai ar y newyddiadurwyr o weld ystrywiau yr awdurdodau i fygu barn y rhieni yngl欧n 芒'r hyn ddigwyddodd.
Ond pan oedd y llywodraeth yn rhyddhau adroddiad hir a chymhleth Nicholas Blake, QC, i'r marwolaethau wnaeth y newyddiadurwyr ddim mwy nag ailbobi'r datganiad swyddogol.
O'r newyddiadurwyr yr unig rai ddaw allan o'r stori'n anrhydeddus yw Brian Cathcart a Heather Mills o Private Eye.
Ystyriwn y cyfle roddwyd i'r rhieni ymateb i adroddiad Blake - trefnwyd lle iddyn nhw gynnal cynhadledd i'r wasg ym mhen arall Llundain. Ddaeth neb yno. Yng ngeiriau Cathcart yn y ddrama, "... cawsom ein twyllo gan yr MoD."
Cadarnhaol? Yn rhyfedd iawn dywedodd yr awdur, Philip Ralph, mewn trafodaeth brynhawn Sadwrn, ei fod yn teimlo'n bositif iawn yngl欧n 芒'r stori ond yr unig beth cadarnhaol fedrwn i ei ganfod oedd dycnwch a phenderfyniad Des a Doreen James a'r rhieni eraill yn dal ati i frwydro ac i gael gan y Lluoedd Arfog i gydnabod fod ganddynt gyfrifoldeb gofalaeth dros y bobl ifanc hyn - i gyd yn eu harddegau.
"Rydw i o blaid y fyddin ond yn derbyn yr angen i'w diwygio," meddai Ralph.
A thystiolaeth y ddrama yw bod, yn sicr, angen diwygio gyda'i darlun o ddiwylliant o fwlio a cham-drin.
Cafwyd tystiolaeth bellach mewn rhaglen deledu yr wythnos diwethaf nad yw pethau'n gwella.
Tristaf Ceir munud dristaf y ddrama, sy'n cyfleu difaterwch ffiaidd, tua'r diwedd lle mae'r Cyrnol Josling, pennaeth Deep Cut adeg marw Cheryl yn cyfarfod Des a Doreen James am y tro cyntaf, ddeng mlynedd wedi marwolaeth eu merch.
Mae'n ceisio rhoi'r argraff ei fod wedi eu cyfarfod o'r blaen ac wedi sgrifennu atynt.
JOSLING: Chawsoch chi ddim llythyr gen i?
DES: Naddo. Dim byd.
JOSLING: Mae e yng nghefn fy meddwl - oeddech chi ddim yn byw yn ardal Abertawe ar y pryd?
A ellid dychmygu dim mwy sarhaus, mwy difater?
Drama arall
Mae'n debyg bod dramodydd arall yn sgrifennu drama am fywyd a brwydr rhieni un arall o'r milwyr fu farw yn Deep Cut.
Mae hynny'n ardderchog. Yn y cyfamser, rwy'n argymell yn gryf y gyfrol Deep Cut, sy'n cynnwys sgript y ddrama yn ogystal ag amryw ddogfennau a thystiolaethau ychwanegol. Fe'i cyhoeddir gan Oberon Modern Plays. 拢8.99.
|
|
|
|