|
T欧 ar y Tywod Ffair heb ddiflastod na gwagedd
Adolygiad Nic Ros o gynhyrchiad Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru o T欧 ar y Tywod gan Gwenlyn Parry.
"Mae nifer o bobl yn byw mewn ystafell gaeedig, di-aer. Mae rhywun (o'r mynyddoedd neu o'r m么r) yn cyrraedd sy'n taflu'r ffenstr yn agored. Mae pawb yn cael annwyd pen ac mae'r llen yn disgyn."
Mae condemniad enwog a doniol Somerset Maugham o waith cyfnod canol Ibsen - cyfnod T欧 Dol a Dychweledigion - yn pwysleisio tueddiadau clasurol y dramodydd o Norwy.
Y byd bygythiol hwn y tu allan yw un o'r elfennau sy'n cysylltu Ibsen 芒 Pinter a Parry, yn enwedig felly y tair drama hir gyntaf.
Rheibiwr ar y rhiniog Mae'r rheibiwr ar y rhiniog mor nodweddiadol o Saer Doliau, T欧 ar y Tywod ac Y Ffin ag yw o The Birthday Party a The Homecoming, Pinter.
Er y pwyslais ar yr abswrd wrth ddadansoddi ei waith, mae yma'n aml gynllwyn hollol glasurol.
Un o'r peryglon sydd ynghlwm wrth y clasuron yw'r duedd i bob dim ddigwydd oddi ar y llwyfan, ond mae Gwenlyn yn osgoi gwneud hyn oherwydd ei ddefnydd caboledig o ofod y llwyfan, gyda'i ddatblygiad (neu'n hytrach ddirywiad) o'r llwyfan yn ddrych i'r meddwl a'r enaid.
Mae enwau cyffredinol y cymeriadau yn T欧 ar y Tywod - G诺r y T欧, G诺r y Ffair - yn arwyddocaol gan nad oes iddynt yr un cymhlethdod cymeriadol ac a geir yn Ifans (Saer Doliau) ac yn Now a Wilias (Y Ffin).
Haniaethiad y cymeriadau sy'n cyfiawnhau fersiwn aml-haen Ceri Sherlock i Theatrig dau ddegawd yn 么l, lle y tynnwyd i'r wyneb yr is-them芒u gwleidyddol a chymdeithasol megis perchnogaeth dynion ar ferched.
Nid yw fersiwn y Theatr Genedlaethol yn ddehongliad radical mewn unrhyw ffordd, ond y mae'n llwyfaniad effeithiol tu hwnt sydd, yn hollol wahanol i nod ac amcan Sherlock, yn dangos ac egluro'r ddrama.
Ymrafael oesol Mae datblygiad cynllwyn T欧 ar y Tywod yn ogystal 芒'i chymeriadau yn medru peri dryswch ond, yng nghanol elfennau abswrd a haniaethol Gwenlyn, mae yna ymrafael oesol rhwng yr hen werthoedd a'r newydd, rhwng y synagog a'r dafarn.
Fel ag yng ngwaith cynnar Pinter cynhelir y ddrama gan yr ornest am b诺er fydd 芒 chanlyniad eithafol neu farwol.
Yn rhagorol Er gwaethaf ambell lithriad geiriol o du Dafydd Dafis, roedd yntau a Johnathan Nefydd fel y ddau benben a'i gilydd yn rhagorol.
Wrth gastio'n gymharol ifanc roedd perygl i Wr y T欧 fethu meddu ar y pathos amlwg a berthyn i holl brif gymeriadau h欧n Gwenlyn, sy'n s么n am ddiwygiad tra'n ymgorffori'r dirywiad.
Dyma felly un o berfformiadau mwyaf Nefydd, i'w osod gerbron Sundance, ac yma eto dangosodd ei allu anhraethol i fynnu sylw llwyr ag yntau ar ei ben ei hun ar lwyfan.
Fel yn y perfformiad hwnnw mae perygl iddo fynd dros ben llestri a throi'r elfennau comic yn gymeriadu ystrydebol, ond yma mae wedi ei gyfarwyddo'n gytbwys.
Cam gwag Prawf o lwyddiant y cynhyrchiad fel cyfanwaith yw nad effeithiodd y camgastio yn ormodol ar y mwynhad.
Mae'n hollol bosib y bydd Dave Taylor yn cynnig llawer o berfformiadau gwefreiddiol yn y dyfodol, ond roedd ei gastio fel colbiwr yn gam gwag ofnadwy, gyda'r Delw yn dangos mwy o fygythiad!
Ar nodyn mwy positif, addawol iawn oedd perfformiad Mared Swain fel Y Ferch.
Siomedig a thila Yn gam neu'n gymwys, ac er gwaethaf ein cenedl o bentrefi, bydd llwyddiant y Theatr Genedlaethol yn ddibynnol yn bennaf ar ei gallu i lenwi'r llwyfannau mawr.
Roedd yn Theatr Gwynedd nos Sadwrn Ebrill 30, dorf siomedig o dila, ond roedd yna ddrama fawr ar thema oesol (neu ar nifer ohonynt), ac roedd y set, hithau, yn ysblennydd, gyda chynllunio di-gyfnod Laura Hopkins yn dwyn i gof dirluniau trawsnewidiol yr athrylith Americanaidd Robert Wilson.
Nid oedd ots mai cwt digon tebyg i un Y Ffin sydd i fod yma.
Gwelwyd yn glir y rhwd lle roedd heli'r m么r wedi gwneud ei farc, a chyda'r set gyfan wedi ei osod ar ongl megis y t诺r Eidalaidd, bregus iawn oedd ei olwg, gyda'r Ffair yn bygwth o'r tu cefn.
Roedd y trawsnewidiad personau yn cael eu adlewyrchu'n berffaith gan y llun llwyfan, ac wrth i'r T欧 droi'n Ffair roedd y newid yn gyfareddol.
Theatigrwydd y gwaith Ychydig o flynyddoedd yn 么l cyflwynwyd ar Radio Cymru addasiadau coeth iawn o ddram芒u Gwenlyn.
Y cwestiwn sydd yn anorfod yn codi yn sgil llwyddiant y fath fenter ydy'r un ynghylch theatrigrwydd ei waith.
Yma roedd ateb cadarnhaol digamsyniol.
Roedd i'r cynhyrchiad hwn - fel y ddrama - ei frychau, a rhai o'r rhain yn cael eu rhannu rhyngddynt, megis diffyg cysondeb yng nghonfensiwn y Ddelw.
Serch hynny, fe gafwyd perfformiad nad oedd yn ddiflas, gyda dim ond ambell gyfnod rhy dawel yng nghanol yr ail act.
Roedd y cyfarwyddo'n fedrus ac yn gyffredinol gynnil.
Nid "ffair wagedd" a gafwyd y tro hwn.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|