|
Y Pair Drama fawr Arthur Miller yn Gymraeg
Cyfieithiad o ddrama fawr Arthur Miller, The Crucible yw cynhyrchiad nesaf Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru.
Er yn seiliedig ar anoddefgarwch crefyddol a chyfreithiol tuag at 'wrachod' yn yr Unol Daleithiau dros 300 mlynedd yn 么l yr oedd digwyddiadau cyfoes ar flaen meddwl Arthur Miller pan sgrifennodd y ddrama yn y Pumdegau.
Ac o ran yr hyn sydd ganddi i'w ddweud mae yn ddrama sydd yr un mor berthnasol heddiw.
Pumdegau Perfformiwyd y ddrama am erlyn 'Gwrachod Salem', Massachusetts, yn 1953 gyntaf pan oedd erlyn Comiwnyddion ar ei anterth ac ar ei fwyaf annheg yn yr Unol Daleithiau.
Yn Salem cyhuddwyd 150 o fod yn wrachod a chafwyd 14 o ferched a phum g诺r yn euog a'u crogi.
Dedfrydwyd diffinydd arall, a wrthododd bledio, i farwolaeth drwy ei wasgu o dan lwyth o gerrig!
Troswyd y ddrama bwerus hon i'r Gymraeg dan y teitl Y Pair gan Gareth Miles - ei ail drosiad ar gyfer y cwmni ac yn dilyn llwyddiant Cariad Mr Bustl.
"Yn y ddrama mae Arthur Miller yn cyferbynnu achosion Salem i'r ymdeimlad gwrth Gomiwnyddol dwys a dreiddiodd drwy sefydliadau gwleidyddol a chymdeithasol Yr Unol Daleithiau yn ystod Pumdegau'r ganrif ddiwethaf pan gyhuddwyd, pardduwyd ac erlidiwyd miloedd o unigolion ar gam," meddai Mr Miles.
"Ond mae tystiolaeth o erledigaeth debyg yn amlwg heddiw, nid yn unig yn America, lle mae pobl yn cael ei hesgymuno am wneud dim ond lleisio barn," ychwanegodd.
Cynhyrchiad mwyaf Gyda chast o 17 Y Pair yw un o'r cynyrchiadau llwyfan mwyaf erioed yn y Gymraeg ac ymhlith yr actorion mae, Llion Williams, Dyfan Roberts, Christine Pritchard a Trefor Selway.
Chwaraeir rhan Abigail, arweinydd answyddogol ifanc a dichellgar y 'gwrachod' gan Catrin Morgan.
"Mae hon yn ddrama emosiynol a dadlennol sy'n cyfuno cariad, cydwybod ac iachawdwriaeth," meddai'r cyfarwyddwr , Judith Roberts.
"Mae'n stori sy'n gafael ac a fydd heb os yn dychryn, cyffroi ac yn swyno cynulleidfaoedd," ychwanegodd.
Disgrifiodd Gareth Miles yu ddrama fel un "obeithiol" hefyd.
"Mae'n dangos sut y gall yr unigolyn oresgyn anawsterau grymus sy'n
benderfynol o'i ddinistrio," meddai.
Y daith Bydd Y Pair yn cychwyn ar daith yn Theatr Gwynedd, Bangor (01248 351708) Iau, Gwener a Sadwrn, 7 - 9 Chwefror, 2008, cyn mynd ymlaen i:
Canolfan Celfyddydau (01970 623232) ar nosweithiau Mawrth a Mercher,
12-13 Chwefror, 2008;
Theatr Mwldan, Aberteifi (01239 621200) ar nosweithiau Mercher, Iau
a Gwener, 20-22 Chwefror, 2008;
Canolfan Celfyddydau Taliesin, Abertawe (01792 602060) ar
nosweithiau Iau a Gwener, 28-29 Chwefror, 2008;
Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug (0845 330 3565) ar nosweithiau
Mercher, 5-6 Mawrth, 2008;
Theatr y Lyric, Caerfyrddin (0845 226 3509/8) ar nos Lun, 10 Mawrth,
2008; gan orffen y daith yn
Theatr Sherman, Caerdydd (029 2064 6900) ar nosweithiau Iau a
Gwener, 13-14 March, 2008.
Bydd pob perfformiad yn dechrau am 7.30.
I ddod Y Pair' yw'r cyntaf o dri chynhyrchiad gan Theatr Genedlaethol Cymru ar gyfer 2008. Fe'i dilynir yn y gwanwyn gyda Siwan gan Saunders Lewis ac yna gyda drama newydd a dadleuol gan Aled Jones-Williams, Iesu!, a lwyfannir yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd, cyn mynd ar daith yn yr hydref.
|
|
|