|
Martin, Mam a'r Wyau Aur Llwyddiant yn dilyn llwyddiant
Adolygiad Sioned A Williams o'r pantomeim Martin, Mam a'r Wyau Aur
Cynhyrchiad Cwmni Martyn Geraint ar y cyd 芒 Theatrau Rhondda Cynon Taf.
Gwylio pantomeim yw profiad cyntaf llawer o blant o berfformiad byw mewn theatr ac felly mae'n braf, ac yn bwysig, bod yna gynyrchiadau safonol i'w cael bob Nadolig i blant Cymru.
Un sy wedi darparu sioeau safonol i'n plant ers blynyddoedd lawer yw Martin Geraint, a braf gweld bod llwyddiant pantomeim Cymraeg ei gwmni y llynedd, Pws Mewn Bwts, wedi arwain at gynhyrchiad arall eleni.
Cynulleidfa anodd Plant hyd at ryw wyth neu naw oed sy'n cael eu diddanu fwyaf gan sioeau Martin Geraint ac mae'n gynulleidfa digon anodd i'w phlesio, yn enwedig gan fod y plant erbyn hyn yn gyfarwydd ag effeithiau soffistigedig gemau cyfrifiadurol, ffilmiau DVD, ac 芒'r dewis o gannoedd o sioeau teledu ar ddegau o sianeli yn feunyddiol.
Mae Martin, Mam a'r Wyau Aur yn seiliedig ar stori'r hen Fam-诺ydd - sydd efallai yn chwedl ychydig llai adnabyddus na Phws mewn Bwts.
Er nad yw stori mor bwysig a hynny mewn pantomeim, mae stori gref y mae'r plant yn gyfarwydd 芒 hi yn sicr yn help wrth geisio cadw sylw'r gynulleidfa.
O gofio bod plant dosbarthiadau meithrin yn dair oed yn unig, yr oedd y perfformiad braidd yn hir. Fodd bynnag, diolch yn bennaf i ddoniau arbennig Martin Geraint ei hun, fe brofodd y cynhyrchiad hwn bod theatr fyw, fywiog a thraddodiadol, yn llawn gwisgoedd lliwgar a chaneuon hyfryd, ac heb fawr ddim effeithiau trydanol cyfoes, yn dal i fod 芒'r gallu i ddiddanu a hudo.
Y stori Mae Martin a'i fam dlawd (Gwyn Parry) yn byw ar fferm ac yn ei chael hi'n anodd talu'r rhent i'r sgweiar cas (Dion Davies.)
Mae Talwlw y dylwythen deg ( Ffion Wyn Bowen) yn clywed am eu picil ac yn ceisio creu g诺ydd fyddai'n dodwy wyau aur iddynt - ond mae hi braidd yn hanner-pan, ac felly mewn tro doniol i'r chwedl, Martin sy'n cael ei droi yn 诺ydd hud.
Ar 么l clywed am ei hanes, mae'r sgweiar yn gwahodd Martin i fyw ato a'i ferch brydferth ond hunanol, Henrietta (Elin Fflur) yn y castell. Ac o dipyn i beth daw'r diweddglo hapus i fwcwl wrth i Martin ennill calon Henrietta.
Cafwyd perfformiadau hoffus iawn gan Ffion Wyn Bowen fel Talwlw a Gwyn Parry yn Dame penigamp fel mam Martin. Edrychai Elin Fflur yn berffaith fel Henrietta, merch ifanc brydferth hanfodol y pantomeim ac yn canu'n hyfryd hefyd yn 么l y disgwyl.
Hen ffefrynnau Roedd y gynulleidfa yn amlwg yn gyfarwydd a hen ffefrynnau Martin Geraint fel C芒n y Cyfri a Ch芒n Symud y Corff ('糯! 诺! a! a!') ac oherwydd hynny cafwyd ymateb brwd i'r caneuon yma 芒'r plant yn amlwg yn croesawu'r cyfle i ddawnsio a symud.
Cafwyd ymateb gwych hefyd i'r gemau fel y ras basio'r wyau aur a'r pistolau d诺r am fod y plant wrth eu boddau yn cael eu cynnwys yn y sioe ac yn mwynhau cyfathrebu'n uniongyrchol gyda'r cast.
Roedd y rhain yn gyffyrddiadau syml ond effeithiol.
Ar y cyfan roedd y defnydd o bypedau hefyd yn effeithiol, er bod hiwmor geiriol y ddau byped oedd yn ymddangos ar ochr y llwyfan wrth newid set - yn null Statler and Waldorf y Muppet Show - dipyn bach yn rhy soffistigedig i'r plant ac heb fod yn ddigon doniol na chrafog i'r oedolion chwaith.
Cafwyd ambell j么c amserol a darodd ddeuddeg serch hynny, 芒'r cyfeiriadau at y credit crunch a diogi prifathrawon, er enghraifft, yn rhoi gw锚n ar wynebau yr athrawon ac aelodau h欧n y gynulleidfa.
Ar y cyfan mae'n bantomeim traddodiadol, syml, a safonol sy'n gyflwyniad campus i bleserau'r theatr.
Y Daith
Agor yn yng Nghanolfan y Miwni, Pontypridd ar 25 Tachwedd 2008 ac yna'n teithio Cymru: Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug - Rhag 1, 2. 3
Theatr Colwyn, Bae Colwyn - Rhag 4
Theatr Harlech, Harlech - Rhag 5
Neuadd Dwyfor, Pwllheli - Rhag 6 Theatr Congress, Cwmbran - Rhag 8 + 9
Theatr Y Lyric, Caerfyrddin - Rhag 10 + 11
Neuadd Les Ystradgynlais - Rhag 12
Canolfan Y Mileniwm, Caerdydd - Rhag 15, 16, 17
Theatr Brycheiniog, Aberhonddu - Rhag 18
Theatr Hafren, Y Drenewydd - Ion 7+ 8
Theatr Felinfach - Ion 9
Neuadd Y Glowyr, Y Coed Duon - Ion 13
Theatr Taliesin, Abertawe - Ion 14
Neuadd Goffa, Y Barri - Ion 15
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad panto 'Lleu' Cwmni Mega 2008
|
|
|