Llwyddo mewn sawl ffordd
Adolygiad Huw Alun Foulkes o Porth y Byddar. Theatr Genedlaethol Cymru.
Wedi i nifer ddatgan eu barn am gynhyrchiad diweddaraf ein Theatr Genedlaethol - rhai yn gadarnhaol, eraill ddim mor ffafriol - mater o raid oedd mynd i flasu'r arlwy drosof fy hun a hynny ar noson lawog, ddu yn Theatr y Sherman.
Tywyll
O wrando ar eraill yn trafod y ddrama yn ddiweddar, roeddwn yn disgwyl cynhyrchiad tywyll, hanesyddol ei naws yn cyflwyno gwybodaeth yn hytrach na chyffroi'r dychymyg.
Diolch i'r drefn, cefais fy siomi ar yr ochr orau!
Fel ag yr oeddwn yn ymlacio yn fy sedd daeth yr actorion ar y llwyfan mewn cotiau glaw a chyda'u hymbar茅ls gan gyflwyno ffeithiau yn ymwneud 芒 d诺r.
Wn i ddim pa mor fuddiol oedd trwytho'r gynulleidfa fel pe byddem mewn ystafell ddosbarth ond cafwyd ambell chwerthiniad a minnau'n gobeithio am fwy o hiwmor tebyg wrth i'r ddrama fynd rhagddi.
A dyna beth a gawsom - y llwydni rhwng y du a'r gwyn fel petai a'r gymdeithas gyfan yn cael ei phortreadu fel nad oeddwn wedi'i ddychmygu o'r blaen.
Erioed, i mi, mae hanes boddi Cwm Celyn yn drwm a thrist a'r unig straeon sy'n y cof ydi'r hanes a gyflwynwyd imi mewn dosbarthiadau Hanes a thrwy wrando ar bobl h欧n yn siarad am y digwyddiad.
Er imi deimlo ar sawl cyfrif fy mod yn gwrando ar sawl actor fel pe byddent athrawon Hanes yn trafod a chyflwyno ffeithiau yn y ddrama, 'roedd nifer o'r golygfeydd yn llawn angerdd, eraill yn dod a gw锚n i'r wyneb ac eraill yn gomedi gwych.
Chwa o awyr iach
Cafwyd amseru arbennig gan Sara Lloyd a oedd yn chwa o awyr iach yng ngolygfeydd y plant a hynny ar adegau pan deimlais fod y cynhyrchiad yn arafu.
O ganlyniad, 'roedd yr awdur wedi gosod golygfeydd y plant yn gelfydd iawn gan sicrhau fod y diniweidrwydd a llais yr ifanc sydd mor absennol o 'hanes y llyfr' yn gyson drwyddi draw.
I'm cenhedlaeth i, anodd iawn yw dychmygu sut oedd hi i fyw yn y cyfnod ac 'roedd cael cyfle 'i fyw' y cyfan ar ffurf drama yn un arbennig a'r cydbwysedd rhwng y dramatig a'r hanesyddol yn fy siwtio i'r dim.
'Roedd perfformiadau cyson Phil Reid a Llion Williams rhwng y 'golygfeydd dramatig' yn gaffaeliad gwerthfawr i'r sgript a'r ddau yn cynnal y llinyn stor茂ol oedd yn clymu'r cyfan ynghyd.
Fodd bynnag, rhaid imi nodi nad oedd pob gair gan Phil Reid i'w glywed yn eglur a hynny'n amharu ar fy mwynhad fwy nag unwaith.
Er hynny, dyma b芒r oedd yn cydweithio'n dda ar lwyfan a'u rhan fel haneswyr o fewn y ddrama yn cyfoethogi'r angerdd.
Gweledigaeth yn amlwg
'Roedd gweledigaeth Manon Eames yn amlwg a'r actorion i gyd yn llwyddo i bortreadu'r gwahanol gymeriadau 芒 dyfnder.
Bu defnydd creadigol o'r gerddoriaeth a'r ailadrodd cyson yn cyfoethogi'r emosiwn. Rhoddai'r set seml gyfle i'r cymeriadau arbrofi 芒 rhan helaeth o'r gofod chwarae a hynny'n ddewis doeth gan fod cynifer ohonynt.
Uchelbwyntiau'r cynhyrchiad oedd perfformiadau Betsan Llwyd, Sara Lloyd a Llion Williams, y cydbwysedd yr oedd ei angen rhwng drama a ffaith a'r ffordd y llwyddwyd i drosglwyddo un o ddigwyddiadau pwysicaf Cymru yn ddeallus ac ystyrlon.
Mae'n ddigon posib yr aiff nifer ati i lambastio'r cynhyrchiad am ddiffyg elfen ddramatig, am bentyrru ffeithiau nes diflasu ac am fod yn debycach i gystadleuaeth cyflwyniad llafar mewn eisteddfod neu gynhyrchiad theatr mewn addysg yn hytrach na drama o safon gan ein cwmni cenedlaethol.
Digon teg.
Ond i'r bobl ifanc oedd yn y gynulleidfa yn y Sherman, cawsom ein cyfareddu gan yr hanes a'r emosiwn - hanes sydd bellach yn llawer mwy eglur oherwydd i'r digwyddiad gael ei drosglwyddo mor gelfydd ac mor ddirdynnol gan gwmni proffesiynol o actorion safonol a lwyddodd i danio'r dychymyg.
Dal i ganu
Wrth gamu 'n么l i'r glaw ar fy ffordd adref y noson honno, 'roedd seiniau'r emynau yng Nghapel Celyn yn canu yn y cof a hynny'n ddigon i'm hargyhoeddi i hwn fod yn gynhyrchiad llwyddiannus ar fwy nac un lefel.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 成人论坛 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.