|
Ploryn Sioe gerdd Gareth Glyn ac Angharad Tomos
Mae cyfansoddwr blaenllaw ac awdur adnabyddus wedi dod at ei gilydd i greu stori gerdd frawychus ar gyfer plant.
Bydd Ploryn gan Gareth Glyn ac Angharad Tomos yn cael ei berfformio am y tro cyntaf yn ystod G诺yl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn Llanelwy, ddydd Iau, Medi 22, 2005.
Disgrifiwyd y gwaith fel cymysgedd rhwng Roald Dahl a Phedr a'r Blaidd gydag arlliw o ffilmiau arswyd 'Hammer' hefyd.
Mae'r stori yn ymwneud 芒 Phloryn, mab i ddau gymeriad erchyll o'r enw Sothach a Sglyfaeth sy'n ei gloi mewn cloc yng Nghastell Gyrn Wigwy.
Tro cyntaf Dywedodd Ann Atkinson, Cyfarwyddwr Artistig yr 糯yl: "Rydym wrth ein boddau ac yn llawn cyffro wrth feddwl am glywed y darn cerddorol pwysig hwn am y tro cyntaf.
"Cael plant i ymddiddori mewn cerddoriaeth glasurol yw'r nod ac rwy'n siŵr y bydd Ploryn yn brofiad ardderchog iddyn nhw. Yn wir, bydd yn ddigwyddiad bythgofiadwy."
Mae Angharad Tomos o Benygroes, Arfon, yn awdur poblogaidd ymhlith plant ac oedolion ac mae'r stori hon yn ddilyniant i'w stori i blant, Sothach a Sglyfaeth.
Mae Gareth Glyn, o Langwyllog, Ynys M么n, yn fwyaf cyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru fel prif gyflwynydd y Post Pnawn ond y mae hefyd yn gyfansoddwr sydd wedi ennill bri gyda darnau cerddorfaol ar hyd a lled y byd.
Ymysg y s锚r sydd wedi perfformio ei waith am y tro cyntaf y mae Bryn Terfel a Charlotte Church.
Caiff Ploryn ei berfformio gan gerddorfa siambr wyth darn o Ensemble Cymru, a gomisiynodd y darn.
Yr actor Llion Williams fydd yn adrodd y stori gyda darluniau a gaiff eu dangos fel rhan o'r profiad amlgyfrwng wedi'u llunio gan Marc Vyvyan Jones.
Offeryn i bawb Meddai Gareth Glyn: "Mae'r darluniau yn wefreiddiol, yn llawn mynegiant a manyldeb - a hiwmor."Dywedodd y bydd gan bob un o'r cymeriadau - Ploryn, y ci, y gath, y sgerbwd, llyffant ac ati - eu thema a'u hofferyn eu hunain i helpu'r plant i ddod i'w hadnabod.
"Mae yna rywbeth yn y thema sy'n dweud rhywbeth wrthych am y cymeriadau unigol - er enghraifft mae Stwmp, y llyffant, yn gwneud s诺n sboncio a chrawcian.
"Mae thema'r sgerbwd yn cynnwys sain esgyrnog, ac yn y blaen. Nid effeithiau sain ond cerddoriaeth sy'n plethu'r gwahanol gymeriadau ynghyd," meddai.
"Un peth a fu'n bosibl yw creu awyrgylch dychrynllyd - mae popeth yn digwydd yng Nghastell Gyrn Wigwy ac mae pob un o'r cymeriadau sy'n byw yno'r un mor frawychus 芒'i gilydd.
"Rwy'n gobeithio y bydd y them芒u cerddorol agoriadol yn creu'r un fath o awyrgylch 芒'r hyn a geir mewn ffilm arswyd 'Hammer'," ychwanegodd.
"Mae'r stori yn eithaf trist ac emosiynol mewn un rhan ond yn fuddugoliaethus yn y diwedd." Gwahanol iawn Dywedodd Angharad Tomos mai cael plant i ymddiddori mewn cerddoriaeth glasurol yw'r syniad tu 么l i'r gwaith.
"Mae'n wahanol iawn i'r adeg pan oeddwn i'n tyfu i fyny - y gorau y gallech obeithio amdano yn yr ysgol bryd hynny oedd gwersi recorder neu biano.
"Rwy'n meddwl fod y plant yn ffodus iawn. Maen nhw'n cael cyfle na chafodd fy nghenhedlaeth i yn y 60au a'r 70au."Ychwanegodd fod ysgrifennu Ploryn yn ddisgyblaeth hollol wahanol i ysgrifennu llyfr.
"Yn yr achos yma roedd angen cyn lleied o eiriau 芒 phosibl, gan mai'r gerddoriaeth sy'n llywio'r darn. Mae'r geiriau a'r plot yn darparu canllaw i'r plant ei ddilyn.
"Rwy'n hoffi boddi pobl mewn geiriau felly roedd defnyddio llai o eiriau yn anodd i mi. Mae'n well gen i ysgrifennu nofel na stori fer, heb s么n am l锚n micro fel hyn.
"Roedd dileu geiriau disgrifiadol o'r darn a gadael i'r gerddoriaeth greu'r awyrgylch yn dipyn o her i mi."
Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru, Peryn Clement-Evans: "Pwrpas y darn yma yw galluogi pobl sy'n deall rhywfaint o Gymraeg fwynhau cynhyrchiad drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Rydym eisiau cyflwyno offerynnau'r gerddorfa a'r traddodiad cerddoriaeth glasurol i blant ifanc a theuluoedd."
Mynd ar daith Yn dilyn G诺yl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, bydd Ensemble Cymru yn mynd ar daith. Dydd Iau, Hydref 13 - Neuadd Powis, Prifysgol Cymru, Bangor; Dydd Gwener, Hydref 14 - Neuadd Dwyfor, Pwllheli; Dydd Sadwrn, Hydref 15 - G诺yl Cilcain, Cilcain, ger Yr Wyddgrug; Dydd Sul, Hydref 16, Canolfan Ucheldre, Caergybi.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|