| |
|
Redflight Barcud Gwynt dan adenydd
Adolygiad Gwyn Griffiths o Redflight Barcud gan adran WNO MAX o Opera Cenedlaethol Cymru yng Nghanolfan y Mileniwm, Gorffennaf 19 a 21 2005.
Opera siambr fer sy'n dod a bywyd gwyllt y wlad at blant y ddinas yw Redflight Barcud.
Eisoes gwelwyd y perfformiad yn amryw o drefi a phentrefi Cymru a bydd yn mynd i Birmingham a Lerpwl yn yr hydref.
Ennyn diddordeb Mae'r stori yn cychwyn gyda'r Cofnodwr Barcutiaid - a genir gan Craig Yates - yn ceisio denu diddordeb y plant yn hanes yr aderyn prin.
Nid yw'n hawdd, ond mae'n llwyddo.
Mae'r stori'n cael gwynt dan ei hadenydd ac awn i fyd y barcud.
Mae'r I芒r Farcud o Gymru (Ros Evans) yn cyfarfod 芒 Cheiliog Barcud o wlad dramor (Mark Evans) ac yntau'n cael ei swyno gan ei harddwch a'i hacen, a hithau'n ceisio dysgu tipyn o'i hiaith iddo.
Y mae libreto Gwyneth Lewis (uchod) yn cynnwys rhywfaint o Gymraeg.
Syrthio mewn cariad Mae'r plant a'r Cofnodwr anaracaidd yn gwylio dawns garu'r Ceiliog a'r I芒r, sy'n syrthio mewn cariad, adeiladu nyth a gwylio'n gariadus dros eu hwyau nes iddyn nhw ddeor.
Mae'r Cofnodwr, drwy'r plant, yn hysbysu'r gynulleidfa am y peryglon i nythod y barcutiaid - pobl yn dwyn wyau ac adar eraill, yn arbennig brain - yn ymosod arnyn nhw.
Wedi i'r cywion ddeor a thra bo'r Ceiliog allan yn chwilio am fwyd, daw'r brain ac ymosod ar y nyth a lladd un o'r cywion.
Gwelir y ddau farcud ifanc, gwancus, a arbedwyd yn tyfu, yn ffraeo ac yn y diwedd mae'r ceiliog ifanc yn hedfan i ffwrdd ond mae'r i芒r ifanc yn aros.
Cawn wybod, drwy'r Cofnodwr a'r plant, ystadegau am y barcutiaid, eu niferoedd a'r lleihad dros y blynyddoedd. Ond y maent ar gynnydd unwaith eto diolch i ymdrechion pobl a gwarchodwyr.
Gwylio pobl Erbyn hyn, yn 么l y stori, nid yn unig y mae pobl yn gwylio'r barcutiaid ond mae'r barcutiaid yn gwylio'r bobl!
Mae hwn yn gynhyrchiad gwreiddiol sy'n ymestyn dychymyg cynulleidfa ifanc - plant oedd y rhan fwyaf o'r gynulleidfa yn y perfformiad a welais i.
Mae'r olygfa ganolog ar lun lolfa gyda soffa foethus, teledu a'r teledu hwnnw yn sydyn droi'n nyth.
Ceir awgrym mai byd adar yw hwn drwy gymorth darlun ar y wal a ph芒r o adenydd yn hongian oddi ar y wal.
Mae'r Ceiliog Barcud wedi ei wisgo mewn siwt barchus a'r I芒r mewn dillad hardd, lliwgar.
I gryfhau'r syniad ein bod yn gwylio adar rhaid dibynnu ar symudiadau adarol ac, yn wir, llwyddodd Mark Evans a Ros Evans i wneud hyn yn rhyfeddol.
Yr oedd y golygfeydd caru'n hyfryd.
Syml a dyfeisgar Defnyddiwyd eisteddle'r gynulleidfa'n ardderchog i gyfleu'r syniad o adar yn hedfan. Syml, ond dyfeisgar.Plant Ysgol Gynradd Crist y Brenin, Caerdydd, oedd yn cynorthwyo'r Cofnodwr, a chwarae rhan y brain yn y perfformiad welais i.
Mewn perfformiadau eraill chwaraewyd y rhannau hyn gan ddisgyblion Ysgol Gymraeg Pwll Coch.
Dywedwyd wrthyf i'r elfen ddwyieithog fod yn gryfach yn y cynhyrchiad gyda'r Ysgol Gymraeg.
Profiad gwerthfawr Yr oedd hwn yn berfformiad arbennig ac yn brofiad gwerthfawr, yn sicr i'r plant a gymerai ran - ond hefyd i'r gynulleidfa.
Hoffais yn arbennig amrywiaeth cerddoriaeth y cyfansoddwr Richard Chew.
Yn anffodus, nid oedd y geirio bob amser yn glir iawn i fedru barnu pa mor dda oedd y libreto. Nid oeddwn yn si诺r bob amser ai yn Gymraeg ynteu yn Saesneg yr oedd yr unawdwyr yn canu.
Ond cynhyrchiad llawn dychymyg a dyfeisgarwch, serch hynny.
Cysylltiadau Perthnasol
Oriel luniau
Gwyneth Lewis
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|