|
Bitsh! ar daith drwy Gymru Addasiad John Ogwen o nofel Eirug Wyn
Mae un o nofelau Eirug Wyn wedi ei throi yn ddrama lwyfan gan un o action mwyaf adnabyddus Cymru - John Ogwen.
Bitsh fydd cynhyrchiad cyntaf erioed y cwmni theatr mewn addysg, Cwmni'r Fran Wen, i fynd ar daith drwy Gymru gyfan.
Bydd y daith yn cychwyn yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli, Hydref 10, gan ymweld 芒 Bangor, Aberystwyth, Caerfyrddin, Casnewydd, Harlech a Rhuthun.
Gwobrwywyd y nofel wreiddiol yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002 dan amgylchiadau dwys iawn.
Cynulleiudfa newydd Dywed Cwmni'r Fran Wen - sydd wedi bod yn cynhyrchu dram芒u ar gyfer disgyblion ysgol ers blynyddoedd lawer - mai'r bwriad gyda'r cynhyrchiad hwn yw denu cynulleidfa newydd i'r theatr Gymraeg.
"Ein nod wrth deithio Bitsh yw ymateb yn uniongyrchol i anghenion sefyllfa bresennol y theatr Gymraeg, sef yr angen dybryd i ddenu cynulleidfa newydd," meddai Ceri Owen, Swyddog Marchnata'r cwmni.
"Credwn fod Bitsh yn gyfle gwych i agor cil y drws ar fyd y theatr brif ffrwd Gymraeg i drawsdoriad eang o gynulleidfa, yn fynychwyr hen a newydd fel ei gilydd," ychwanegodd.
Dwys a ffraeth Mae'r addasiad gan John Ogwen yn cael ei ddisgrifio fel un dwys a phwerus sydd hefyd yn frith o ffraethineb.
Yr actorion fydd Carwyn Jones, Rhian Blythe, Catrin Fychan, Jonathan Nefydd, Maldwyn John, Eilir Jones a Mari Wyn.
Mae'r stori yn troi o gwmpas gwewyr Abi, sy'n gweithio yn Woolworth, i ddod i delerau 芒'i rywioldeb yn y Chwedegau.
Trwy ei atgofion ef caiff y gynulleidfa ei thywys drwy'r degawd gyda cherddoriaeth y Stones, y Beatles a Bob Dylan yn gefndir.
"Wrth i Abi dwrio drwy ei atgofion, daw'r caneuon yma 芒 chysur pendant wrth iddo geisio canfod yr atebion hynny sy'n angenrheidiol i ddeall ei orffennol," meddai Ceri.
"Cyffyrddir 芒 them芒u oesol dynolryw: bywyd a marwolaeth, cenedl ac unigolyn, rhyddid a chaethiwed, cariad a chasineb," meddai.
Tyddewi Yr oedd yr achlysur yn Eisteddfod Tyddewi, pan dderbyniodd Eirug Wyn ei wobr yn un emosiynol ag yntau wedi cael gwybod iddo ennill y wobr a chael gwybod ei fod yn dioddef o ganser o fewn deuddydd i'w gilydd.
Dywedodd wedi'r seremoni i'r edrych ymlaen at y diwrnod fod yn fodd i'w gynnal yn ystod triniaeth feddygol egr. Ni wyddai tan y munud diwethaf a fyddai'n ddigon cryf i fod yn bresennol.
Yr eildro Dim ond yr eildro yw hwn i Gwmni'r Fran Wen gynhyrchu drama prif lwyfan. Yn 2004 llwyfannwyd Stags a Hens, cyfieithiad Bethan Gwanas o ddrama Willy Russell ond dim ond yn y gogledd y perfformiwyd honno.
"Mae Bitsh! yn dynodi carreg filltir arbennig yn hanes y cwmni wrth inni dorri cwys newydd a mentro i deithio'n genedlaethol," meddai Ceri.
Yr oedd Eirug Wyn yn un o lenorion mwyaf cynhyrchiol a phoblogaidd Cymru. Enillodd wobr Daniel Owen a'r Fedal Ryddiaith ddwywaith.
Cyhoeddodd 15 o gyfrolau er 1992 gan gynnwys: Y Dyn yn y Cefn Heb Fwstash (2004), Powdwr Rhech (2001) a Tri Mochyn Bach (2000)
Bu farw wedi brwydr hir yn erbyn canser, fis Ebrill 2004.
Er yn fwy adnabyddus fel actor mae John Ogwen wedi sgrifennu o'r blaen ar gyfer y theatr gan gynnwys Un Nos Ola Leuad ac y mae disgwyl mawr am ei addasiad o Bitsh!.
Y daith
Nos Fawrth, 10 Hydref 2006 - Neuadd Dwyfor, Pwllheli.
Nos Fercher, 11 Hydref 2006- Neuadd Dwyfor, Pwllheli.
Nos Iau, 12 Hydref 2006 - Theatr Gwynedd, Bangor.
Nos Wener, 13 Hydref 2006 - Theatr Gwynedd, Bangor.
Nos Sadwrn, 14 Hydref 2006 - Theatr Gwynedd, Bangor.
Nos Fawrth, 17 Hydref 2006 - Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Nos Fercher, 18 Hydref 2006 - Theatr yr Halliwell, Caerfyrddin.
Nos Wener 20 Hydref 2006 - Theatr Glan yr Afon, Casnewydd.
Nos Fawrth, 24 Hydref 2006 - Theatr Ardudwy, Harlech. Nos Fercher, 25 Hydref 2006 - Theatr Ardudwy, Harlech.
Nos Iau, 26 Hydref 2006 - Theatr John Ambrose, Rhuthun.
Nos Wener, 27 Hydref 2006 - Theatr John Ambrose, Rhuthun. Pob perfformiad yn dechrau am 7.30 Cynhyrchiad ar gyfer rhai dros 14 oed yw hwn.
Cysylltiadau Perthnasol
Eirug Wyn yn Eisteddfod Tyddewi
Cwmni'r Fran Wen - gwefan sy'n cael ei datblygu
|
Rhiannon Thomas o Aberystwyth Pam mae dim ond un noson mae'r ddrama hon yn Aberystwyth ag yn ardaloedd y Gogledd am ddwy neu dair noson
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|