Adolygiad Llio Fflur, Ysgol Dyffryn Nantlle, o 'Llyfr Mawr y Plant'
Pan glywais fod Theatr Bara Caws yn cynhyrchu sioe gerddorol o Lyfr Mawr y Plant gan J O Williams a Jennie Thomas roedd gennyf fy mhryderon.
Nid oeddwn yn cysylltu caneuon a cherddoriaeth gyda'r straeon a'r delweddau yr oeddwn yn gyfarwydd 芒 hwy ers fy mhlentyndod ac felly roeddwn yn ansicr beth fyddai wedi ei baratoi ar fy nghyfer.
Pob math o bobl Fel y dywedodd Eilir Jones (Twm Larwm) roedd pob math o bobol yno yn hen ac ifanc ond yr hyn oedd yn sicr oedd fod Theatr Gwynedd yn llawn bywyd a bwrlwm.
Roedd y llwyfan yn blaen mewn lliwiau tywyll gyda set seml a hyblyg yn trawsnewid i leoliadau gwahanol pan oedd angen.
Credaf fod y sain a'r goleuo yn holl bwysig ac fe lwyddodd Catrin Edwards ac Emyr Rhys i gyfansoddi darnau a oedd yn creu'r naws briodol trwy gydol y cynhyrchiad.
Fy hoff g芒n oedd Hwn yw ein Byd gan ei bod yn fywiog gyda symudiadau hwyliog i'w gwylio.
Yma mae'n amlwg fod y caneuon ar gyfer diddanu a chadw sylw y plant. Hefyd roedd yna elfen o 'banto' gan fod y cymeriadau - yn enwedig Twm Larwm - am gynnwys y gynulleidfa.
Hoff gymeriad Ni allaf ddewis fy hoff gymeriad gan eu bod gyda'r ddawn i bortreadu cymeriadau difyr. Roeddwn yn hoffi Delyth Eirwyn fel mam John gan ei bod mor ddidwyll.
Hefyd roeddwn wrth fy modd gydag Iwan Charles fel Wil Cwac Cwac a Merfyn Pierce Jones fel Ifan Twrci Tena gan eu bod yn ddoniol.
Yn ogystal a hynny mwynheais leisiau Si芒n James (Begw) ac Arwel Wyn Roberts (Tomos) pan oeddynt yn canu.
Ar y cyfan cefais fy siomi ar yr ochr orau a'r unig wendid oedd ei fod yn gynhyrchiad eithaf hir ar gyfer plant ifanc.
Ond y cynhyrchiad yma yw un o fy ffefrynnau gan Theatr Bara Caws hyd yma. Maen nhw wedi moderneiddio'r llyfr a newid y straeon o'r dychmygol i'r gweledol.
Yn wir, fel y geiriau yng nghan Hwn yw Ein Byd cafodd y gynulleidfa gyfle i ail-fyw y profiad 'o fod eto'n blant'.