Alun Pontarfynach
Y ffon yn canu."Helo , BJ sydd 'ma""Pardwn, pwy?""Buddug Bryngwyn Ganol, be' wyt ti'n 'neud nos Lun nesa?""Pardwn, nos Lun nesa ,pam?""Der draw i Neuadd Rhydypenne erbyn wyth o'r gloch am baned, ac hefyd i ti gael cyfarfod a gweddyll y gang""Pardwn ,pa gang?""Criw Licris Olsorts ,ok, cofia erbyn wyth, am baned, Hwyl". Distawrwydd. A dyna fy nghysylltiad cynta a BJ erioed, ond pwy oedd BJ?. Dirgelch mawr. Dim ond un ffordd oedd i ddatrus y dirgelch, mynd draw i'r Neuadd nos Lun erbyn wyth.Daeth nos Lun, a chyn cychwyn a'r fy siwrne , y wraig yn gofyn. " Ble ti'n mynd heno te?" " O , mynd draw i Rhydypenne i gael paned gyda BJ"" I gael paned gyda BJ , Pwy yw BJ ?""Buddug Bryngwyn Ganol""Pwy yw'r Buddud 'ma te?""Dim syniad gyda fi, hwyl,"Wel dyna beth oedd croeso, paned o de a Cadburys Mini Rolls, bocsed cyfan, a dyna gychwyn fy nghyrfa fel aelod o Gwmni Drama Licris Olsorts ac hefyd datrus y dirgelch. Pwy oedd BJ?. Dim on un gair sydd i ddisgrifio BJ, UNIGRYW, yn ei ffordd o ddweud , gwneud a gwisgo, y siwmper wen, y trowser coch 'half mast', un hosan binc , y llall yn 'lime green', a'r plimsols coch, a'r sgarff borffor flewog am ei gwddw , oedd fe'r oedd BJ yn berson unigryw a lliwgar iawn, yng ngwir ystyr y gair. Does dim amheuaeth fod BJ wedi agor drws newydd yn fy mywyd i , fel y gwnaeth i erall, a diolchaf fy mod wedi mentro drwy'r drws hwnnw. Mae gen i atgofion hyfryd iawn yn nhrysor fy nghof, llawer rhy niferus i'w rhestri yma. Ond yn fyr, fy Eiteddfod Genedlaethol gynta fel aelod o'r 'gang' ym Mhenybont ar Ogwr, ac roedd y Cwmni i fod i gystadlu yng nghystadleueth Y Ddrama yn Theatr y Maes, wel dyna beth oedd Drama , nid ar y llwyfan , ond wrth fynedfa y Maes, doedd dim tocyn mynedfa i'w gael gan BJ ar y car, a hwnnw yn llawn dop o wisgoedd, y ces 'make up,y picnic a digon o waith papur i lanw Llyfrgell, y cyfan yn un mwdwl yng nghefn y car , y mwdwl mwya anrhefnus a welais i erioed. Roedd y stiward yn gwrthod gadel i BJ fynd ar car i mewn i'r maes ,heb docyn arno , wel dyna gychwyn brwydyr a barodd am bron i chwarter awr, a phwy gariodd y dydd?.Y milwr yn y siwmper wen, y trowser coch a'r 'sane lliwgar. Bu dathlu mawr yn y garafan y noson honno , do yn wir , hyd orie man y bore. Cafodd y 'gang wahoddiad i fynd i berfformio drama Gymraeg mewn Gwyl Geltaidd yn yr Iwerddon, a phwy dderbyniodd y gwahoddiad a gwneud y trefniadau?. BJ. Roedd y gang i fod ar lwyfan Theatr New Ross am hanner awr wedi saith yr hwyr, ond ble'r oedd y gang am saith o'r gloch, y Wexford yn chwilio am y Theatr, a ble'r oedd y Theatr, yn nhref New Ross, ugain milltir i ffwrdd. 'Miss print' yn y trefniadau oedd ateb BJ i'r cyfan, son am hwyl a sbri, bu dathlu mawr yn yr Iwerddon y noson honno hefyd. Gwell peidio a son am y daith i Gaerdydd, yn ol y dywediad, gadel llonydd i gi sy'n cysgu sydd ore. Mae'r atgofion yn llifo yn ol, digon i lenwi llyfr , 'falle rhyw ddiwrnod y rhoddaf bensil ar bapur, a be fydd teitl y llyfr,ie ' Drama BJ.' Does dim amheuaeth fod BJ yn athrylith ym myd y Ddrama , yn Gynhyrchydd pen i gamp , yn gwbod yn union sut oedd cael y gorau allan o'r sgript a'r cast oedd ynddi , roedd hi hefyd yn feirniadol iawn o ambell i feirniad " Bobol bach , be 'ma fe y 'wbod ar shwd 'ma perfformo drama ,dim hanner digon" yn ol BJ , doedd hynny ddim yn digwydd yn amal iawn!!!!!!Mae rhai yn dal i son am Yr Hen Ysgol Brofiad , do mi fues i yn ddisgybl yn yr ysgol honno, o dan arweiniad BJ. Pob gwers ar lafar , llafar cefn gwlad Sir y Cardi. Diolch i ti BJ am gael y cyfle i fod yn un o'th ddisgyblion , mae pob gwers yn drysor byth gofiadwy yn y cof. Diolch am gael y cyfle o gyd droedio rhan o lwybyr bywyd yn dy gwmni , am y sgwrs dros baned o de ar ol y practis ym Neuadd Rhydypenne , a rhannu'r Mini Rolls a'r Custard Creams ,y Chinese tec awe ym Mhorthmadog am un o'r gloch y bore ( peidiwch a gofyn ) am y trip yng nghefn y Metro i Wyl Ddrama Corwen , am y mefus yn yr Iwerddon , am y tatws a'r carots o gaeau Bryngwyn Ganol, am yr holl wybodaeth am fyd y Ddrama, y cyfan oll yn rhad ac am ddim , un fel yna oedd BJ.
Rhydian Mason, Trefeurig
Roedd Buddug James Jones yn fenyw rhyfeddol,
Oedd yn byw gyda’r cathod ym Mryngwyn Canol.
Roedd ei char yn ofnadwy – y metro bach gwyn,
Ac er fod e’n yfflon roedd e’n rhyfeddol o chwym.
Ac yn y car bach oedd ei ‘filing system’ –
Stwff ‘in’ ar set flaen, a stwff ‘owt’ ar y cefen..
Ychydig linellau o bennillion a ysgrifenwyd pan ymddangosodd ar ‘halen y ddaear’.
Anodd iawn ystyried mae yn y ‘gorffennol’ mae’r pennillion yna nawr, a Buddug mor fyw yn ein cof.
Fel cyn-aelod ac arweinydd yng Nghlwb Ffermwyr Ifanc Talybont, Ceredigion (fel yr oedd Buddug flynyddoedd yn ol), rhaid procio fy nghap iddi am ei ymroddiad, amynedd, gwybodaeth, ac yn fwy pwysig na dim – ei nonsens plentynaidd, pryfocllyd a oedd bob amser yn dadlau gyda’i oedran ac aeddfedrwydd.
Y cyrten wedi cau – ond fel arfer dyna pryd mae’r partio’n cychwyn….
So long BJ !
Peter Leggett, Dole
Cymeriad heb ei ail oedd BJ gan gyffwrdd â chalon pawb daeth ar ei thraws hi. Colled i ardal ac yn wir i Genedl. Hwyl a sbort oedd yn ei chwmni pob tro a'i doniau dawnus wedi gadael ei hol ar nifer o bobl, hen ac ifanc. Ni fydd Dole 'run fath hebddi, ac rydym yn gweld eisiau'r Metro gwyn (filing cabinet) yn gwibio trwy'r pentref fel mellten! Parod iawn ei gymwynas pob tro. Pob bendith BJ
Osian Edwards, Aberllefenni, ger Machynlleth
Heb diwtoriaeth BJ, ni fyswn wedi dal ati gyda drama cymaint a rydw i heddiw. Hefyd, ni fyswn wedi ennill gwobrau ar lwyfannau Eisteddfodau Sir a'r Genedlaethol, ar faes y Faenol. Colled enfawr i fyd y ddrama yng Nghymru, ac i blant a phobl ifanc sawl ardal - Bala, Bro Ddyfi a Bow Street, i enwi dim ond rhai.
Diolch, BJ, am fod yn chi eich hun. Gwyddai pawb oedd yn ei hadnabod am beth rwy'n sôn.
Cemlyn, Bordeaux
Diolch Buddug am eich cymorth ac am eich egni di-derfyn dros y blynyddoedd. Roeddech yn ffrind annwyl ac rydych yn gadael gwagle mawr ar eich hol yn ardal Aberystwyth.
Rhian Dobson
Nai fyth anghofio BJ. Bydd colled enfawr ar ei hol yng ngogledd Ceredigion. Llawer o atgofion da - mynd i wyliau drama bont a chorwen ac i gystadleutahu'r urdd gyda cwmni ifanc licirs alsorts. Torri lawr yn y car bach gwyn ar ol bod yn actio'n felin fach a chael andros o help efo'r tgau a'r lefel A. Ron in mwynhau yn ei chwmni.. yn gwrando ar ei storeuon di-ri ac yn rhoi'r byd yn ei le dros baned o de.
Ar hyn o bryd dwi'n astudio theatr ar cyfryngau ym mhrifysgol bangor - ac mae'r diolch am hynny i BJ.
Ian Lloyd
Colled fawr, cofio'r hwyl, cofio'r dysgu, cofio yr ymroddiad llwyr.
Erbyn hyn dwi'n athro drama pitw a Buddug na'th agor y drws.
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn: