Drama newydd i gwmni newydd gan Gwyneth Glyn
Adolygiad Kate Crockett o Maes Terfyn gan Gwyneth Glyn. Theatr y Sherman, Caerdydd, nos Iau, 20 Medi 2007. Cwmni Sherman Cymru.
Cwmni newydd yw Sherman Cymru a ffurfiwyd drwy uno Sgript Cymru a Theatr y Sherman, a drama newydd gan Gwyneth Glyn, Maes Terfyn, yw eu cynhyrchiad cyntaf, wedi'i chyfarwyddo gan Arwel Gruffydd.
Cegin fferm
Mae Dwynwen (Sara Cracroft) ac Emyr (Huw Garmon), yn gwpwl priod o gwmpas y deugain oed, yn byw ar fferm yn ardal Cricieth, gyda Dwynwen yn ffermio ac Emyr yn potsian cyfieithu, ac yn penderfynu ceisio ennill mwy o arian drwy roi gwersi Cymraeg unigol yn y cartref.
Cegin y ffermdy yw canolbwynt y set - ac oni bai am y gliniadur a Geiriadur Bruce ar y ford, go brin fod y gegin wedi newid llawer ers hanner canrif a mwy.
Mae caeau'r fferm - Maes Terfyn - yn ffinio 芒'r m么r ac mae'r set, y goleuo a'r effeithiau sain yn llwyddo i gyfleu'r lleoliad i'r dim.
Jo yw disgybl cyntaf Emyr - ac nid y Jo(seff) yr oedd e wedi'i ddisgwyl sy'n dod i aros yn eu cartref, ond Jo(celyn)- swyddog PR o Lundain sydd am ail-afael yn y Gymraeg a ddysgodd yn blentyn yn Llandudno.
Mae hi'n deall yr iaith ond heb allu siarad fawr ddim ("fatha Shep ni" meddai Dwynwen) - dyfais sy'n golygu y gall y ddeialog lifo heb ormod o dalpiau o Saesneg.
Does fawr o groeso i'r disgybl gan Dwynwen.
Mae'n ddilornus o ymdrechion ei g诺r fel athro ac mae'r cyferbyniad corfforol rhwng Dwynwen (bychan, di-si芒p, di-raen) a Jo (tal, tenau, trwsiadus) yn boenus o amlwg o'r cychwyn cyntaf.
Maen nhw'n ddau begwn eithaf hefyd o ran agwedd at fywyd.
Cychwyn y fachog a ffraeth
Yn y golygfeydd agoriadol hyn cawsom linellau bachog, ffraeth, gydag amseru gwych gan yr actorion yn codi hwyl y gynulleidfa ac yn cychwyn y ddrama ar nodyn uchel.
Roedd hi'n braf gweld Lauren Phillips yn cael hwyl ar bortreadu cymeriad cwbl wahanol i'w rhan fel Kelly ar Pobol y Cwm.
Fodd bynnag nid oedd Jo yn codi uwchlaw'r stereoteip o'r Lundeinrwaig ddinesig yn aml iawn. Roedd ei sylwadau am fod yn lactose intolerant ac yn gluten free yn ddoniol ar y cychwyn; ond dyfais o gymeriad yw Jo mewn gwirionedd sydd yno er mwyn amlygu'r hollt enfawr ym mherthynas Dwynwen ac Emyr.
Disgwyl i rywbeth ddigwydd
Ond ar 么l y dechrau cryf a lwyddodd i sefydlu'r cymeriadau a'r sefyllfa, cefais fy hun yn dyheu am i rywbeth ddigwydd.
Cawsom olygfeydd hirion gyda'r tri yn cecru ac yn arthio ar ei gilydd, yn bennaf yngl欧n 芒'r bwriad i ddatblygu marina yn yr ardal, ond troi yn eu hunfan wnaeth y trafodaethau.
I mi, dyma oedd man gwan y ddrama.
Codwyd fy ngobeithion gyda dyfodiad pedwerydd cymeriad - ond prin oedd golygfeydd Dora Jones fel mam Dwynwen.
Ysbryd yn taro heibio yw'r fam, weithiau'n siarad 芒'i merch, weithiau'n symud yn ddisylw drwy'r t欧. Byddwn wedi hoffi gweld yr elfen hon yn cael ei datblygu'n fwy. Eto roedd digon o awgrym ym mherfformiad Dora Jones i ni ddeall bod natur glwyfedig Dwynwen yn ymwneud rywsut 芒 hanes ei mam.
Cyfrinachau
Fodd bynnag, o'r diwedd cafwyd datblygiadau yn y stori. Roedd y ffaith bod Jo yn gweithio ym maes PR yn awgrym cryf y byddai ganddi gymhellion cudd dros ddysgu Cymraeg.
Mae gan Dwynwen hithau ei chyfrinachau sydd yn cael eu gorfodi i'r wyneb, ac mae Emyr a Dwynwen yn gorfod penderfynu a oes dyfodol i'w priodas.
Daeth uchafbwynt y ddrama yn y golygfeydd dirdynnol hyn tua'r diwedd, a rhaid cyfeirio yn benodol at berfformiad grymus Sara Cracroft.
Fel kate Roberts
Gallai Dwynwen yn hawdd fod wedi'i benthyg o un o straeon Kate Roberts - ei nod yw cadw'r fferm i fynd er gwaethaf popeth ac nid oes lle i joio byw yn ei hagwedd biwritanaidd.
Tasg anodd yw portreadu cymeriad mor anghynnes heb golli cydymdeimlad y gynulleidfa'n llwyr ond ym munudau olaf y ddrama, mae'r argae'n torri a chawn ddeall pam ei bod mor galon-galed.
Mae portread Huw Garmon o'r llipryn di-liw Emyr hefyd yn argyhoeddi.
Ym Maes Terfyn cawn ddarlun poenus o gofiadwy o berthynas ar chw芒l, ac mae'r ddrama'n brawf arall o ddawn arbennig Gwyneth Glyn.
Efallai y byddai'r ddrama ar ei hennill o docio ar rai o'r golygfeydd tua'r canol ond mae'r cynhyrchiad caboledig hwn yn ddechrau addawol tu hwnt i gwmni newydd Sherman Cymru.
Adolygiad gan Glyn Jones
Taith y ddrama
Felinfach: Theatr Felinfach
25 - 26 Medi 01570 470697
Bangor: Theatr Gwynedd
28 - 29 Medi 01248 351708
Pwllheli: Neuadd Dwyfor
2 - 3 Hydref 01758 704088
Harlech: Theatr Harlech
5 Hydref 01766 780667
Abertawe: Theatr Y Grand
9 - 10 Hydref 01792 475715
Aberystwyth: Canolfan Y Celfyddydau
13 Hydref 01970 623232/p>