|
Sibrydion Adolygiad gan Nic Ros o gynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru
Medi 2004
"Efallai mai arian sy'n gwneud i'r byd droi ond trwy straeon y gallwn wneud synnwyr o'r cyfan." Felly dywed Greg Cullen, cyfarwyddwr arlwy diweddaraf Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Sibrydion.
Y bwriad yw i "geisio creu theatr sy'n apelio ar draws terfynau oedran a diwylliant".
Campwaith hudolus Yn sicr, yn weledol mae'r ffantasi dylwyth teg yma yn gampwaith, gyda set hudolus a rhyngweithiol James North ynghyd 芒 gwisgoedd gogoneddus.
Mae'r darluniau'n ddigon i ddal llygaid a dychymyg unrhyw blentyn neu oedolyn am gyfnod ond efallai bod dwy awr a hanner yn gofyn gormod.
Byddai'r stori'n colli dim o docio rhai rhannau, ac yn wir, ar adegau byddai cyflymu'n gymorth i lif y cynhyrchiad.
Mae'n wir nad ydy hi'n dasg hawdd neilltuo cyfle i bob aelod o gast enfawr, ac weithiau mae'r sioe yn teimlo'n fwy fel showcase na darn unedig o theatr.
Perfformwyr nid actorion Mae arddel safonau proffesiynol yn hanfodol i lwyddiant Th. G. I. C. Ac, fel arfer, mae gwledd o dalent yma; Tom Cullen yn gymwys o amrwd fel y Blaidd, Gruffydd Glyn ab Aled yn aeddfed a medrus fel y Teiliwr, ac Elain Llwyd yn meddu ar amseru comedi gwych yn rhan Liana.
Ond cast o berfformwyr sydd gennym ni yma, nid actorion.
Er bod y canu a'r dawnsio heb ei ail mae natur y sioe yn golygu bod y sgiliau yma yn ragofynion, a thybed a gollwyd rhai o'r "actorion" gorau yn y broses gyfweld o'r herwydd?
Hawdd deall penderfyniad Th. G. I. C. i fynnu sioe deithiol a phoblogaidd er mwyn arddangos galluoedd y bobl ifainc i gynulleidfaoedd mor eang 芒 phosib, ond mae'n amhosib peidio ag edrych yn 么l ar orffennol gogoneddus y cwmni gyda hiraeth.
Filyn Guidi Bu'r cwmni o dan gyfarwyddyd artistig Firenza Guidi ar droad y mileniwm, ac mae'r cyferbyniad rhwng ei gwaith hi a gwaith Greg Cullen yn peri i Sibrydion ymddangos yn druenus o ddiuchelgais.
Anodd fyddai i unrhyw un ddilyn etifeddiaeth Guidi a oedd, gyda'i pherfformiadau montage mewn lleoliadau arbennig, yn cyfrannu cymaint at addysg ehangach y bobl ifainc parthed posibiliadau theatrig.
Mewn prosiectau ieuenctid mae'r broses yr un mor bwysig 芒'r cynnyrch, ac er cystal y safon a gyflwynwyd ar lwyfan, roedd y deunydd ei hun yn boenus o hen ffasiwn.
Mewn sioe gerdd fel hon, ychydig iawn o le sydd i gynildeb dramatig. Ar adegau yn Sibrydion, roedd y perfformio yn efelychu pantomeim.
Ar lwyfannau Cymru fe gyflwynwyd ambell bantomeim gan gwmni proffesiynol o safon is na'r sioe yma.
Roedd y stori'n dibynnol ar elfennau dawns a sgript blodeuog yn hytrach nag unrhyw emosiwn gwirioneddol a pherfformiad Kimberley Nixon yn rhan y Ferch yn dioddef o achos hyn.
Er bod ganddi un o'r prif rannau, chafodd hi fawr o gyfle i ddangos ei thalentau, er bod ei pherfformiad yn l芒n ac yn ymroddedig.
Dwy iaith Sioe ddwyieithog oedd hon i fod, gyda'r Gymraeg ar flaen y rhaglen o dan y teitl cyfatebol Saesneg, gyda Whispers in the Woods mewn print bras.
Dyma'n anffodus arwydd o'r cydbwysedd ieithyddol, nad oedd yn llwyddiant mewn unrhyw ffordd.
Ni chafwyd digon o'r Gymraeg iddi fod yn ddim mwy na symbol ac nid oedd rhesymwaith amlwg yn y defnydd ohoni chwaith.
Roedd rhai golygfeydd yn neidio o'r naill iaith i'r llall, ac er nad actio naturiolaidd oedd yma, roedd y defnydd o'r confensiwn yn fympwyol.
Serch hyn, fe gafwyd ambell uchafbwynt yn iaith y nefoedd, gyda ch芒n Ceri Elen yn enghraifft nodedig.
Mae hi bron yn amhosib plesio pawb gyda sioe dwyieithog, ac efallai y dylid canmol y ffaith fod y Gymraeg yn bresennol o gwbl.
Roedd Sibrydion yn cynnig deunydd diddorol ac amrywiol ond heb lawer o her i'r perfformwyr, a lwyddodd yn ddios i gyflwyno ar lefel uchel.
Mae angen canmol y cast yn ei gyfanrwydd ond mae'r gwyliwr yma, fodd bynnag, yn gobeithio gweld Th. G. I. C. yn arbrofi mwy ac edrych tua'r dyfodol - yn y dyfodol.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|