|
Beckett yn y Steddfod Disgwyl am Beckett yn Abertawe
Bydd gwaith un o ddramodwyr enwocaf y bydyn cael ei ddathlu ar faes Prifwyl Abertawe eleni.
Y mae hi eleni yn gan mlynedd union ers geni Samuel Beckett awdur y ddrama y mae bron bawb yn gyfarwydd a'i theitl os nad ei hunion gynnwys, Waiting for Godot.
Ond yn ychwanegol at gyfansoddi'r ddrama honno y mae cyfraniad Beckett yn gwbl allweddol yn hanes theatr gyfoes.
Cant ac ugain o eiriau! Ac fel teyrnged iddo bydd Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru yn perfformio dwy o'i ddram芒u yn Theatr Fach y maes yn ystod yr wythnos - un ohonyn nhw yn ddrama o ddim ond 120 o eiriau!
"Cafodd Samuel Barclay Beckett, a aned yn Nulyn, yrfa hir, anniddig a ffrwythlon a barodd dros ran helaeth o'r ganrif ddiwethaf," meddai'r cwmni mewn datganiad.
"Mae ei ddram芒u'n ymwneud 芒 dioddefaint a pharhad dyn gyda'i gymeriadau'n ymrafael ag ystyr bywyd," ychwanegir.
Enillodd Beckett Wobr Lenyddiaeth Nobel ym 1969.
Er wedi ei eni yn Iwerddon yn ffrainc y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes ac yno, ym Mharis, y bu farw yn 1989.
"Yng ngwaith Samuel Beckett ar gyfer y llwyfan ceir dylanwad y bwrl茅sg, y fodfil, y theatr gerdd, y theatr gomedi Ffrengig, a steil ffilmiau mud cymeriadau fel Buster Keaton a Charlie Chaplin," meddai Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Cefin Roberts.
"Ond dylanwadodd yntau ar nifer o ddramodwyr Cymraeg a pha ffordd well o gofio ei eni na drwy ganfod beth fu ei gyfraniad i'r Theatr Gymraeg,"
ychwanegodd.
Mae'r ddwy ddrama o'i eiddo fydd yn cael eu llwyfannu yn Abertawe yn ddwy o'r rai byrraf hefyd a chyfieithwyd Swn Traed a Dod a Mynd - sydd 芒 chyn lleied 芒 120 o eiriau - yn arbennig gan Fardd Cenedlaethol newydd Cymru, yr Athro Emeritws Gwyn Thomas.
Dylanwadu ar Gymry "Cawn hefyd weld sut y bu i ddau o gymeriadau enwocaf Beckett o bosib, Fladimir ac Estragon o'r ddrama Aros am Godot, ail ymddangos mewn gwahanol rith yng ngwaith dramodwyr Cymraeg fel Aled Jones Williams, WS Jones a Gwenlyn Parry," ychwanegodd Cefin Roberts.
"Mae'r tebygrwydd yn brawf i Samuel Beckett ddylanwadu tuag at lwyddiant rhai o ddram芒u mwyaf cofiadwy Cymru," meddai.
Y perfformiadau Cynhelir y perfformiadau ar brynhawniau Llun, Awst 7, 2006, am 3.30 Mercher, Awst 9, 2006, am 1.00 a Gwener, Awst 11, 2006, am 2.00.
Yr actorion fydd Carwyn Jones, Christine Pritchard, Jonathan Nefydd, Lisabeth Miles a Valmai Jones gyda Chefin Roberts ei hun a Chyfarwyddwyr Artistig cynorthwyol Theatr Genedlaethol Cymru, Judith Roberts, yn cyfarwyddo.
Bydd tymor Samuel Beckett Theatr Genedlaethol Cymru yn parhau yn yr Hydref pan fydd y cwmni'n teithio prif theatrau Cymru gyda Diweddgan, cyfieithiad o un arall o'i ddram芒u, Fin De Partie.
Yn y llun: Valmai Jones, Lisabeth Miles, and Christine Pritchard yn canfod dylanwad y Gwyddel, Samuel Beckett, ar ddramodwyr Cymraeg.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|