|
Dewi Prysor DW2416 Tristwch, digrifwch a dychryn - yn hoelio cynulleidfa
Adolygiad Alwyn Gruffydd o gynhyrchiad Llwyfan Gogledd Cymru o Dewi Prysor DW2416
"Rydan ni'n deulu unwaith eto."
Dyna oedd geiriau hapus Gwyneth Williams wrth y dorf o 200 a mwy o gefnogwyr oedd wedi ymgynnull y tu allan i Lys y Goron, Caernarfon toc wedi pump o'r gloch ar brynhawn Sadwrn cyntaf mis Mawrth, 1993.
Ychydig funudau cyn hynny, yn y llys, dyfarnwyd ei mab, Dewi Prysor Williams, yn ddieuog o gynllwynio i achosi ffrwydradau.
Roedd hynny bedwar mis ar ddeg ers cipio'r llanc pump ar hugain oed o'i gartref yn Bronaber ger Trawsfynydd gan dditectifs yn ymchwilio i Ymgyrch Losgi Meibion Glynd诺r.
Pedwar mis ar ddeg hunllefus. Pedwar mis ar ddeg oedd i daflu cysgod trwm a pharhaol dros fuchedd Dewi Prysor Williams. A'r pedwar mis ar ddeg hynny yw sail cynhyrchiad blaengar diweddaraf Llwyfan Gogledd Cymru; Dewi Prysor DW2416- rhif Dewi Prysor o dan glo.
Onestrwydd anghyfforddus Dewi Prysor ei hun yw'r awdur. Ei hanes o, drwy ei lygad o, ydi o.
Weithiau'n drist, weithiau'n ddigri. Weithiau'n ddychryn. Weithiau'n hynod sensitif. Mae elfen gref o gatharsis hen ffasiwn yma sy'n mynnu sylw ac yn esgor ar ymateb.
Ond nid melodrama mo Dewi Prysor DW2416. Mae yma onestrwydd anghyfforddus yma sy'n pigo'r cydwybod - yn brathu i'r byw.
Neges i'w fab Monolog yw Dewi Prysor DW2416 sydd wedi'i lleoli mewn ystafell wely glawstroffobig (nid annhebyg i gell carchar) yn dilyn yr achos llys yng Nghaernarfon.
Yn y cynhyrchiad mae Dewi Prysor yn paratoi neges ar ffurf fideo i'w fab, Owain, sydd eto i'w eni.
Mae'n trafod achau'r ddau. Mae'n s么n am y gwerthoedd creiddiol a berthynai i'w teulu ac a drosglwyddir o genhedlaeth i genhedlaeth.
Amddiffyn y gwerthoedd hynny a arweiniodd at ei arestio a'i gadw yn y ddalfa ar gam meddai'r tad arfaethedig wrth ei fab arfaethedig.
Yn Dewi Prysor DW2416 ceir llun o fywyd carcharor yn disgwyl ei dynged ynghyd 芒 disgrifiadau, dirdynnol ar adegau, o'r agweddau annynol a berthynai i garcharorion a'u gwarchodwyr fel ei gilydd, ac fel y gall y mwyaf gw芒r, mewn sefyllfa o'r fath, gwympo, heb feddwl bron, i drobwll ffiaidd a chreulon.
Limrigau a stompiau Ar nodyn ysgafnach daw yn amlwg yn ystod Dewi Prysor DW2416 i'r carchariad ysgogi Dewi Prysor i ddarganfod ei ddoniau llenyddol.
Ers hynny'n sicr bu'n hynod gynhyrchiol ac mae ei limrigau erbyn hyn, wrth gwrs, yn uchafbwynt stompiau'r wlad ac fe gyhoeddwyd detholiad ohonynt gan Wasg carreg gfwlach, Limrigau Prysor. Mae yna nofel a ddechreuwyd y tu 么l i'r bariau hefyd ar y gweill.
Ysgytwol a dewr Ond nid drama am garchariad yn unig sydd yma. awn lawer iawn mwy na hynny wrth i Dewi Prysor fwrw ei fol gerbron y byd gan drafod ei ofnau mwyaf dyfnion, ei obeithion a'i ddyheadau. Does yna ddim ymatal. Mae'n ddrama ysgytwol. Mae'n ddrama ddewr iawn.
Dyfrig Evans, prif leisydd y gr诺p pop Topper ac un o'r prif gymeriadau y gyfres deledu Emyn Roc a R么l, sy'n chwarae rhan Dewi Prysor, ac mae o'n berfformiad meistrolgar.
Llwyddodd i fynd dan groen y cymeriad yn gelfydd o ran llais, ystum ac ymarweddiad.
Prin na thaerwn ar adegau mai Dewi Prysor ei hun oedd ar y llwyfan cymaint y tebygrwydd.
Llwyddodd hefyd gadw'r gynulleidfa ar flaenau'u seddi gydol yr awr a chwarter a barodd y cynhyrchiad. Pob gair fel cloch. Pob symudiad i bwrpas. Perfformiad campus yn wir.
Llongyfarch creadigrwydd Cyfarwyddwr Dewi Prysor DW2416 yw Ian Rowlands ac mae yntau hefyd i'w longyfarch ar ei ddehongliad a'i greadigrwydd.
Mae yna 12 sgr卯n deledu yn rhan o'r set ar y llwyfan - pob un yn cofnodi'r hyn sy'n cael ei recordio ar gamera.
Daw cyfarpar i'w oed pan fo s诺m y camera ar waith. S诺mio i fewn i atgyfnerthu angerdd. S诺mio allan er mwyn lleddfu'r angerdd hwnnw. Effeithiol odiaeth.
Unwaith yn unig y defnyddir cyfarpar playback yr offer recordio a hynny er mwyn ail ddangos golygfa fwyaf cignoeth y cynhyrchiad.
Buasai defnyddio'r un tric ddwywaith wedi bod yn orddefnydd ac yn colli'r effaith a fwriadwyd.
Bu'r goleuo hefyd yn hynod effeithiol ar adegau i gyfleu naws ac chreu awyrgylch
Doniol o amlwg Os oes beirniadaeth ar y cynhyrchiad o gwbl yna mae fy llach at yr effeithiau sain. Teimlwn eu bod bron yn ddoniol o amlwg ar adegau ac yn tynnu oddi wrth ddifrifoldeb a dwyster gweddill y cyflwyniad.
Mae angen cynildeb os yw sain i gyfrannu'n deilwng tuag at greu'r emosiwn dramatig pwrpasol.
Cymaint o rym Ond ar 么l dweud hynny mae Dewi Prysor DW2416 yn brofiad theatrig digamsyniol o ran y sgript, yr actio a'r llwyfannu.
Cymaint yw grym y ddrama yr eisteddodd y gynulleidfa y bum i'n rhan ohoni yn Theatr Ardudwy, Harlech, yn llonydd yn eu seddi ar ddiwedd y perfformiad.
Roeddynt yn methu 芒 symud - yn syfrdan gan yr hyn oeddynt wedi ei weld a'i glywed.
Ni wn pryd y gwelais i ymateb o'r fath gan gynulleidfa o'r blaen.
Ar ddiwedd y ddrama mae Dewi Prysor yn llawn gobaith am y dyfodol ac am deithio i weld mam ei fab er mwyn ceisio ail gynnau'r fflam.
Fe wyddys erbyn hyn iddo lwyddo yn ei ymdrechion. Mae'r ffiol yn llawn a'r llun yn gyfan. Maen nhw yn deulu unwaith eto.
Gweddill y daith: Rhagfyr 1 a 2 Theatr Gwynedd, Bangor
Rhagfyr 5 Canolfan Gymunedol, Llanrwst
Rhagfyr 9 Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug
Rhagfyr 10 Galeri, Caernarfon
Rhagfyr 12 Lleoliad iiw gadarnhau
Rhagfyr 15 Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
Rhagfyr 17 Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog
Cysylltiadau Perthnasol
Limrigau Prysor - adolygiad
|
Deiniol Thomas Mae cynhyrchiad oedd i fod yn Llanrwst ar Rhagfyr 5ed, bellach yn cael ei gynnal yn Neuadd Goffa Ysbyty Ifan ar nos Fercher, Rhagfyr 7fed am 7:30pm.
Gweddill y Daith Wedi newid i:
Rhagfyr 1af + 2il - Theatr Gwynedd, Bangor
Rhagfyr 7fed - Neuadd Goffa, Ysbyty Ifan
Rhagfyr 9fed - Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug
Rhagfyr 10fed - Galeri, Caernarfon
Rhagfyr 12fed - Yr Institute, Llanfair Caereinion
Rhagfyr 14eg - Theatr Twm O鈥檙 Nant, Dinbych
Rhagfyr 15fed - Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
Rhagfyr 17eg - Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|