| |
|
Lleu Plant ar eu traed a'u dwylo yn yr awyr!
Allwch chi ddim dadlau gyda llond theatr o blant.
A doedd yna ddim dadlau am ymateb cynulleidfa niferus Theatr y Pafiliwn Y Rhyl i'r perfformiad cyntaf yno o banto diweddaraf cwmni Mega, Lleu.
Yn nhraddodiad y cwmni hwn, panto wedi ei sylfaenu ar un o chwedlau'r Mabinogion yw hwn ac yn parhau ar daith o amgylch Cymru tan fis Ionawr nesaf gan ddod i ben yn y Riverfront, Casnewydd.
Ac yn 么l Dafydd Hywel, yr arian byw y tu 么l Mega, arwydd calonogol o lwyddiant y panto Cymraeg blynyddol hwn yw y bydd tri pherfformiad dros ddau ddiwrnod yng Nghasnewydd, Ionawr 22 a 23 2009.
Bu'r cwmni yn cynnal pantomeim er 1994 gan arloesi trwy ganolbwyntio yn bennaf ar straeon o'r Mabinogion yn hytrach na'r them芒u pantomeim arferol.
Ond y presennol, wedi ei sylfaenu ar chwedl Lleu Llawgyffes, fydd yr un Mabinogaidd olaf gan wneud hon, yn ei ffordd, yn daith hanesyddol.
Yn hanesyddol am reswm arall hefyd;
Gan nad oes Theatr Gwynedd i ymweld 芒 hi ym Mangor eleni yr ofn oedd y byddai'r ardal honno a'i chynulleidfa niferus yn cael ei hamddifadu o banto Cymraeg - nes i Mici Plwm ddod i'r adwy a threfnu perfformiadau Rhagfyr 11 a 12 mewn adeilad ar faes amaethyddol Mona, o bobman, cartref preimin neu sioe amaethyddol M么n.
Mae Theatr y Pafiliwn yn Y Rhyl yn un 芒 chymylau bygythiol drosto hefyd a diau i'r lliaws o blant a deithiodd yno o bell ac agos Rhagfyr 1 fod yn atgyfnerthiad i ddadl y rhai sydd am ddiogelu'r lle.
Cyfuniad o lol, dawns, c芒n a dwli wedi ei seilio ar chwedl Lleu Llawgyffes yw Lleu a'r stori yn cychwyn gyda baban bychan yn syrthio i'r ddaear yn dilyn brwydr ffyrnig "rhwng eryr yr haul a helwyr y nos".
Dyma Lleu (Trystan Llyr) a dilyn hynt a helynt ei garwriaeth ef 芒 Blodeuwedd (Glesni Fflur) brydweddol y mae'r panto a chymorth Bryn - Gwydion - Sbwriel (Erfyl Ogwen Parry) efo 'wheelie bin') i droi'r drol ar y gynllwyngar Arianrhod (Carys Eleri) a Gronw Perf (Trystan Wyn).
I oedolyn sy'n gyfarwydd 芒'r chwedl gallai'r cyfan ymddangos yn ddryslyd - a swnllyd - iawn ond yr oedd y plant wrth eu boddau gan ymateb gyda'r cymhelliad leiaf i'r hyn oedd yn digwydd ar y llwyfan gan ei gwneud hi'n hawdd iawn i'r actorion eu trin.
Yr oedd y theatr yn fyddardod o s诺n a'r gynulleidfa ar ei thraed gyda'i dwylo yn yr awyr yn ystod rhai o'r caneuon.
Ac er bod gwedd wahanol i'r 'dihiryn' eleni gydag Arianrhod yn ddeniadol bryd olau yn hytrach na'r hagr tywyll arferol denodd Carys Eleri ymateb gwych.
Yr un modd yr ymateb i Fryn Sbwriel Erfyl Ogwen Parry a gymerodd ei le arferol yn chwarae'r cymeriad doniol sy'n hanfodol i unrhyw bantomeim.
Bu gwrandawiad da i'r caneuon hefyd er bod y system sain yn golygu nad oedd y geirio'n gwbl eglur bob amser gan gynnwys yn ystod c芒n agoriadol Blodeuwedd.
Ar gyfer mamau a thadau yn y gynulleidfa roedd fersiwn a allai fod wedi parhau'n hirach o Ie, Ie, Na Fe y Tebot Piws ac, yn annisgwyl i rai, Tylluanod R Williams Parry trwy law Hogia'r Wyddfa.
A doedd R Williams Parry ddim yn rhywun yr oeddech yn disgwyl dod ar ei draws mewn pantomeim - ond y mae i dylluan, os nad tylluanod, le o bwys yn chwedl Lleu.
Gwir na chadwyd yn gwbl driw i'r chwedl wreiddiol ond yr oedd yn esgus ac yn rheswm i blant ymgyfarwyddo 芒'r chwedl honno ar eu dychweliad i'w hysgolion.
Diau y byddai rhai wedi eu trwytho cyn dod!
Mae pantomeimiau Cymraeg Mega yn osgoi o fwriad rhai o gonfensiynau y pantomeimiau Saesneg traddodiadol fel y 'Dame' a chael merch yn 'arwr' - ond dydi'r sioe ddim i'w gweld yn dioddef oherwydd hynny ac mae'n hyfryd cael sail Gymraeg a Chymreig i'r cyfan.
Ond mae rhywun yn gofidio fod yr arferiad o gael j么cs ciami yn gyforiog o eiriau mwys wedi ei hepgor hefyd. Mae angen y rheini, ar gyfer yr oedolion yn y gynulleidfa yn bennaf.
Ond pan yw plant yn ymateb fel y gwnaeth cynulleidfa'r Rhyl i "Howdi dwdi dwdi" Bryn Sbwriel pam dylai Mega boeni?
Wedi'r cyfan, waeth ichi heb na cheisio dadlau 芒 llond theatr o blant.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad o Martin, Mam a'r Wyau Aur gyda Martin Geraint
Dilyn chwedl Lleu
|
|
|
|