| |
|
Dawns y Cynhaeaf Addasiad o ddrama Brian Friel
Adolygiad Gwyn Griffiths o Dawns y Cynhaeaf gan John Roberts. Coleg Cerdd a Drama Caerdydd. Mawrth 2007.
Gosodir Dawns y Cynhaeaf, y ddrama a ystyrir y fwyaf hunangofiannol o weithiau'r Gwyddel, Brian Friel, yn 1936, cyfnod o groesffordd yn hanes Iwerddon.
Mae'r chwiorydd Mundy - pump ohonyn nhw - yn ddibriod ac yn crafu byw ar dyddyn ar gyrion Ballybeg yn Donegal.
Tyndra a thraddodiadau Daw tyndra'r gwahanol gyfnodau a thraddodiadau ynghyd ar drothwy g诺yl baganaidd i nodi dechrau'r cynhaeaf.
Digwyddiad sy'n ennyn cynnwrf, cariad a chynhesrwydd teuluol ochr yn ochr 芒 gwrthdaro'r grefydd Babyddol a'r hen draddodiadau paganaidd.
Yr un pryd daw dyfodiad y radio a'i cherddoriaeth ddawns newydd i herio'r hen ddawns draddodiadol.
Daw'r stori o enau a thrwy lygaid y plentyn Michael (Dyfan Dwyfor), sy'n stelcian, ran fynychaf, ar gyrion y llwyfan a'r digwyddiadau.
Ef yw mab anghyfreithlon Chrissie (Danielle Branch), y ferch ramantus a ddaeth a gwarth ar enw'r teulu.
Amlygrwydd i ferched Mae'r ddrama'n arbennig am y lle o gydraddoldeb a phwysigrwydd a roddir i ferched. Dyna'r athrawes Kate (Morfudd Hughes), teyrn y teulu, ond gyda'i chydymdeimlad 芒 theuluoedd y bryniau sy'n cadw'r hen arferion, paganaidd neu beidio.
Maggie (Erin Richards) sy'n cynnal yr aelwyd, yn paratoi'r bwyd; Agnes (Marion Wilkison) yn dawel a siriol gadw'r ddysgl yn wastad; a Rose liwgar (Laura Carli Hughes), yn llawn asbri os nad yn llawn llathen.
Pobl ymylol yw dynion y ddrama. Daw'r brawd h欧n, y Tad Jack (Russell Clough), adref wedi chwarter canrif o genhadu ymysg cleifion Affrica ond heb fod wrth fodd yr Eglwys Gatholig.
Fel ei chwaer Kate, yr oedd ganddo ormod o gydymdeimlad 芒'r hen arferion brodorol a bydd hyn yn achosi problemau'n y dyfodol pan fo'r offeiriad lleol yn deddfu bod Kate yn colli ei swydd athrawes.
Ac y mae Jack yn ymhyfrydu mai plentyn anghyfreithlon yw Michael gan ddweud bod merched Affrica yn ymfalch茂o mewn plant siawns - mwya'i gyd, gorau'i gyd.
Cyflawni breuddwydion Y cymeriad arall ymylol yw Gerry Evans (Aneurin Barnard), tad Michael, breuddwydiwr gyda syniadau am wneud ei ffortiwn a mynd i ymladd yn Rhyfel Sbaen. Ond nid breuddwydiwr llwyr mohono gan ei fod yn cadw rhai o'i addewidion .
Duw'r goleuni Yn gysgod dros ac yn gefndir i'r digwyddiadau mae dawns y Lughnasa, dawns cychwyn y cynhaeaf.
Lugh yw duw'r goleuni sy'n rhaid iddo farw er mwyn atgyfodi'r bywyd newydd.
Cynrychiolir yr hen draddodiadau a chrefyddau gan ddawnsio'r merched o gwmpas y gegin - dawnsio cyhyrog, gwyllt. Hynny a'r amheuaeth yngl欧n 芒'r priodoldeb o ferched yn eu hoed a'u hamser nhw i fynd i ddawns y Lughnasa.
Myfyrwyr coleg Ac eithrio Morfudd Hughes, cast o fyfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd oedd y rhain i gyd gydag Elen Bowman yn Cyfarwyddo ac mae'r cynhyrchiad yn ei gyfanrwydd, a'r perfformio, o safon broffesiynol ardderchog.
Rhaid cymeradwyo cyfieithad John Roberts (Y Groeslon, a chyn drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y gogledd) o Dancing at Lughnasa.
Nid yn unig mae'n argyhoeddi ond y mae'n rhoi haen gadarn o Gymreictod i'r gwaith hefyd.
Llwyfennir y ddrama yn Stiwdio Caird y coleg, Mawrth 28-31, 2007 am 7.45 ac am 2.30 brynhawn Sadwrn.
Cysylltiadau Perthnasol
|
|
|
|