|
Bitsh Catalog o brofiadau anllad a diwedd erchyll
Adolygiad Alwyn Gruffydd o Bitsh - addasiad llwyfan John Ogwen o nofel Eirug Wyn.
Pan oeddwn i'n llefnyn yn fy arddegau y man cyfarfod i laslanciau - a glasferched - Ll欧n ac Eifionydd oedd ar y grisiau'n arwain at ddrysau gwydr Sinema'r Palladium ym Mhwllheli.
Yno y penderfynwyd a oedd yr arlwy diweddaraf o Hollywood y noson honno'n werth hanner coron ai peidio.
Yn ei thro ymwelodd ffilm o'r enw The Bible - In the Beginning 芒 Phwllheli a phan aed ati yn 么l yr arfer i drafod gwerth gwylio'r ffilm arbennig honno dyma'r ffraethaf o'n plith yn datgan:
"Tydw i ddim am fynd i'w gweld hi beth bynnag - mae'n well gen i'r Llyfr."
Anhawster pob addasiad A dyna yn y b么n anhawster pob addasiad o waith sydd eisoes wedi ymddangos mewn print.
Sut mae gwella ar y gwreiddiol? Neu hyd yn oed a oes modd ei wella?
Anhawster amlwg arall gydag addasiadau, wrth gwrs, yw bod rhai yn y gynulleidfa wedi darllen y gwreiddiol a rhai nad ydynt wedi'i ddarllen.
Ac yr ydych wedi tybio erbyn hyn, yn gwbl gywir, fy mod i'n perthyn i'r garfan gyntaf yn achos Bitsh.
Nofel fwyaf llwyddiannus Roedd, ac y mae, yna bictiwrs arall ym Mhwllheli - sef yr hen Town Hall - "Neuadd Dwyfor" bellach - ac yno yr es i weld yr addasiad diweddaraf ar gyfer y llwyfan.
Nofel o waith y diweddar, ysywaeth, Eirug Wyn yw Bitsh.
Hon oedd yr olaf o doreth o nofelau awdur oedd ar d芒n yn ei sgwennu, ar d芒n dros ei genedl ac ar d芒n dros y gwerthoedd gorau.
Mae'n sicr mai hon oedd ei nofel fwyaf llwyddiannus gan ennyn clod a bri pan ddyfarnwyd Gwobr Goffa Daniel Owen iddi yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002.
Mewn llai na dwy flynedd roedd Eirug wedi mynd.
Profiadol yn y grefft o addasu Mae'r addasiad gan John Ogwen; ac fel addasiad y mae'n un diddrwg didda.
Wedi'r cwbl, does dim llai i'w ddisgwyl gan rywun sydd mor feistrolgar a phrofiadol yn y grefft.
O'm cof bu ei addasiadau o nofelau Caradog Prichard a T Rowland Hughes - Un Nos Ola Leuad ac O Law i Law - ar gyfer y llwyfan yn llwyddiannau nodedig.
Ond efallai nad yw golygfeydd pytiog Bitsh yn cynnig yr un cyfleon a theimlais innau golli'r dilyniant ar adegau ac efallai mai addasiad ar gyfer radio, neu hyd yn oed ffilm/teledu, fasa orau ar gyfer y nofel arbennig hon.
Ffantasi rywiol Heb ymhelaethu'n ormodol ar y plot, ffantasi yw Bitsh. Ffantasi rywiol nad yw'n gadael nemor ddim i'r dychymyg wrth i'r prif gymeriad, Abednego Thomas - Abi i bawb o'i deulu a'i gyfoedion - ein harwain drwy gatalog o brofiadau anllad hyd at ei ddiwedd erchyll a gwallgof.
Mae'n treisio ei deulu, yn treisio'i genedl ac yn ei dreisio'i hun.
Caiff ei gymell a'i brocio gan ganeuon poblogaidd Chwedegau y ganrif ddiwethaf hyd at heddiw.
Ei wendid yw merched sy'n clymu eu gwalltiau yn pony tail.
Dywed rhai fod yna elfennau hunangofiannol yma ond pa waith creadigol o bwys sydd heb elfennau o'r fath?
Yr actorion Y cyfarwydd Jonathan Nefydd sy'n chwarae rhan Abi ac mae'n gwneud hynny gyda'i fedrusrwydd arferol ar lwyfan. Pob sill yn glir - pob symudiad i bwrpas. Mae Rhian Blythe yn portreadu pum cymeriad i gyd gan lwyddo i wneud iawn 芒 phob un. Dyma actores ifanc sy'n prysur berffeithio ei chrefft ac yn datblygu gyda phob cynhyrchiad.
Mae ei champ hi a Charwyn Jones - actor ifanc arall eithriadol addawol - o gynnal cymeriadau'r Americaniaid, Juliette a Jake, yn gofiadwy a dweud y lleiaf.
Awgrymais dro'n 么l cymaint o drysor yw'r actorion Eilir Jones a Maldwyn John i'r gomedi Gymraeg gyda'r ddawn ganddynt i ennyn chwerthin heb yngan yr un gair a doedd eu hymddangosiad ar lwyfan Neuadd Dwyfor ddim yn eithriad ac er bod yna elfennau sy'n ddoniol o fath ynddi ni ellir honni am funud mai comedi yw Bitsh.
Ar 么l dweud hynny roedd dehongliad Eilir Jones o'r gweinidog yn berffaith.
Un aelod o'r cast sydd ar 么l. Chwaraewyd rhan Anti Mabel gan Catrin Fychan a hwn yw'r darn anoddaf o ddigon.
Mae'n rhaid i'r cymeriad yma ddirywio mewn moes ac mewn ymarweddiad o olygfa i olygfa.
Ar y dechrau roeddwn yn bryderus o gamgastio. Nid hon oedd yr Anti Mabel o'r nofel. Ond diangen fu'r pryder. Datblygodd Catrin Fychan fel y chwalodd Anti Mabel a chafwyd perfformiad clodwiw a mentrus.
Gorwneud achlysurol Iola Ynyr sy'n cyfarwyddo ac ar wah芒n i orwneud achlysurol - roedd ymddangosiad y pram yn arbennig o ddiangen - mae'n gynhyrchiad derbyniol iawn.
Caroline Roberts fu'n gyfrifol am y set ymarferol a dirodres.
Dyma'r cynhyrchiad cyntaf i deithio Cymru benbaladr gan Gwmni'r Fr芒n Wen a does dim byd fel neidio'n syth i'r dwfn. Nid yw Bitch yn gynhyrchiad hawdd. Mae bron a bod yn ffinio 芒'r anweddus.
Ond efallai mai fy nychymyg i ydi hynny. Wedi'r cwbl rydw i wedi darllen y llyfr.
Y daith
Nos Fawrth, 10 Hydref 2006 - Neuadd Dwyfor, Pwllheli.
Nos Fercher, 11 Hydref 2006- Neuadd Dwyfor, Pwllheli.
Nos Iau, 12 Hydref 2006 - Theatr Gwynedd, Bangor.
Nos Wener, 13 Hydref 2006 - Theatr Gwynedd, Bangor.
Nos Sadwrn, 14 Hydref 2006 - Theatr Gwynedd, Bangor.
Nos Fawrth, 17 Hydref 2006 - Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Nos Fercher, 18 Hydref 2006 - Theatr yr Halliwell, Caerfyrddin.
Nos Wener 20 Hydref 2006 - Theatr Glan yr Afon, Casnewydd.
Nos Fawrth, 24 Hydref 2006 - Theatr Ardudwy, Harlech. Nos Fercher, 25 Hydref 2006 - Theatr Ardudwy, Harlech.
Nos Iau, 26 Hydref 2006 - Theatr John Ambrose, Rhuthun.
Nos Wener, 27 Hydref 2006 - Theatr John Ambrose, Rhuthun. Pob perfformiad yn dechrau am 7.30 Cynhyrchiad ar gyfer rhai dros 14 oed yw hwn.
Cysylltiadau Perthnasol
Mwy am Bitsh
Eirug Wyn yn Eisteddfod Tyddewi
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|