| |
|
Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd Oedd yna gynllwyn?
Pan holwyd Iwan Llwyd gan Beti George ar raglen Y Celfyddydau am y syniad o gynllwyn yngl欧n a chadeirio Hedd Wyn dywedodd:
"Wel, mae Alan Llwyd yn ei gyfrol am Hedd Wyn yn awgrymu bod yna rhyw fath o oedi o bosib cyn rhoi gwybod i deulu Hedd Wyn ei fod o wedi cael ei ladd a bod y sefydliad ac awdurdodau'r Steddfod wedi cael gwybod hynny cyn [nhw]
"Mae yna ryw anghysondeb gyda'r dyddiadau yn fanna. Dydw i ddim yn gwybod oes yna le i ddweud fod hynna yn gynllwyn a bod y ffaith fod milwr wedi ennill y gadair - a milwr oedd wedi'i ladd eisoes - wedi cael ei ddefnyddio achos yr oedd hi'n adeg yn 1917 pan oedden nhw o ddifrif eisiau mwy o ddynion yn y ffosydd.
"Ac roedd y pwysigion, Lloyd George, John Williams Brynsiencyn, i gyd ar y llwyfan o amgylch y Gadair Ddu ac roedd yna impact i'r seremoni y flwyddyn honno.
"Dydw i ddim yn gwybod wnaeth o gynyddu nifer yr hogiau ifanc wnaeth listio wedyn ond mae'n sicr ei fod wedi cael effaith - wel rydan ni'n dal i gofio.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|