Araith hir yn y gwres Barn Mair Evans o Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, Gwynedd, o gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Siwan
Ar ddydd Iau poeth es i, fy chwaer a fy ffrind i Theatr Gwynedd ym Mangor i weld Siwan gan Saunders Lewis.
Roeddem ni newydd orffen ein arholiad Cymraeg Llafar ar y ddrama ac yn edrych ymlaen at weld perfformiad byw ar lwyfan.
Roedd y theatr yn llawn fel yr oeddwn i wedi amau gan fod y perfformiad wedi cael sylw ar Y Sioe Gelf a Wedi 7 ar S4C ac roeddwn i wedi siarad gyda llawer o bobol a oedd yn edrych ymlaen.
Braidd yn siomedig oeddwn i o ystyried yr holl ganmol a glywais ar y ddrama.
Cychwynnodd gydag Alis (Lisa J锚n) yn dawnsio o amgylch y llwyfan a goleuo cannwyll.
Er yn effeithiol roedd yn llusgo braidd nes i Siwan (Ffion Dafis) ymuno 芒'r olygfa a phethau'n dechrau cyflymu rhywfaint.
Roedd Ffion Dafis a Lisa J锚n yn actio'n dderbyniol ac roedd yr olygfa rhwng Siwan ac Alis yn ddiddorol. Pan adawodd daeth Gwilym Brewys (Rhys ap Hywel) at Siwan i'w hystafell - ond doedd defnyddio st么l fel gwely ddim yn effeithiol o gwbl. Byddai rhoi blanced dros y st么l wedi helpu os oedd trafferth cael gwely ar y llwyfan.
Roedd Ffion Dafis a Rhys ap Hywel yn actio'n dda gyda'i gilydd yn yr olygfa yma ond wnes i ddim deall gair a ddywedodd Gwilym Brewys fel ei eiriau cyntaf.
Pan ddaeth Llywelyn (Dyfan Roberts) i mewn roedd y tri chymeriad ar eu gorau a rhaid dweud mai'r olygfa yma oedd y gryfaf a'r orau - er dw i'n teimlo mai Dyfan Roberts oedd i'w ganmol am hynny.
Roedd Lisa J锚n yn actio'n dda yn disgrifio Gwilym Brewys yn cael ei ladd ond yr oeddwn i wedi bod yn edrych ymlaen at weld sut y byddai ei ladd yn cael ei osod ar lwyfan gan gredu y bydden nhw wedi actio hynny.
Roeddwn yn siomedig na wnaed hynny ond diolch i actio dan gan Lisa J锚n doedd colli'r crogi ddim yn fethiant mawr.
Roedd y drydedd act yn hynod o ddiflas.
Rwy'n teimlo imi wrando ar araith Llywelyn am deng munud, ond yn amau mai pum munud oedd o!
Roeddwn i yn hel meddyliau beth roeddwn i'n mynd i wneud ar 么l cyrraedd adref ac yn gwedd茂o am weld Alis yn cyrraedd gan fy mod i'n gwybod y byddai'r ddrama yn gorffen toc wedyn.
Ar y cyfan roedd y dewis o'r actorion wedi bod yn dda ond o ystyried eu bod gystal actorion roedd rhywbeth yn eu dal yn 么l ar y llwyfan ar adegau..
Roedd y gwisgoedd yn effeithiol - dim cwyn a hwythau'n edrych yn union fel roeddwn i wedi eu dychmygu.
Roedd y gwydr ar y set yn effeithiol ond y ffaith nad oedd egwyl wedi gwneud i'r ddrama lusgo. Byddai egwyl hefyd wedi paratoi'r gynulleidfa ar gyfer yr araith hir. Mair Evans 6 (2)