|
Macsen Ymateb yn swyno'r perfformwyr
Bu Glyn Evans yn gweld Macsen, pantomeim diweddaraf Cwmni Mega, yn Theatr y Pafiliwn, Y Rhyl, 4 Rhagfyr, 2007.
Cliciwch YMA i weld oriel o luniau.
Os mai ymateb cynulleidfa yw'r ffon i fesur gwerth cyflwyniad theatrig mae panto diweddaraf Cwmni Mega ymhlith yr Oscars!
O esgyniad y cyrtan cyntaf hyd ei ddisgyniad yr oedd ymateb llond theatr o blant yn Y Rhyl y tu draw o frwdfrydig ac yn ôl cyfarwyddwr y sioe, Erfyl Ogwen Parry sydd hefyd yn actio un o'r prif gymeriadau, dyna fu'r ymateb ym mhobman hyd yn hyn a hynny'n hwb iddo ef a'r actorion eraill mewn taith hir sy'n parhau tan fis Chwefror nesaf.
Chwedlau Cymru Dyma bedwerydd panto cwmni Mega ac fel y lleill mae hwn hefyd yn rhoi gwisg newydd i hen chwedl Gymreig - chwedl Macsen Wledig y tro hwn.
Mae hynny, meddai Erfyl Ogwen Parry, yn rhan o athroniaeth y cwmni, i droi oddi wrth ddeunydd y pantomeimiau traddodiadol Seisnig fel Cinderella a chyflwyno sioeau gyda blas gwir Gymreig iddynt trwy dynnu ar straeon o'r Mabinogion, er enghraifft.
Godrwyd chwedl Pwyll a hanes hela'r Twrch Trwyth yn y gorffennol, er enghraifft.
"Mae'n gweithio'n well yn Y Gymraeg i'r plant, i'r athrawon ac i ninnau," meddai gan ychwanegu ei bod yn bwysig atgoffa plant fod gennym ni ein hen straeon a'n hen chwedlau ein hunain.
Huw Garmon yw awdur Macsen ond y mae o hefyd yn syniad y bu cydweithio arno rhwng aelodau'r cwmni.
Ond yn ogystal â stori mae pwyslais hefyd ar yr hyn a alwodd Erfyl Ogwen Parry yn "ddawns, cân a giamocs" i gadw diddordeb y plant ac yr oedd hwnnw yn amlwg yn resipi at ddant cynulleidfa'r Rhyl.
"Yr yda ni'n awyddus i'r plant ymuno yn yr hwyl ac yn y caneuon ac maen nhw wrth eu boddau yn gwneud hynny," meddai.
A dyna'r un peth amlwg yn y cyntaf o ddau berfformiad yn Y Rhyl gyda phlant wedi eu cludo o gylch eang yno mewn bysiau.
Yma o hyd Mae'r cyrten yn codi i seiniau y fersiwn ddawns o 'anthem' boblogaidd Dafydd Iwan, Yma o hyd, sydd hefyd yn cychwyn gyda hanes Macsen ac yr oedd yr ymateb yn rhyfeddol o ran curo traed, chwifio dwylo, ysgwyd a gweiddi.
Mae'r stori yn cychwyn yn Nghaer Saint, cartref y Dywysoges - Helen, yn y chwedl wreiddiol ond Elen (Catrin Evans) yn y Pantomeim am rhyw reswm.
Mae gelynion Y Cymry ym mhobman - Y Coraniaid amlfreichiog dieflig, y Ffichti slei sy'n cael eu harwain gan wrach ddieflig (Carys Eleri) a'r Sacsoniaid barus!
Draw yn Rhufain, fodd bynnag, heb ddim i'w wneud mae'r ymerawdwr eofn Magnus Maximus- Macsen Wledig (Arwel Wyn Roberts) a'i was mewn siwt sgowts, Pleb y Pengampiwr (Erfyl Ogwen Parry) - nid pengampwr sylwer ond pengampiwr fel sy'n gweddu i sgowt.
Ac mae o'n 'camp' hefyd yn y fargen.
Mewn breuddwyd Ac wedi i Elen ymddangos i Macsen mewn breuddwyd mae ef a Pleb yn cyrchu am Gymru lle maen nhw'n uno gydag Elen a'i morwyn Menai Straight (Bethan Mair) i drechu'r gelynion ac i adfer Caer saint sydd bellach trwy hud a dichell yn Caer Ffichti.
Er bod y stori yn gwbl Gymreig mae nifer o elfennau y pantomeim traddodiadol yn y cynhyrchiad hefyd - yn arbennig yr ymwneud â'r gynulleidfa a'r cymell i weiddi a bwww-io ac i hisian ar y wrach; hefyd i rybuddio pan fo rhywun yn llechu y tu ôl.
Mae cyfle hefyd i'r gynulleidfa ymuno yn y canu.
Ond y mae ambell i elfen y byddai rhywun wedi hoffi gweld mwy ohoni - fel y jôcs cloff a'r geiriau mwys sydd mor nodweddiadol o bantomeimiau.
Mae tuedd hefyd i'r ddeialog fod fymryn yn ddiddychymyg a di-sbarc.
Ond agwedd sydd yn dra rhagorol yw'r gerddoriaeth gydag adleisiau o sawl darn cerddorol adnabyddus yn cael eu defnyddio i bwrpas.
Ac ar bob achlysur yr oedd ymateb y gynulleidfa yn rhyfeddol.
Yr elfennau comic yn y cynhyrchiad ydi Pleb a Menai gydag Erfyl Ogwen Parry yn atgoffa rhywun ar adegau o Wynford Elis Owen a'r diweddar Gary Williams a wnaeth ddefnydd mor effeithiol o wisg Boi Sgowt yn ei ddydd.
Enillodd galon y gynulleidfa ar ei ymddangosiad cyntaf gan brofi na allwch fethu gyda chynulleidfa Gymraeg cyn belled eich bod yn gallu crafu eich pen ôl yn go ddeheuig!
A dyna ni, wedi'r croeso yn Y Rhyl, roedd y cwmni'n cychwyn yn syth am Bwllheli gan barhau a'u taith gyda dim ond toriad byr dros y Nadolig cyn dirwyn y cyfan i ben fis Chwefror.
Wedyn bydd yn rhaid meddwl o ble y daw yr arian i gynnal sioe y flwyddyn nesaf.
"Mae hi'n anodd ofnadwy cael arian gan Gyngor y Celfyddydau ar gyfer peth fel hyn er ein bod yn cael cymaint o gynulleidfa," meddai Erfyl Ogwen Parry.
Na, dydi hynny byth yn jôc.
Dyma fanylion y daith:
• Theatr Y Werin, Aberystwyth
Sul 25/11/07 - 5pm
Llun 26/11/07 -10am, 1pm
Mawrth 27/11/07 -10am, 1pm
• Theatr Y Stiwt, Rhosllanerchrhugog
Iau 29/11/07 - 10am, 1pm
Gwener 30/11/07 - 10am, 1pm
• Y Pafiliwn, Y Rhyl
Mawrth 04/12/07 - 10am, 1pm
• Neuadd Dwyfor, Pwllheli
Iau 06/12/07 - 10am, 1pm
Gwener 07/12/07 - 10am, 1pm
• Theatr Y Lyric, Caerfyrddin
Llun 10/12/07 - 10am, 1pm
Mawrth 11/12/07 - 10am, 1pm
• Theatr Elli, Llanelli
Iau 13/12/07 - 10am, 1pm, 7.30pm
Gwener 14/12/07 -10am, 1pm
• Theatr Gwynedd, Bangor
Llun 17/12/07 - 10am, 1.30pm
Mawrth 18/12/07 - 10am, 1.30pm
Mercher 19/12/07 - 10am, 1.30pm
Iau 20/12/07 - 10am, 1.30pm
Gwener 21/12/07 - 10am
Mawrth 08/01/08 - 10am, 1.30pm
Mercher 09/01/08 - 10am, 1.30pm
• Canolfan Y Celfyddydau, Pontardawe
Gwener 11/01/08 - 10am, 1pm
• Theatr Mwldan, Aberteifi
Llun 14/01/08 - 7.30pm
Mawrth 15/01/08 - 10am, 1pm
Mercher 16/01/08 - 10am, 1pm
• Neuadd Goffa Y Barri
Iau 17/01/08 - 1pm
Gwener 18/01/08 - 10am, 1pm
• Y Riverfront, Casnewydd
Llun 21/01/08 - 10am, 1pm
Mawrth 22/01/08 - 10am, 1pm
• Theatr Y Gweithwyr, Coed Duon
Iau 24/01/08 - 10am, 1pm
Gwener 25/01/08 - 10am, 1pm
• Theatr Parc Y Dâr, Treorci
Llun 28/01/08 - 10am, 1pm
Mawrth 29/01/08 - 10am, 1pm
Mercher 30/01/08 - 10am, 1pm
Iau 31/01/08 - 10am, 1pm
Gwener 01/02/08 - 10am
Cysylltiadau Perthnasol
Oriel luniau Macsen
Ambell i farn
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|