³ÉÈËÂÛ̳

Explore the ³ÉÈËÂÛ̳
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

³ÉÈËÂÛ̳ Homepage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Maldwyn JohnOwain ²Ñ¾±²Ô»åŵ°ù
Melys moes maswedd?
Fu dim rhaid troi at Bruce i chwilio am y gair Cymraeg am innuendo ar ôl bod yn gweld Owain ²Ñ¾±²Ô»åŵ°ù - Mi Godwn Etosioe glybiau ddiweddaraf cwmni Bara Caws.

Am y rheswm syml nad ensyniadau rhywiol sydd yn y sioe hon ond jôcs cwbwl amrwd wedi eu lapio mewn rhegfeydd - a rhannau'r corff, benywaidd a gwrywaidd, yn cael eu hadnabod wrth eu henwau bob dydd ar filding seits a theledu berfeddion nos.

Cysyniad
Maddeued imi am ddefnyddio'r gair ar wefan gyhoeddus, cyn naw o'r gloch, ond roedd holl Gysyniad yr arlwy yn rhywiol amrwd gyda'r budreddi lafatoraidd hwnnw y mae cymaint o Gymry mor hoff ohono yn grefi (brown wrth gwrs) dros y cyfan.

Yr un mor ddiddorol a gwylio'r sioe ar ei noson gyntaf yng ngwesty'r Eryrod, Llanrwst, Sara Harris-Davies a Chatrin Maraoedd gwylio ymateb y gynulleidfa yn y lled dywyllwch gyda thadau y byddech yn disgwyl eu clywed yn ceryddu eu plant i beidio a rhegi felna o flaen dy fam yn gwir fwynhau clywed Llion Williams, Maldwyn John, Rhodri Evans a merched glandeg fel Sara Harris-Davies a Chatrin Mara yn defnyddio geiriau na ddylai unrhyw un heb glustiau asbestos eu clywed yn gyhoeddus!

Efallai fod y chwerthin fymryn yn betrus ar y cychwyn ond ni fu'r gynulleidfa gymysg o ran oed a rhyw yn hir cyn dŵad i ysbryd y darn fel petae.

"Roedd o'n dda yn doedd," meddai gwraig fonheddig ar y diwedd mewn goslef oedd yn fwy o apêl am gadarnhad nac o fynegiant barn.

Chlywais i neb yn anghytuno - ond pwy sydd eisiau cael ei gyhuddo o fod 'yn gul' y dyddiau hyn neu'n waeth fyth, o fod yn henffasiwn.

Llai niweidiol, os rhywbeth, cael eich cyhuddo o fod yn barod i chwerthin am ben unrhyw hen fudreddi!

Mae'n rhywfaint o syndod plu mor ogleisiol ydi iaith amrwd a beiddgarwch. O, rhag ych c'wilydd chi - ond peidiwch a stopio . . .

Rhywfaint o bedigri
Mae ²Ñ¾±²Ô»åŵ°ù yn gynhyrchiad o rywfaint o bedigri wedi ei sgrifennu gan Meic Povey, dramodydd a sgriptiwr gorau'r Gymru gyfoes i rai ohonom.

Castell Harlech dan warchae yn ystod gwrthryfel Glyndŵr yw'r lleoliad ac Owain ²Ñ¾±²Ô»åŵ°ù (Rhodri Evans) - Now Sycharth i'w ffrindiau - gyda Crach y Gwas (Llion Williams) yn ceisio cynorthwyo Owain, gyda ffalws anferth am ei ganol, i berfformio'n rhywiol a rhoi ystyr i ail gymal y teitl.

Doedd neb i'w weld yn malio fod arwr cenedlaethol yn cael ei ddefnyddio fel hyn a thybed beth mae hynny'n i ddweud amdanom ni'r Cymry?

A fyddai Albanwyr mor oddefgar o weld Wallace neu hyd yn oed Rob Roy yn destun y fath faswedd a thestun sbort?

Ta beth, y tu allan i gastell Harlech, mae'r Saeson yn berchen Arf o Ddinistr Mawr newydd - ond i be aiff rhywun i baldaruo am y stori mewn cynhyrchiad sydd ond yn gyfres o sgetsus - rhai yn well na'i gilydd, pob un yn futrach na'i gilydd ac yn amrywio rhwng saith a naw mewn graddfeydd o sglyfaethdra.

Byddai'n wir, byddai mam Chubby Brown yn gwbl gartrefol gyda'r iaith er, efallai'n cael yr hiwmor rhywfaint yn eisiau gan fod hyd yn oed jôcs masweddus angen mwy na dim ond geiriau budron i gosi.

Darn doniolaf
Yn rhyfedd, y darn doniolaf i mi oedd un heb ei sgriptio (efallai?) pan ymatebodd Maldwyn John i aelod o'r gynulleidfa yn picio allan. ("'Da ni 'di bod yn gweithio'n galad yn dysgu'r leins ma a ti'n mynd allan" ac ati). Rhodri Evans a Llion Williams

Fel y byddai rhywun yn disgwyl yr oedd Maldwyn John yn rhagorol yn ei holl amrywiol rannau ac yn enwedig fel John gyferbyn a Gilbert (Rhodri Evans) yn y ddeuawd o filwyr Saesneg, Y Brodyr Gilbert.

Aeth Crach (Llion Williams) i lawr yn dda hefyd fel storïwr camp - ond nid penigamp - yn null Frankie Howerd gyda chyfeiriadau niferus at dyllau a phenolau.

Cosi cyfoes
Fel pantomeimiau cynhwyswyd jôcs cyfoes gyda chyfeiriadau wrth basio at bethau fel:
Cynhyrchiad diweddaraf Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru o Romeo a Juliet (Pwy sydd iso theatr genedlaethol os oes gynno chi hyn? hola Crach gan gyfeirio at Owain Mindwr),
Yr Arfau o Ddinistr Mawr a Tony Blair wrth gwrs,
Cyngor Gwynedd,
Sian Lloyd ac yn y blaen.

Ond efallai y gellid fod wedi gwneud mwy o'r math yma o gosi, digon deifiol ar adegau.

Hawdd deall sut y bydd hon yn gweithio fel sioe glybiau gan y bydd yn siŵr o fod yn ddoniolach o fod wedi oelio'ch synnwyr digrifwch ymlaen llaw gyda thripheint neu bedwar o gwrw go gryf.

Fy anlwc i oedd, gorfod bod yn ddi-ddiod i ddreifio adref ac yn fy sobrwydd cael fy nhemtio i holi onid oedd y cyfan braidd yn effin anaeddfed.
Glyn Evans

Y daith
Tach. 23 - 24 Eagles, Llanrwst Menter Iaith Conwy - 01492 642357 neu Siop Bys a Bawd

Nos Iau Tach. 25 - 27 GWESTY DOLBADARN, LLANBERIS 01286 870277

Tach. 30 - Rhagfyr 2 CLWB WELLMANS, LLANGEFNI 01248 421660 neu 07747762395.

Rhag 3 - 4 GWESTY FRON OLEU, DOLGELLAU 07876764804.

Rhag 4 GWESTY FRON OLEU, DOLGELLAU Awel 07876764804 Rhag 7 - 8 GWESTY'R MARINE, CRICCIETH 01766 522946

Rhag 9 - 11 CLWB CHWARAEON PORTHMADOG 01766 514217

Rhag 14 - 15 CLWB RYGBI, BETHESDA 01248 601526

Rhag 17 - 18 CLWB RYGBI CRYMYCH?

Ion. 10 - 12 CLWB PÊL-DROED, CAERNARFON 01286 675607

Ion 13 GWESTY KINMEL MANOR, ABERGELE 01745 812672

Ion 15 GWESTY KINMEL, MANOR, ABERGELE

Ion 19- 20 CLWB RYGBI, BLAENAU FFESTINIOG 01766 830314 neu 01766 830005

Ion 22 CLWB RYGBI, BLAENAU FFESTINIOG eto.

Cysylltiadau Perthnasol


cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Eisteddfod
Bei-Ling Burlesque
Mwnci ar Dân
A Toy Epic
A4
Actus Reus
Actus Reus - adolygiad
Ar y Lein
Araith hir yn y gwres
Back to the Eighties
Bitsh
Branwen
Branwen - adolygiad
Bregus
Breuddwyd Branwen
Breuddwyd Noswyl Ifan
Bryn Gobaith
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caban Ni Caban Nhw
Caerdroia
Caffi Basra
Café Cariad
Café Cariad
Camp a Rhemp -
Canwr y Byd Caerdydd
Cariad Mr Bustl
Crash
Cymru Fach
Cysgod y Cryman
Cysgod y Cryman - barn arall
Dan y Wenallt
Dawns y Cynhaeaf
Deep Cut
Deinameit
Dewi Prysor DW2416
Digon o'r Sioe
Dim Mwg
Diweddgan
Diweddgan - barn Aled Jones Williams
Dominios - adolygiad
Drws Arall i'r Coed
Erthyglau Cynllun Papurau Bro
Esther - adolygiad
Ffernols Lwcus
Fron-goch
Gwaun Cwm Garw - adolygiad
Gwe o Gelwydd
Gwell - heb wybod y geiriau!
Halen yn y Gwaed
Hamlet - adolygiad 1
Hamlet - adolygiadau
Hedfan Drwy'r Machlud
Hen Bobl Mewn Ceir
Hen Rebel
Holl Liwie'r Enfys
Iesu! - barn y beirniaid
Jac yn y Bocs
Johnny Delaney
Life of Ryan - and Ronnie
Linda - Gwraig Waldo
Lleu
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llywelyn anghywir
Lysh gan Aled Jones Williams
Macsen
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
Maes Terfyn
Maes Terfyn - adolygiad
Marat - Sade
Mari'r Golau
Martin, Mam a'r Wyau Aur
Meini Gwagedd
Melangell
Mosgito
Mythau Mawreddog y Mabinogi
Môr Tawel
Nid perfformiad theatrig
Noson i'w Chofio
O'r Neilltu
O'r boddhaol i'r diflas
Owain ²Ñ¾±²Ô»åŵ°ù
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar:
adolygiadau ac erthyglau

Pwyll Pia'i
Rapsgaliwns
Redflight Barcud
Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
Sibrydion
Siwan - adolygiadau
Siwan - adolygiadau
Siwan - barn Iwan Edgar
Sundance
Tafliad Carreg
Tair drama tair talaith
Taith Ysgol Ni
Taith yr Urdd 2007
Theatr freuddwydion
Trafaelu ar y Trên Glas
Tri Rhan o Dair - Adolygiad
Tri Rhan o dair
Twm Siôn Cati
TÅ· ar y Tywod
Wrth Aros Godot
Wrth Borth y Byddar
Y Bonc Fawr
Y Crochan
Y Dewraf o'n Hawduron
Y Gobaith a'r Angor
Y Pair
Y Pair - Adolygiad
Y Pair - adolygiad Catrin Beard
Y Twrch Trwyth
Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
Yn y Ffrâm
Yr Argae
Yr Ystafell Aros
Zufall
Eisteddfod
Yr Eisteddfod
Genedlaethol
2008 - 2004

Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


Eisteddfod 2004
Eisteddfod 2003
Eisteddfod 2002
erthyglau
Bitsh! ar daith drwy Gymru
Adeilad y Theatr Genedlaethol
Alan Bennett yn Gymraeg
Beckett yn y Steddfod
Blink
Bobi a Sami a Dynion Eraill
Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
Buddug James Jones
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caerdroia
Clymau
Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
Cysgod y Cryman - her yr addasu
Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
Dominos
Drws Arall i'r Coed
Ennyn profiadau Gwyddelig
Esther
Ffernols Lwcus
Fron-goch yng Ngwlad Siec
Frongoch
Grym y theatr
Gwaun Cwm Garw
Gŵyl Delynau Ryngwladol
Hamlet - ennill gwobr
Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
Hen Rebel
Holi am 'Iesu'
Iesu! - drama newydd
Llofruddiaeth i'r teulu
Lluniau Marat-Sade
Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
LluniauMacsen - Pantomeim 2007
Llyfr Mawr y Plant ar daith
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Marat - Sade
Marat - Sade: dyddiadur actores
Mari'r Golau
Mari'r Golau - lluniau
Meic Povey yn Gymrawd
Melangell
Migrations
Mrch Dd@,
Mwnci ar Dân
Myfyrwyr o Goleg y Drindod
Olifer - Ysgol y Gader
Owain Glyndŵr yn destun sbort
Panto Penweddig 2006
Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Ploryn
Porth y Byddar
Romeo a Juliet
Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
Sion Blewyn Coch -
y seicopath?

Siwan ar daith
Streic ar lwyfan
Sundance ar daith
Teulu Pen y Parc
Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
TÅ· ar y Tywod
TÅ· ar y Tywod
- y daith

Wrth Aros Godot - holi actor
Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
Y Pair
Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
Y ferch Iesu
Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
Yr Argae ar daith


About the ³ÉÈËÂÛ̳ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý