|
Y Crochan Trwm ond addysgiadol!
Adolygiad Siwan Haf o gyflwyniad Ysgol Theatr Cerdd a'r Cyfryngau Coleg y Drindod o Y Crochan gan Arthur Miller
Yn gynharach eleni bu farw Arthur Miller - un o'r ffigurau amlycaf a mwyaf dylanwadol yn hanes y theatr Americanaidd.
Dyma, felly, gyfle i weld addasiad o un o'i weithiau "mwyaf grymus a phoblogaidd", yn 么l taflen hyrwyddo Coleg y Drindod.
Ar y cyfan, fe wnes i fwynhau y perfformiad dwy awr o hyd yma - rhy hir i rai yn y gynulleidfa, yn 么l y clapio gafwyd cyn i'r golau fynd fyny eto ar gyfer y bedwaredd act! - a berfformiwyd yn Theatr y Chapter, Caerdydd i gynulledifa o tua chant (eu rhan fwyaf yn ddisgyblion ysgol).
Beth i'w ddisgwyl Rhaid cyfaddef cyn cychwyn nad oeddwn i, mawr cywilydd imi, yn gyfarwydd a gwaith Arthur Miller, ac felly ddim yn rhy si诺r beth i'w ddisgwyl.
Roedd addasiad John Gwilym Jones o'r sgript yn dilyn arddull ieithwedd y cyfnod, er y llafareiddiwyd ambell i frawddeg yma ac acw, oedd, yn fy marn i, am y gorau.
Mae'n troi'n ddrama drom pan fo rhaid ichi ganolbwyntio i ddeall yr ieithwedd.
Hysteria gwleidyddol Fe ysgrifennodd Miller Y Crochan (The Crucible) yn 1953 yn ymateb i hinsawdd o gynnwrf a hysteria gwlediyddol yn yr UDA yn ystod y cyfnod hwnnw ac yn benodol, oherwydd ymgyrch danbaid y Seneddwr Joe McCarthy a'r House of Un-American Activities.
Roedd Miller ei hun yn un o'r enwau adnabyddus a enwyd yn ystod y cyfnod o ddwyn tystiolaeth yn erbyn cyfeillion a chydweithwyr.
O wybod y cefndir y cyfnod yr ysgrifennwyd y ddrama, a chefndir y ddrama o safbwynt pryd y seiliwyd hi yn 1692 , roedd pwrpas ac ystyr y ddrama yn llawer cliriach - a diolch, felly, am raglen oedd yn egluro hyn oll!
Golau coch Roedd y set seml a'r llwyfan pren crwn yn effeithiol iawn, yn arbennig felly ar ddiwedd actau pan gafwyd golau coch yn treiddio trwy'r holltau yn cyfleu naws uffern - a faint o weithiau y clywyd y gair hwnnw yn y ddrama hon?
Ar y cyd a 'diafol', 'Satan' a 'hedeg' - gair na wyddwn am ei fodolaeth cyn gweld y ddrama hon! Addsygiadol!
Roedd yr actio yn gryf gan bob un o'r myfyrwyr, a chawsom ein hatgoffa, dim ond ambell waith er hynny, mai dyma oedd yr actorion hyn.
Rhaid cofio mai rhai o brif nodweddion actio da yw llefaru a geirio clir yn ogystal 芒 chofio geiriau, a tharfwyd ychydig ar rai llinellau gan y blaenorol.
Doedd sgript hirwyntog, ac ambell biffian chwerthin gan ambell ddisgybl ysgol yn y gynulleidfa o ddim help i'r actor dan sylw chwaith. Dalier ati gan fod y castio yn berffaith i'r rhan.
Gan ferched Bu'n rhaid i bum cymeriad gael eu chwarae gan ferched oherwydd prinder bechgyn ar y cwrs penodol yma am wn i, a biti am y dyb hon.
Wedi dweud hynny, roedd eu perfformiad yn ganmoladwy iawn, yn arbennig felly Haf Morgan fel Y Barnwr Hathorne.
Dwi'n si诺r y gwelwn y rhan fwyaf o'r cast hwn (gan gynnwys Trystan Roberts, sydd bellach yn enw cyfarwydd i wylwyr S4C drwy'r gyfres boblogaidd Porc Peis) eto ar lwyfanau ein theatrau, neu ein sgriniau, yn y dyfodol.
Edrychaf ymlaen at eu gweld yn datblygu felly.
"Heavy going ond addysgiadol," oedd disgrifiad fy mhartner o'r noson a dwi'n si诺r i'r actorion deimlo yr un fath - yn ogystal a bod yn brofiad gwych iddynt o ran perfformio ar lwyfan a dysgu llinellau!
|
Gareth Bow Street Yn sicr y dylai Ms. Haf deimlo cywilydd am beidio bod yn gyfarwydd 芒 gwaith Arthur Miller, yn enwedig gan ei bod yn cael ei hanfon i adolygu drama o'i eiddo! Mewn gwirionedd mae'r cyfaddefiad yma'n tanlinellu sefyllfa druenus adolygu yn y Gymraeg. Allwch chi ddychmygu adolygydd Saesneg yn cyfaddef y fath beth am un o awduron mawr y byd? Awgrymaf y dylai Ms. Haf fynd ati nawr i ddarllen 'Death of a Salesman'; 'A View from the Bridge' ac 'All My Sons'. Mae hi'n sicr o fwynhau.
Catrin o Gaerdydd Mae'n rhaid i mi ddweud i mi gael fy mhlesio'n aruthrol gan dalent pur myfyrwyr Coleg y Drindod, yn enwedig Johnac Elisabeth Proctor, castio perffaith. Wedi astudio'r ddrama fy hun ar gyfer fy ngradd, roeddwn i'n gwybod y dylwn ddisgwyl tair awr drom, ond roedd pob eiliad yn werth chweil gyda'r actorion yn llwyddo i gadw fy sylw ac i ddeffro'n ddychymyg. Hoffwn longyfarch yr actorion, ac yn wir y cyfarwyddwr ar lwyddiant trawiadol y perfformiad, a does dim amheuaeth gen i y byddwn ni'n gweld y mwyafrif ohonynt mewn dramau yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen i'w gweld nhw eto!
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|